Cyhuddo dyn o lofruddio merch 15 oed mewn parc gwyliau

  • Cyhoeddwyd
Heddlu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ym mharc gwyliau Tŷ Mawr brynhawn Sadwrn

Mae dyn 19 oed o Fanceinion wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth merch 15 oed mewn parc gwyliau ger Abergele ddydd Sadwrn.

Cafodd y dyn ei arestio wedi i Heddlu Gogledd Cymru gael eu galw i barc gwyliau Tŷ Mawr yn Nhywyn yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiad domestig.

Dywedodd y llu y bydd y dyn yn ymddangos o flaen ynadon ddydd Mawrth a'i fod wedi cael ei gadw yn y ddalfa yn y cyfamser.

Mae'r heddlu wedi gofyn i'r cyhoedd am beidio â dyfalu ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch yr hyn ddigwyddodd am fod yr ymchwiliad yn parhau.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd mewn datganiad dros y penwythnos mai digwyddiad unigol oedd hwn, ac nad oedd unrhyw beryg i'r cyhoedd.

Mae'r llu yn cydymdeimlo â'r teulu, ac yn apelio ar i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.

Pynciau cysylltiedig