Bywyd newydd i Gapel Ebeneser ger Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan oedd unwaith wrth galon ymdrech i adfywio pentref ger Wrecsam nawr yn debygol o ailagor ei drysau.
Tua 2008 cafodd Capel Ebeneser yng Nghefn Mawr ei drawsnewid yn ofod celfyddydol ar gost o dros £1m - ond fe gaeodd bum mlynedd yn ddiweddarach.
Bellach, wedi ymgyrch hir, mae arweinydd cymunedol wedi prynu'r safle gan Gyngor Wrecsam mewn arwerthiant.
Ar hyn o bryd mae David Metcalfe a Grŵp Camlas Plas Kynaston yn ymgynghori i weld beth hoffai trigolion y pentref ei weld yn digwydd yno.
Ymhlith y syniadau mae lleoli swyddfa bost, llyfrgell a chaffi yn yr adeilad, ynghyd â gofod gweithio a safle gwybodaeth i ymwelwyr.
'Adfywio economi'r gymuned'
"Mae'n gyfrifoldeb, ond roedd rhaid i ni wneud hyn er lles y gymuned," meddai Mr Metcalfe, sy'n rheolwr prosiect ar y grŵp ac yn rhedeg tafarn gyferbyn â'r hen gapel.
"Cafodd yr adeilad yma ei adnewyddu er mwyn adfywio economi'r gymuned. Rydyn ni [fel grŵp] wedi ymgyrchu o'r cychwyn am adfywiad economaidd ac yn credu bod modd gwneud hynny drwy broses o ddatblygu twristiaeth gynaliadwy."
Gwta filltir o Gefn Mawr mae Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Dyfrbont Pontcysyllte, sy'n denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr y flwyddyn.
"I bob pwrpas, does dim o'r ymwelwyr hynny'n dod i ganol ein pentref ni," meddai Mr Metcalfe.
Yn wreiddiol, roedd Mr Metcalfe wedi ceisio atal gwerthiant yr adeilad, gan fynd â Chyngor Wrecsam i'r llys ym mis Mawrth i'w rhwystro rhag rhestru Ebeneser mewn arwerthiant.
Methodd ei her gyfreithiol, ond pan aeth yr eiddo dan y morthwyl yn y diwedd, cynnig Mr Metcalfe oedd y gorau.
Tua'r un adeg, roedd ymgyrchwyr eraill yn galw ar y cyngor i roi melin ŷd hanesyddol ar gyrion Wrecsam yn nwylo'r gymuned.
Bellach, mae Melin y Brenin wedi cael ei phrynu gan fenter gymdeithasol Draig Supported Living, sy'n gobeithio agor gofod cymunedol ochr yn ochr ag adnoddau i bobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol.
'Llawer o awgrymiadau'
Ar hyn o bryd, mae gwirfoddolwyr Grŵp Camlas Plas Kynaston yn canolbwyntio ar ymgynghori gyda chymuned Cefn Mawr.
Mewn siop trin gwallt dros y ffordd, dywedodd aelod ifanc o staff y byddai'n hoffi gweld caffi neu fwyty yn yr hen gapel.
"Mi fydd hi'n gyffrous gweld be' fydd yno i'r gymuned," meddai Millie Barnes. "Mae'n gymaint o wastraff fel adeilad gwag."
Syniadau gwahanol oedd gan Sue, oedd yn helpu yn y siop flodau drws nesaf.
"Byddai siop hen bethau'n dda, neu sêl pethau ail law - rhywbeth fel 'na," meddai.
I Richard Carr, sy'n cynghori'r grŵp ar ddod o hyd i grantiau a chyllid, byddai'n dda pe bai Ebeneser yn gallu cefnogi'r economi leol.
"Rhoi cefnogaeth i fusnesau newydd - mae hynna'n bwysig - a hefyd cyfleusterau i helpu pobl i wella eu sgiliau," meddai.
Mae disgwyl i'r grŵp barhau i ymgynghori dros yr wythnosau nesaf cyn dod i benderfyniad ar y ffordd ymlaen i'r hen gapel.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2021
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2019