Cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli: 'Camymddygiad difrifol'
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli wedi ymddiswyddo wedi canlyniad ymchwiliad annibynnol i honiadau o dorri rheolau bwlio ac aflonyddu.
Roedd Peter Florence - un o sylfaenwyr yr ŵyl - ar seibiant salwch o'i waith ers cael ei wahardd fis Hydref y llynedd wedi cwyn gan aelod o staff.
Mewn datganiad ddydd Llun, cadarnhaodd bwrdd yr ŵyl eu bod wedi cefnogi casgliadau ymchwiliad annibynnol i gŵyn mewnol bod "gweithredoedd Mr Florence yn gyfystyr â chamymddygiad difrifol".
Ychwanegodd y datganiad bod Mr Florence wedi "ymddiswyddo ar unwaith" wrth i'r bwrdd baratoi i ddod â'r mater i ben.
'Proses fanwl a helaeth'
Fe wnaeth y bwrdd "gadarnhau, yn unfrydol, gasgliadau ymchwiliad annibynnol ac adolygiad panel" mewn cysylltiad â chwyn mewnol yn erbyn Mr Florence ar 29 Gorffennaf.
Cafodd y penderfyniad hwnnw, medd y bwrdd, "gefnogaeth mwy na hanner tîm yr ŵyl Gymreig".
Dywed datganiad y bwrdd: "Yn unol â Threfn Disgyblu'r Ŵyl a'r Drefn Bwlio ac Aflonyddu, dyfarnwyd bod gweithredoedd Mr Florence yn gyfystyr â chamymddygiad difrifol.
"Roedd y penderfyniad yn dilyn proses fanwl a helaeth, a ystyriodd dystiolaeth ategol sylweddol.
"Wrth i'r bwrdd gyfarfod i ddod â'r broses fewnol i ben, fe ymddiswyddodd Mr Florence ar unwaith.
"Bydd y Bwrdd nawr yn chwilio am arweinyddiaeth newydd ar gyfer y mudiad dielw byd-enwog."
Cyfarwyddwr Cyllid Gŵyl y Gelli, Tania Hudson sydd wedi rheoli gwaith staff yn y DU yn y 10 mis diwethaf, gan oruchwylio digwyddiadau digidol fis Rhagfyr y llynedd ac ym mis Mai.
Y Cyfarwyddwr Rhyngwladol, Cristina Fuentes sy'n gyfrifol am ddigwyddiadau Gŵyl y Gelli mewn gwledydd fel Mecsico, Sbaen a Pheriw.
Dywed y bwrdd bod dim newid i'w cynlluniau i gynnal gwyliau hybrid yn ystod y 12 mis nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2021
- Cyhoeddwyd18 Mai 2020