Cynnig mesur i reoli beicio sgïo dŵr

  • Cyhoeddwyd
Beic sgio dwrFfynhonnell y llun, Photofusion | Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd nid oes angen trwydded i yrru beic o'r fath

Mae AS Gogledd Cymru yn gobeithio cyflwyno deddfwriaeth Seneddol sy'n rheoleiddio'r defnydd o feic sgïo dŵr a'i gwneud hi'n anghyfreithlon gweithredu cerbydau dŵr o'r fath heb drwydded.

Daw'r mesur preifat gan Hywel Williams AS yn dilyn galwadau tebyg gan Gyngor Gwynedd, ac ar ôl dwy farwolaeth yn ymwneud â beic sgïo dŵr yn y sir ym mis Awst.

Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Gwynedd reolau, dolen allanol sy'n ei gwneud hi'n orfodol i bobl gofrestru gyda nhw cyn defnyddio cerbydau dŵr yno.

Mae disgwyl i'r mesur preifat gael ei gyflwyno ddydd Mawrth

"Ar hyn o bryd mae'n bosibl i unrhyw un, hyd yn oed plentyn mor ifanc â 12 oed, yrru beic sgïo dŵr," meddai AS Arfon, Hywel Williams.

"Nid oes angen trwydded ar yrrwr beic o'r fath - yn wahanol i'r mwyafrif o wledydd eraill yr UE a thu hwnt, sydd eisoes â system drwyddedu lem ar waith.'

"Fel AS sy'n cynrychioli ardal sydd wedi hen arfer â defnyddio beic sgïo dŵr a chychod dŵr personol, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf, rwy'n teimlo bod diogelwch morwyr eraill a phobl sy'n mynd ar draethau yn cael ei danseilio ar hyn o bryd gan y diffyg deddfwriaeth bresennol."

Dywedodd y cynghorydd Gareth Thomas wrth y Gwasanaeth Adrodd Democratiaeth Lleol bod y cwynion am ddefnydd peryglus o'r beiciau dwr wedi "cynyddu'n sylweddol".

"Mae'n rhyfedd nad oes unrhyw reoliad mewn gwirionedd i reoli cychod sy'n gallu teithio ar gyflymder uwch na 40mya gan unrhyw un, waeth beth fo'u hoedran, a heb yr angen am hyfforddiant, yswiriant na thrwydded o gwbl," meddai'r Cynghorydd Thomas, sy'n gyfrifol am faterion morwrol yng Nghyngor Gwynedd.

"Ni fyddem yn gadael i'n plant neu wyrion deithio ein ffyrdd ar feic modur. Ond does dim deddf ar waith i atal plentyn 12 oed rhag neidio ar gefn y peiriannau pwerus hyn a chwarae ar ein dyfroedd, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr. "

Fis diwethaf, dywedodd Robert Courts, Is-Ysgrifennydd Seneddol yn yr Adran Drafnidiaeth ei fod yn llunio deddfwriaeth ddrafft i "sicrhau y gellir erlyn unrhyw un sy'n achosi damwain yn fwriadol neu'n esgeulus wrth ddefnyddio cwch ddŵr personol".

Mae mesur Hywel Williams AS wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol, ond mae'n wynebu sawl cam yn y Senedd cyn y byddai modd ei weithredu.