Mayhill: 'Dim gweithredu' i daclo troseddu cyn yr anhrefn

  • Cyhoeddwyd
Adam Romain
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Adam Romain a'i gartref eu targedu yn yr anhrefn ym mis Mai

Digwyddodd anhrefn yn ardal Mayhill o Abertawe yn dilyn "diffyg gweithredu dybryd" i reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal, medd trigolion.

Cafodd cartref Adam Romain, ei bartner a'u dwy ferch fach, ei dargedu yn y trafferthion yno ym mis Mai.

Ond dywedodd y dyn 27 oed ei fod wedi dweud wrth yr heddlu am gar gafodd ei ddwyn a'i rolio i lawr yr allt ger ei dŷ nôl ym mis Chwefror.

Ychwanegodd mam Mr Romain, Christina: "Roedd yna ddiffyg gweithredu dybryd, ac fe ddylai pobl gael eu dwyn i gyfrif."

'Methiannau' yr heddlu

Ddydd Llun cyhoeddwyd y bydd adolygiad annibynnol o'r digwyddiadau yn Mayhill wedi ei gomisiynu gan Gyngor Abertawe, Heddlu De Cymru a'u Comisiynydd Heddlu a Throsedd, ac fe fydd yn cael ei arwain gan banel o arbenigwyr.

Ond dywedodd Mr Romain wrth raglen BBC Wales Investigates bod car wedi cael ei ddwyn a'i rolio i lawr yr allt ger ei gartref am tua 02:00 y bore ym mis Chwefror.

Fe wnaeth y car "rolio i lawr a chwalu drwy" rhwystrau ar waelod yr allt ar Ffordd Waun-wen, eglurodd.

Wedi'r digwyddiad yna fe ddaeth y gymuned at ei gilydd "a dechrau trafod a ddylen ni brynu rhwystrau concrit ein hunain a'u gosod nhw yno," meddai.

Ffynhonnell y llun, Robert Mellen
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ffordd Waun-wen yn edrych fel "maes y gad" medd rhai trigolion

Oherwydd y digwyddiad blaenorol, dywedodd Mr Romain y byddai Heddlu'r De a Chyngor Abertawe yn gwybod "na fyddai'r bolardiau'n mynd i warchod rhyw lawer a bod yna berygl".

Ychwanegodd Christina Romain am y digwyddiad ym mis Mai: "Doedd dim monitro o'r sefyllfa. Roedden nhw [y troseddwyr] yn cymryd brics o'r wal ac yn cario 'mlaen. Roedd yn erchyll o feddwl bod pobl ar y ffôn.

"Roeddwn i'n ffonio'r gwasanaethau brys dro ar ôl tro. Roedden nhw'n dweud eu bod nhw'n ymwybodol o'r trafferthion."

Wrth ymateb dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart: "Cyn belled ag ydw i'n ymwybodol, roedd y digwyddiad blaenorol yn un ynysig. Roedd trafodaeth llawer ehangach yn digwydd am feiciau modur a phobl yn seiclo'n gyflym iawn i lawr yr allt."

Ffynhonnell y llun, Adam Romain
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd car Adam Romain ei losgi yn ystod yr anhrefn

Dywedodd y Prif Uwch-Arolygydd Jo Maal o Heddlu'r De: "I bobl sy'n byw ar Ffordd Waun-wen a'r cyffiniau, gallaf ddeall yn llawn y byddai hwn wedi bod yn brofiad brawychus iawn.

"O ran ein hymateb, fe fyddwn ni'n ystyried yr holl elfennau yma... pa alwadau gafodd eu gwneud i ni, a faint gymrodd hi i ni ymateb.

"Ond fe ddaw hynny i gyd yn amlwg maes o law."

Wrth ateb honiadau bod ymateb yr heddlu yn annigonol, dywedodd fod "pob elfen [o'r digwyddiad]" yn cael eu hymchwilio.

Cafodd saith o blismyn eu hanafu yn y digwyddiad ac fe gafodd 20 o bobl eu harestio.

Pynciau cysylltiedig