'Bradley John wedi marw oherwydd diffyg cefnogaeth'
- Cyhoeddwyd
Dywed tad i fachgen 14 oed, a ganfuwyd wedi crogi, ei fod wedi lladd ei hun wedi diffyg cefnogaeth gan ei ysgol.
Cafwyd hyd i Bradley John ym mloc toiledau Ysgol Gatholig St John Lloyd yn Llanelli ar 12 Medi 2018.
Dywed ei dad, Byron John, fod Bradley wedi lladd ei hun mewn lle nad oedd yn "ddigon diogel" pan oedd yn wynebu pryderon.
Ond mae adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau yn nodi na allai pobl broffesiynol fod wedi "rhagweld neu atal" ei farwolaeth.
Cofnododd cwest i farwolaeth Bradley John reithfarn o farwolaeth trwy anffawd.
Dywed Mr John nad yw'r adroddiad yn newid y sefyllfa.
"Heblaw bod Bradley yn cerdded rownd y cornel a dod nôl yma, does dim byd arall yn mynd i newid y sefyllfa," meddai.
"Yn fuan mi fyddai wedi bod yn dathlu ei ben-blwydd yn 18. Roedd wedi trefnu gyrfa, roedd yn hynod o dalentog ac roedd ganddo ddyfodol - dyfodol yr oedd yn dyheu amdano ac un ro'n i wedi ei helpu i'w gyrraedd.
"Oherwydd diffyg cefnogaeth, fe laddodd ei hun. Wnaeth e ddim gadael nodyn, fe laddodd ei hun mewn lleoliad oedd wedi cael effaith arno - lleoliad nad oedd yn cynnig digon o ddiogelwch pan oedd yn bryderus neu'n rhwystredig."
'Hapus cyn ei farwolaeth"
Ddydd Iau fe gyhoeddodd Bwrdd Diogelu Plant Canolbarth a Gorllewin Cymru ei Hadolygiad Ymarfer Plant.
"Roedd Bradley, yn ôl ei deulu yn hapusach nag oedd wedi bod ers wythnosau yn y cyfnod cyn ei farwolaeth," medd yr adroddiad.
Roedd wedi mwynhau'r haf, wedi bod ar wyliau ac yn gwneud yn dda mewn "cystadlaethau ceffylau o bwys".
Y noson cyn ei farwolaeth roedd ei deulu estynedig, a oedd yn aros yn lleol, wedi bod yn ymweld â'r teulu ac roedden nhw wedi cynllunio i fynd am bryd o fwyd Chineaidd y penwythnos canlynol.
Roedd e wedi mynychu'r ysgol yn gyson ac yn gyffrous am brom yr ysgol, ychwanegodd yr adroddiad.
Nodir ei fod yn fab, brawd a llys-fab cariadus a bod ganddo nifer o resymau i ddathlu. Roedd e hefyd yn cael cryn lwyddiant yn marchog ceffylau ac yn cystadlu ar lefel genedlaethol.
Ond nodir bod Bradley yn cael ei fwlio yn yr ysgol, ac ar fws yr ysgol a bod hynny yn achosi pryder iddo. Nodir hefyd bod ganddo gyflwr ADHD, a'i fod wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrawma.
Ar un achlysur honnir bod disgybl arall wedi cyffwrdd â Bradley yn amhriodol.
Noda'r adroddiad bod pennaeth ei flwyddyn wedi cael gwybod ond nad oedd y wybodaeth wedi cael ei throsglwyddo i bennaeth diogelwch yr ysgol na'r pennaeth.
Nodir nad oed hi'n hawdd "dod i wybod am y digwyddiad honedig mewn adroddiadau a gafodd eu cyflwyno gan yr ysgol" i banel yr adroddiad.
Cafodd yr ysgol ei holi am y digwyddiad ac o edrych yn ôl fe wnaeth y pennaeth gydnabod mai eu cyngor yn unol â chanllawiau diogelwch yr ysgol fyddai adrodd ac ymchwilio i'r digwyddiad gan fod hon yn sefyllfa honedig o "ddisgybl yn cam-drin disgybl" ac yn ymosodiad rhyw honedig.
Mae'r adroddiad yn cyfeirio hefyd at lythyr a gafodd ei ysgrifennu gan therapydd ymddygiad gwybyddol yn Hydref 2017 - roedd y llythyr yn nodi bod Bradley wedi cael ei fwlio a bod yna bryderon am "effaith barhaus hyn ar ei les emosiynol a meddyliol".
'Pawb wedi gwrando ond gwersi i'w dysgu'
Mae'r adroddiad yn cydnabod arfer da ond mae hefyd yn nodi bod yna feysydd y gellir dysgu ohonynt.
Dywed awdur yr adroddiad, Gladys Rhodes White, bod pawb wedi gwneud eu gorau yn gwrando ar Bradley - yn enwedig y teulu.
Ond dywed bod mwy y mae pobl yn gallu ei wneud o ran gwrando ac ymateb i anghenion plant - mae "angen i blant wybod ein bod wedi eu clywed".
"Mae gwersi clir i'w canfod yn yr adroddiad," meddai.
"Rwy'n credu bod yn rhaid i bawb edrych ar rhain a'u cyflwyno i'w sefydliadau a sicrhau hefyd bod y gwersi yma yn cael eu gwireddu - rhaid peidio rhoi'r adroddiad ar silff ac anwybyddu ei wersi."
Mae Mr John yn cytuno bod angen i leisiau plant gael eu clywed ond mae'n dweud bod yr adroddiad rywfaint yn ddiffygiol.
"Chafodd llais Bradley ddim mo'i glywed. Mae'r ffaith iddo ladd ei hun a lle ddigwyddodd hynny yn symbolaidd iawn iawn.
"Rwy'n teimlo bod yr adroddiad wedi edrych ar yr hyn a ddigwyddodd yn fanwl ac o bob ongl ond nad oes ganddo'r awdurdod i gwestiynu y safbwyntiau neu'r onglau hynny. Roedd yn rhaid iddo ddibynnu ar esboniadau a roddwyd."
Mae'r adroddiad yn nodi wyth thema y dylid dysgu mwy amdanynt - yn eu plith sicrhau effeithiolrwydd polisïau a hyfforddiant ar achosion o fwlio. Nodir hefyd bod yn rhaid cydnabod anghenion plant bregus sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, anableddau, materion yn ymwneud ag iechyd meddwl a bod angen sylw ar blant sydd wedi cael profiadau niweidiol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd24 Mai 2021
- Cyhoeddwyd14 Medi 2018
- Cyhoeddwyd13 Medi 2018