Llacio cyfyngiadau wedi gwneud 'andros o wahaniaeth'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gerwyn Roberts a Harvey Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i'r gweinidog ddisgwyl am wythnosau cyn cael cyfarfod ei ŵyr oherwydd y gwaharddiad ar deithio dros bum milltir o'ch cartref

"Mwy normal". "Anodd rheoli be' sy'n mynd 'mlaen". "Ansicrwydd". "Andros o wahaniaeth".

Dyma eiriau rhai o bobl Llanrwst wrth ddisgrifio'r cyfnod yma wedi i drwch cyfyngiadau Covid-19 Cymru gael eu llacio.

Yn ei gartref yn y dref, mae'r Parchedig Gerwyn Roberts yn mwynhau cael gwarchod ei ŵyr blwydd oed, Harvey Wyn.

Y llynedd, bu'n rhaid i'r gweinidog ddisgwyl am wythnosau cyn cael gweld y baban newydd-anedig oherwydd y gwaharddiad ar deithio dros bum milltir o'ch cartref.

Disgrifiad,

Y Parchedig Gerwyn Roberts o Lanrwst yn cwrdd â'i ŵyr am y tro cynta'

Mae'n fyd gwahanol bellach, gyda'r teulu'n edrych ymlaen at gwrdd fel tylwyth estynedig yn yr wythnosau nesaf.

"'Dan ni'n mynd rŵan mor aml â 'dan ni, a dwi'n gallu mynd yno ac mae'r nain a taid arall yn gallu dod hefyd," meddai.

"Mae mwy'n gallu casglu tu mewn, ac mae'n fwy normal fel 'tae. A buan iawn 'dan ni'n dechra' anghofio am y mwgwd - ac mae'r bychan wedi arfer efo'r mwgwd!

"Mae o wedi gwneud andros o wahaniaeth."

Newidiadau 7 Awst

• Dim cyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl sy'n gallu cwrdd ag eraill;

• Pob busnes ac adeilad yn gallu ailagor gan gynnwys clybiau nos;

• Disgwyl i gwmnïau gynnal asesiadau risg;

• Dal angen masgiau wyneb mewn siopau, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac wrth dderbyn gofal iechyd, ond nid mewn caffis, tafarndai a bwytai, nac ysgolion;

• Dim angen i bobl sydd wedi'u brechu'n llawn hunan-ynysu os ydyn nhw'n dod i gyswllt agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif.

Yn Sir Conwy mae Llanrwst, a chyfradd Covid-19 y sir honno yw'r ail uchaf yng Nghymru ar hyn o bryd.

Ond yng nghanol y dref, mae ymwelwyr a phobl leol yn mwynhau'r heulwen - rhai yn cael cinio ar y sgwâr, eraill wedi dod â phicnic at lan yr afon.

'Ansicrwydd am y rheolau'

Yn ei siop a bwyty pysgod a sglodion, mae Wyn Williams yn elwa o'r prysurdeb, er ei fod wedi gorfod cyfyngu ar oriau agor y bwyty achos diffyg staff.

Mae codi'r cyfyngiadau wedi "symleiddio" pethau i'r busnes i ryw raddau, meddai, ond mae ansicrwydd am y rheolau'n parhau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Wyn Williams ei bod yn "anodd iawn" sicrhau bod pobl yn cadw at y rheol o wisgo masg yn ei fwyty

"Dydyn nhw ddim yn gorfod gwisgo mwgwd yma yn y bwyty, ond 'dan ni'n dal i drio'u cael nhw i'w wisgo yn y [siop] bwyd-i-fynd," esboniai.

"Dydi'r rheolau ddim yn glir iawn, i ddweud y gwir, o ran pwy sy' fod i'w gwisgo nhw a phwy sydd ddim - ac wrth gwrs mae'r rheolau'n wahanol yn Lloegr ac yng Nghymru.

"So pan maen nhw'n dod yma ar eu gwyliau [o Loegr], 'dan ni'n ei gweld hi'n anodd iawn i reoli be' sy'n mynd ymlaen. Dyna ran anoddaf y job, i ddweud y gwir."

Lawr y ffordd yn Siop Sioned, sy'n gwerthu cardiau ac anrhegion, mae'r perchennog hefyd yn dweud bod "ansicrwydd am y rheolau".

Ond yr ateb, ym marn Sioned Davies, yw llacio pellach.

"Os ewch chi i unrhyw pub yn Llanrwst 'ma, 'dach chi ddim yn gorfod gwisgo masg," meddai. "Be' di'r gwahaniaeth rhwng fanno a siop fach fel hyn?"

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sioned Davies y byddai'n haws pe bai pobl ddim yn gorfod gwisgo masgiau mwyach

"Dwi'n meddwl 'sa'n haws i'r boblogaeth i gyd 'sa ni ddim yn gorfod gwisgo masgiau ddim mwy.

"'Dan ni wedi cyrraedd lle reit dda efo'r brechiadau erbyn hyn, dwi'n meddwl ei bod hi'n amser i ni gael gwared o'r rhain."

Draw yn Nyffryn Clwyd, mae meddyg teulu'n gweld bod mwy o gleifion yn galw am eu gwasanaethau. Ond nid Covid-19 ydy'r unig bryder.

"Lle 'dan ni wedi gweld cynnydd aruthrol ydy o fewn y meddygaeth cyffredinol 'dan ni'n ei wneud," meddai Dyfan Jones o Feddygfa Brynffynnon, Dinbych.

"Wrach bod 'ne elfen o ddeffro cyffredinol yn gymdeithasol ond 'dan ni'n gweld bod nifer yr ymholiadau a'r galwadau ffôn 'dan ni'n gael mewn meddygfeydd lleol llawer iawn yn uwch na fasen nhw fel arfer dros yr haf."

Wrth gadarnhau'r llacio yr wythnos diwethaf, dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford nad yw'r cyfnod newydd hwn yn "ddiwedd ar y cyfyngiadau" ac "nad oes rhyddid i bawb wneud fel y mynnant".

Dydd Gwener cafodd dwy farwolaeth a 1,090 o achosion newydd o Covid-19 eu cofnodi.

Pynciau cysylltiedig