Tad yn annog pobl i gael brechiad Covid o'i wely ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Artur Brylowski

Mae tad ifanc wedi annog pobl i dderbyn brechiad coronafeirws, wrth siarad o'i wely yn yr ysbyty.

Cafodd Artur Brylowski, 42 o Wrecsam, ei frysio i'r ysbyty gyda phroblemau anadlu ar ddiwedd Gorffennaf.

Profodd yn bositif am Covid-19 wrth gyrraedd Ysbyty Maelor Wrecsam.

Er ei fod yn ffit ac yn iach, cafodd ei drosglwyddo i'r Uned Gofal Dwys oherwydd bod ei gyflwr mor ddifrifol.

'Byth yn meddwl gall hyn digwydd i mi'

"Doeddwn i byth yn disgwyl bod mor sâl â hyn", meddai Artur, oedd yn mynd i'r gampfa yn aml cyn ei salwch.

"Dwi wedi cael y ffliw o'r blaen ond roedd hyn yn wahanol, doeddwn i methu anadlu - ro'n i'n hynod o ofnus.

"Dywedodd y doctoriaid bod fy nghyflwr yn dirywio ac roedd yna bosibilrwydd y byddai angen defnyddio peiriant anadlu.

"Roeddwn i wedi cael braw - roeddwn i'n meddwl byddai byth yn gweld fy nheulu eto."

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mr Brylowski yn credu bod coronafeirws ond yn effeithio ar bobl hŷn

Gwrthododd Artur frechlyn pan gafodd gynnig ym mis Ebrill.

Credodd bod coronafeirws ond yn effeithio ar bobl hŷn ac na fyddai'n mynd yn sâl iawn trwy ddal yr haint.

"Mae'n anodd dweud pam 'nes i wrthod y brechlyn, doeddwn i ddim yn ei erbyn - o' ni just yn teimlo bod o wedi ei frysio a falle dim yn ddiogel.

"Roedd lot o bethau ar gyfryngau cymdeithasol oedd yn peri gofid, pobl yn dweud gwahanol bethau, rhai yn dweud cymerwch y brechlyn tra bod rhai eraill yn dweud i beidio.

"O'n i'n teimlo y byddwn i'n iawn, dwi ond yn 42 ac yn iach iawn, dwi'n mynd i'r gym yn gyson. Dydw i ddim yn ysmygu na yfed alcohol.

"Doeddwn i byth yn meddwl byddai hyn yn digwydd i mi."

Mae ymgynghorydd Artur, Dr Andy Campbell, yn dweud bod yr ysbyty wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl iau gyda Covid-19.

"Yn anffodus, penderfynodd Artur i beidio cymryd y brechlyn, ac mae beth sydd wedi digwydd iddo fo yn pwysleisio'r effeithiau o beidio cael dy frechu a'r effaith mae'n medru cael ar berson mor ifanc a ffit."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd bron rhaid i Mr Brylowski gael ei roi ar beiriant anadlu yn yr ysbyty

Mae Artur yn yr ysbyty ers pythefnos ond mae'n disgwyl i'r broses o wella gymryd wythnosau maith.

Dywedodd ei fod yn awyddus i dderbyn y brechlyn nawr, ac am drefnu apwyntiad wrth adael yr ysbyty: "Mae'r profiad yma wedi dangos pa mor beryglus yw'r feirws i bobl o unrhyw oedran."

"Dwi wir yn difaru peidio cymryd un fi."

Mae Dr Campbell yn atseinio neges Artur: "Dydych chi byth yn gwybod beth fydd ymateb eich corff i Covid-19 tan fod hi'n rhy hwyr.

"Fy neges i'r cyhoedd ydy i gredu yn y wyddoniaeth a derbyn eich brechlyn cyn ei bod hi'n rhy hwyr."