Cyfle i adrodd straeon newid hinsawdd gyda'r BBC

  • Cyhoeddwyd
Pobl ifanc yn yr awyr agoredFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r BBC yn chwilio am bobl ifanc o bob rhan o'r DU i adrodd straeon ynghylch newid hinsawdd cyn ac yn ystod cyfarfod y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow ym mis Tachwedd.

Mae cynllun Gohebydd Ifanc y BBC - Straeon Hinsawdd yn chwilio am unigolion talentog 18-24 oed sy'n creu cynnwys ac â diddordeb mewn gweithio yn y cyfryngau.

Bydd y bobl ifanc sy'n cael eu dewis yn cael cyfle i weithio gyda thimau rhaglenni a llwyfannau'r BBC i gynhyrchu straeon gwreiddiol am yr amgylchedd a'r hinsawdd.

Y nod yw canfod 22 Gohebydd Ifanc ar draws y DU ar gyfer cyfle unigryw, sy'n cynnwys profiad ymarferol ac / neu hyfforddiant o bell gyda staff y BBC.

Bydd mentor unigol yn cefnogi a hyfforddi'r gohebwyr i greu cynnwys gyda'r BBC.

Sut mae cymryd rhan?

Os oes diddordeb yn y cyfle unigryw yma mae modd ymgeisio yn Gymraeg yma.

Mae gofyn i chi gyflwyno amlinelliad stori newid hinsawdd gwreiddiol rydych chi'n teimlo y dylai'r BBC ei hadrodd ac sy'n berthnasol i chi ac eich ardal leol. Gall hwnnw fod yn sail adroddiad rydych chi'n ei gynhyrchu ar gyfer y BBC.

Mae hefyd gofyn i chi ddarparu darn o gynnwys y buoch eisoes yn rhan o'i gynhyrchu. Gall fod yn fideo neu'n glip sain.

Nid oes angen i'r darn fod wedi ei gyhoeddi yn unman ac fe allai fod yn rhywbeth a gafodd ei greu fel rhan o gwrs. Eglurwch wrthym beth oedd eich rhan yn y darn a beth wnaeth eich cymell i'w gynhyrchu.

Bydd y BBC yn chwilio am straeon unigryw a syniadau golygyddol cryf y credwn y bydd o ddiddordeb i'n cynulleidfaoedd. Rydym eisiau adlewyrchu ystod o safbwyntiau, straeon, themâu ac amrywiaeth y DU - a phobl ifanc fel chi yn arbennig!

Mae yna fwy iddi na'r syniad am stori. Rydym yn chwilio am bobl sy'n amlygu gallu, boed trwy adrodd stori, ffilmio, cyflwyno neu ohebu.

Mae'n bosib y byddwn yn cynnig cyfweliad ffurfiol er mwyn darganfod mwy amdanoch chi, eich profiad blaenorol a syniadau. Mae'r cyfweliadau hyn yn debygol o gael eu cynnal ar-lein yn hytrach na wyneb-yn-wyneb ac yn debygol o ddigwydd yn yr wythnos yn cychwyn 13 Medi 2021.

Y dyddiad cau i ymgeiswyr yw dydd Sul 5 Medi 2021.

Mae'r Telerau ac Amodau yma.

Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd sy'n egluro sut y rydym yn defnyddio eich gwybodaeth yma.

Pynciau cysylltiedig