Merch, 15, wedi marw o asffycsia mewn parc gwyliau

  • Cyhoeddwyd
Amanda SelbyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Amanda Selby o ardal Manceinion yn dilyn digwyddiad ym mharc gwyliau Tŷ Mawr yn Nhywyn

Clywodd cwest i farwolaeth merch 15 oed mewn parc gwyliau ger Abergele ei bod hi'n ymddangos ei bod wedi'i mygu i farwolaeth a bod ei gwddf wedi ei wasgu.

Bu farw Amanda Selby o Ashton-under-Lyne, Manceinion wedi digwyddiad ym mharc gwyliau Tŷ Mawr yn Nhywyn ar 31 Gorffennaf.

Ddydd Llun oedd diwrnod cyntaf y cwest yn Rhuthun a dywedodd y crwner John Gittins bod Heddlu Gogledd Cymru wedi'u galw i'r digwyddiad gan y gwasanaeth ambiwlans.

Roedden nhw wedi'u galw i fynd at ferch oedd yn anymwybodol ac oedd wedi stopio anadlu.

Cofnododd parafeddygon bod y ferch wedi marw a bod ei thad Anthony Selby wedi'i hadnabod yn swyddogol.

Yn ystod y gwrandawiad dywedodd patholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Brian Rodgers, bod hi'n ymddangos bod y ferch wedi marw o asffycsia wedi gwasgiad ar ei gwddf, a doedd hi ddim yn bosib iddi anadlu.

Cafodd y cwest ei ohirio gan bod ei brawd 19 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn y maes carafanau.

Doedd ei theulu ddim yn bresennol.

Pynciau cysylltiedig