Teyrnged teulu i ferch 15 oed fu farw mewn parc gwyliau

  • Cyhoeddwyd
Amanda SelbyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Amanda Selby o ardal Manceinion yn dilyn digwyddiad ym mharc gwyliau Tŷ Mawr yn Nhywyn

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ferch 15 oed fu farw mewn parc gwyliau ger Abergele ddydd Sadwrn.

Bu farw Amanda Selby o ardal Manceinion yn dilyn digwyddiad ym mharc gwyliau Tŷ Mawr yn Nhywyn dros y penwythnos.

Mae ei brawd 19 oed, Matthew Selby, wedi ymddangos yn llys y goron wedi'i gyhuddo o'i llofruddio.

Mewn datganiad, dywedodd ei theulu bod Amanda yn "ferch ac wyres gariadus" oedd yn "ofalgar, yn feddylgar, yn hoff o helpu eraill ac yn cael ei charu'n fawr".

"Byddwn yn ei cholli yn ofnadwy."

'Wedi ein llorio'

Dywedodd Droylsden Academy ym Manceinion, ble roedd Amanda yn ddisgybl, eu bod "wedi tristau o glywed y newyddion trasig".

"Mae teulu'r ysgol wedi ein llorio gan y newyddion ofnadwy yma," meddai datganiad.

"Roedd Amanda yn ddisgybl hyfryd a bydd disgyblion a staff yn gweld ei cholli yn arw."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Dywedodd clwb jiu-jistu Kamiza Dojo yn Ashton-under-Lyne ar gyrion Manceinion ei fod "wedi tristau o glywed y newyddion trasig bod un o'n disgyblion, Amanda Selby, wedi colli ei bywyd tra ar wyliau gyda'i theulu".

"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad dwysaf gyda'i theulu yn ystod y cyfnod anodd hwn," meddai'r clwb mewn datganiad.

"Mae Amanda a'i mam wedi bod yn rhan fawr o'r clwb ers nifer o flynyddoedd - wastad yn dod i gefnogi'r clwb a'r disgyblion.

"Mae ein calonnau yn torri. Bydd Amanda yn cael ei cholli'n fawr."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r achos yn erbyn Matthew Selby ddechrau yn Chwefror 2022

Fe wnaeth Matthew Selby ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fore Mercher drwy gyswllt fideo o Garchar Berwyn yn Wrecsam.

Nid yw wedi cyflwyno ple hyd yma ond mae dyddiad dros dro wedi'i osod ar gyfer yr achos yn ei erbyn, sef 28 Chwefror 2022.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad nesaf yn y llys ar 22 Medi.

Pynciau cysylltiedig