Beicwyr dŵr: 'Rhai unigolion sy'n rhoi enw drwg'

  • Cyhoeddwyd
Beic dwrFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae defnyddwyr beiciau dŵr yn galw ar bobl i beidio eu beirniadu nhw i gyd ar sail ymddygiad rhai unigolion.

Mae'r heddlu wedi rhybuddio y gallan nhw erlyn ar ôl adroddiadau ar gyfryngau cymdeithasol bod rhai wedi eu gweld yn amharu ar heidiau o adar môr mewn mannau sensitif yn y gogledd.

Ond yn ôl un sy'n defnyddio beic dŵr, mae clywed am ymddygiad o'r fath yn gwneud i'r mwyafrif o ddefnyddwyr cyfrifol deimlo'n "drist iawn".

Mae cymdeithas adarwyr yn dweud bod angen rheolaeth lymach o ddefnydd beiciau dŵr, er mwyn atal problemau.

'Meddwl bod jetskiers i gyd fel 'na'

Mae adroddiadau diweddar ar gyfryngau cymdeithasol o feiciau dŵr yn amharu ar fywyd gwyllt.

Mae Chris Squires yn defnyddio beic dŵr ers 2015: "Mae rhywun yn gweld hwnna ac wedyn maen nhw'n târio pawb 'efo'r un brwsh.

"Mae rhaid i chi gofio ar unrhyw benwythnos fydd 'na gannoedd o jet skis ar y môr o gwmpas gogledd Cymru.

"Ond dim ond y snippets yna 'den ni'n gweld ac mae pobl yn meddwl bod jetskiers i gyd fel 'na, a tydan ni ddim."

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen rheoli beiciau dŵr er mwyn diogelu adar môr, meddai'r BTO

Mae Mr Squires yn cydnabod fod problem delwedd gan feiciau dŵr.

Mae'n aelod o PWC Gwynedd, sydd â 3,000 o aelodau ac yn mynd ag aelodau newydd ar deithiau i'w dysgu am sut i ymddwyn ar y dŵr.

Mae hefyd eisiau i ragor wneud hyfforddiant y Royal Yacht Association, fel y gwnaeth o.

"Yn y cwrs yna, maen nhw'n dysgu'r ffordd iawn i handlo'r peiriant ac yn dysgu sut i barchu'r amgylchedd."

Dywedodd llefarydd o'r Royal Yacht Association eu bod wedi eu "tristáu" o glywed am ymddygiad honedig rhai beiciau dŵr.

"Tra'n bod ni'n annog pobl i wneud ein cyrsiau hyfforddiant, rydym yn derbyn bod dulliau eraill i bobl ddod yn ddefnyddwyr cyfrifol. Dydyn ni ddim o blaid gwneud ein cyrsiau'n orfodol.

"Mae'n llawn mor bwysig gweithio gyda phartneriaid fel y gymuned beiciau dŵr, awdurdodau lleol a'r heddlu i dynnu sylw at ymddygiad gwrth-gymdeithasol pan fo'n digwydd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Kelvin Jones ydy Swyddog Datblygu cymdeithas adarwyr y British Trust of Ornithologists (BTO).

Dydy o ddim wedi gweld yr ymddygiad sy'n cael ei ddisgrifio ar wefannau cymdeithasol ei hun, ond mae o eisiau gweld gwell rheolaeth ar feiciau dŵr.

"Mae o fyny i'r cynghorau rŵan i wneud yn siŵr bo' rhaid i ti lansio o'r un llefydd, bo' gen ti yswiriant i gyfro dy hun, bo' ti 'di bod ar gwrs hyfforddi a bo' ti'n gw'bod be' ti'n 'neud."

"Os fedran ni adnabod y bobl sy'n creu'r problemau, fedrwn ni wneud rhywbeth amdano fo.

"Ond fel mae hi rŵan does na'm ffordd o wybod."

'Amhosib' rheoli pawb

Y Cynghorydd Carwyn Jones ydy deilydd portffolio Datblygu Economaidd Cyngor Ynys Môn.

Mae'n dweud bod 100 o lithrfeydd yn rhoi mynediad i'r môr ar Ynys Môn a'i bod hi'n "amhosib" i reoli pob un.

"'Den ni'n addysgu pobl, 'den ni'n rhoi rheolau yn eu lle. 'Den ni rhoi disgownt i bobl sydd wedi eu hyfforddi cyn mynd ar y Fenai.

"Felly 'den ni yn gwneud lot o bethau. Ond hefyd mae isio deddfwriaeth gwlad."

Pynciau cysylltiedig