Mayhill: Adolygiad i ganfod y rhesymau am anhrefn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Bydd panel o arbenigwyr yn ystyried pam fod anhrefn wedi digwydd yn ardal Mayhill o ddinas Abertawe ddeufis yn ôl.
Cafodd ceir eu llosgi a ffenestri a drysau eu malurio wedi i wylnos i ddyn ifanc a fu farw droi'r dreisgar.
Bydd adolygiad annibynnol i'r trafferthion edrych ar gefndir y digwyddiad i weld a oes modd dysgu gwersi.
Cafodd saith plismon eu hanafu ac 20 o bobl eu harestio ar amheuaeth o droseddau treisgar wedi'r digwyddiad.
Bydd yr adolygiad ar y cyd rhwng Cyngor Abertawe, Heddlu De Cymru a'u Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn cael ei arwain gan banel o dan gadeiryddiaeth Yr Athro Elwen Evans QC, yr arbenigwr heddlu Martin Jones a'r ymgynghorydd llywodraeth leol Jack Straw.
Dywedodd rhai o'r trigolion nad oeddwn nhw bellach yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi wedi iddyn nhw gael eu targedu gan y troseddwyr.
Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart: "Roedd y trafferthion anghyfreithlon a welsom yn syfrdanol.
"Gweithredoedd troseddwyr oedd y rhain, a ddim yn wir adlewyrchiad o gymunedau bendigedig Mayhill a Waun Wen... na mwyafrif pobl Abertawe.
"Fe wnaethon ni weithredu'n syth i gefnogi trigolion wedi'r trafferthion, ac rydym yn parhau i weithio ochr yn ochr gyda theuluoedd, pobl ifanc, cynghorwyr lleol ac arweinwyr cymunedol."
Bydd trigolion a gafodd eu heffeithio gan y trafferthion, ynghyd â grwpiau cymunedol, yn cael gwahoddiad i roi eu barn i'r panel.
Mae'r adolygiad yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru.
Ychwanegodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael: "Bydd yr adolygiad yn edrych ar yr hyn a arweiniodd i'r digwyddiad, a oedd modd darogan hynny a'r ffordd y gwnaeth asiantaethau ymateb i gefnogi'r gymuned leol ac adfer hyder wedi'r digwyddiad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2021
- Cyhoeddwyd27 Mai 2021
- Cyhoeddwyd24 Mai 2021
- Cyhoeddwyd23 Mai 2021
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021