Y dwbl i Lleucu Roberts wrth ennill y Fedal Ryddiaith
- Cyhoeddwyd
Enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod AmGen 2021 yw Lleucu Roberts.
Hi oedd enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn seremoni nos Fawrth. Nodwyd bryd hynny mai hi oedd y person cyntaf i ennill y 'dwbl' rhyddiaith 'nôl yn 2014, ac mae wedi ailadrodd y gamp eleni.
Roedd hon yn gystadleuaeth agos eleni, meddai'r beirniaid, oedd ddim yn unfrydol wrth geisio dewis enillydd.
Ond yn y pendraw, 'Y Stori Orau' - nofel am fam a merch yn teithio o amgylch Cymru, aeth â hi.
Mae Lleucu'n derbyn y Fedal Ryddiaith a £750, sy'n rhoddedig gan Gymdeithas Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Y beirniaid oedd Rhiannon Ifans, Elwyn Jones ac Elfyn Pritchard, ac fe gyflwynwyd y Fedal eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau, ar y pwnc 'Clymau'.
Roedd y trefnwyr eisoes wedi derbyn y beirniadaethau ar gyfer y Fedal Ryddiaith ar ddechrau 2020, ac felly eleni, penderfynwyd agor yr amlen a gwobrwyo'r enillydd, er mwyn cefnogi'r diwydiant llyfrau.
Dywedodd Elfyn Pritchard yn ei feirniadaeth: "I mi, y mae'r gyfrol hon yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r cyfrolau gorau a enillodd y gystadleuaeth hon yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Rhiannon Ifans, enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, oedd yn traddodi ar ran ei chyd-feirniaid: "Wel, sut mae hi i fod? O blith y llenorion sydd ar frig y gystadleuaeth eleni, i mi y prif lenor ydi Corryn, ac i'r llenor yma y byddwn i'n dyfarnu'r Fedal.
"Ond mae 'na dri ohonon ni, a dydan ni ddim yn feirniaid unfryd. Ym marn fy nau gyd-feirniad, nofel Cwmwl am Swyn a'i mam a'r fan VW sy'n dod i'r brig. Llongyfarchiadau calonnog i'r llenor hwnnw, felly, am ein swyno ni'n tri â'i ddawn.
"Mae'n bleser gen i gyhoeddi mai i Cwmwl y dyfernir y Fedal Ryddiaith heno, ynghyd â phob clod ac anrhydedd a berthyn iddi."
Un o Lanfihangel Genau'r Glyn yw Lleucu Roberts, ond sy'n byw yn Rhostryfan ers bron i dri degawd bellach.
Aeth i Ysgol Rhydypennau, Bow Street ac Ysgol Penweddig, Aberystwyth a chael ei hysbrydoli i ysgrifennu gan ei hathrawon Cymraeg, Alun Jones a Mair Evans.
Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth. Bu am gyfnod yn olygydd yng ngwasg y Lolfa, ond bellach, mae'n gwneud ei bywoliaeth i raddau helaeth drwy gyfieithu, i gwmni Testun Cyf yn bennaf.
Dros y blynyddoedd bu'n ysgrifennu ar gyfer y radio a'r teledu, ac mae wedi gwneud gwaith sgriptio ar nifer o gyfresi drama teledu a radio.
Mae'n awdur saith nofel a dwy gyfrol o straeon byrion i oedolion, ac wyth nofel i blant a phobl ifanc.
Enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd Pwllheli 1982, gwobr Tir na n-Og ddwy waith am ei nofelau i bobl ifanc, Annwyl Smotyn Bach a Stwff, a Gwobr Goffa Daniel Owen (am ei nofel Rhwng Edafedd) a'r Fedal Ryddiaith (am ei chyfrol o straeon byrion, Saith Oes Efa) yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014.
Cipiodd wobr Barn y Bobl Golwg 360 am Saith Oes Efa fel rhan o wobrau Llyfr y Flwyddyn y 2015.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2021
- Cyhoeddwyd5 Awst 2014
- Cyhoeddwyd6 Awst 2014