Argyfwng cladin: Rhybudd y bydd pobl yn colli eu cartrefi

  • Cyhoeddwyd
cladinFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymgyrchwyr yn rhybuddio y gall perchnogion fflatiau fynd yn fethdalwyr a cholli eu cartrefi yn sgil yr argyfwng diogelwch tân wedi trychineb Grenfell.

Mae pobl sydd wedi colli miloedd o bunnau o ganlyniad i'r argyfwng yn apelio am gymorth ar frys.

Fe wnaeth costau blynyddol Deborah Polverino ar gyfer ei fflat yng Nghaerdydd gynyddu o £3,000 i £8,000 wedi i gost yswiriant godi ar ôl i'w hadeilad fethu profion diogelwch tân.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "gweithio'n galed" er mwyn ceisio sicrhau bod arian ar gael i'r rheiny sydd wedi'u heffeithio gan yr argyfwng.

Ychwanegodd llefarydd fod "natur cymhleth" y broblem yn cael effaith ar gyflymder y gwaith hwnnw.

'Angen deall difrifoldeb y sefyllfa'

Yn ogystal â chostau ychwanegol ar gyfer materion fel yswiriant, mae nifer o lesddalwyr yn poeni am y costau anferthol fyddai ynghlwm â chael gwared ar gladin sydd wedi methu profion diogelwch.

Ym mis Gorffennaf fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi y byddai'n ariannu arolygon er mwyn asesu pa waith sydd ei angen, ond cafodd hyn ei ddisgrifio fel "rhy ychydig, rhy hwyr" gan ymgyrchwyr.

Mae bwriad i sefydlu cronfa adfer yng Nghymru y flwyddyn nesaf. Yn Lloegr mae pobl eisoes yn gallu gwneud cais am arian i dynnu cladin ar adeiladau sy'n uwch na 18 metr o daldra.

Yn ôl Becky Ashwin o grŵp ymgyrchu Welsh Cladiators, mae'r cynnydd mewn costau mor aruthrol fel bod rhai yn wynebu colli eu cartrefi neu fynd yn fethdalwyr.

"Mae Llywodraeth Cymru wir angen camu i'r adwy a deall difrifoldeb y sefyllfa a'r straen mae'n ei roi ar iechyd meddwl trigolion yn ddyddiol," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Becky Ashwin bod rhai yn wynebu colli eu cartrefi neu fynd yn fethdalwyr oherwydd y cynnydd mewn costau

Mae Deborah Polverino wedi byw yn Victoria Wharf ym Mae Caerdydd gyda'i phartner Guy Griffiths ers 10 mlynedd.

Pan geision nhw symud cartref ychydig cwpl o flynyddoedd yn ôl fe sylweddolon nhw fod eu fflat ar y seithfed llawr yn "ddiwerth".

"Pan 'dych chi wedi buddsoddi swm enfawr o arian ar eich cartref ac yna'n clywed nad oes modd ei werthu, neu os ydych chi'n lwcus, gallwch chi ei werthu yn rhad iawn mewn arwerthiant, mae'n anodd iawn," meddai Ms Polverino.

"Dydw i ddim yn gallu cael morgais arno, dydw i ddim yn gallu ei werthu."

'Eistedd lawr a llefain'

Mae'r cynnydd mewn costau yn sgil trychineb Grenfell, yn enwedig gydag yswiriant, yn golygu bod costau cynnal a chadw adeiladau wedi cynyddu'n aruthrol i lesddalwyr, gyda bil blynyddol Ms Polverino wedi codi bron i £5,000.

Dywedodd ei bod wedi "eistedd lawr a llefain, fel rwy'n siŵr y gwnaeth pobl eraill yn y bloc yma" wedi iddi gael gwybod am y cynnydd.

Ychwanegodd bod yr adeilad wedi cael amcanbris o £60,000 yr un ar gyfer pob fflat i dynnu'r cladin peryglus.

Disgrifiad o’r llun,

Mae costau cynnal a chadw Deborah Polverino a Guy Griffiths wedi codi o £3,000 i £8,000 yn sgil yr argyfwng

Yn ogystal â'r baich ariannol, mae Ms Polverino yn byw hefyd gyda'r pryder o beth fyddai'n digwydd pe bai tân yn yr adeilad.

"Mae cymaint ohonom wedi cael nosweithiau digwsg yn meddwl am y peth," meddai.

'Gwneud mwy, nawr'

Mae Ms Polverino yn galw ar y datblygwr Taylor Wimpey i "wneud y peth iawn" a thalu'r costau atgyweirio.

"Nid ni adeiladodd y fflatiau yma, nid ni wnaeth greu'r broblem," meddai.

"Pam mai ni sy'n talu amdano? Pam eu bod nhw [Taylor Wimpey] yn pasio'r mater ymlaen i rywun arall?"

Ychwanegodd bod angen i'r Prif Weinidog Mark Drakeford a'r Gweinidog Tai Julie James "wneud mwy, nawr".

"Tro ar ôl tro ry'n ni'n cael yr addewidion bod rhywbeth am ddigwydd yn y dyfodol," meddai Ms Polverino.

"Mae 'na gyfrifoldeb moesol ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad ydy lesddalwyr yn colli eu cartrefi."

Ffynhonnell y llun, Jaggery/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth fflatiau Victoria Wharf fethu profion diogelwch yn sgil trychineb Grenfell

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Taylor Wimpey eu bod yn "cymryd camau ble fo hynny'n briodol" er mwyn helpu cwsmeriaid gyda materion diogelwch tân.

"Rydyn ni'n mewn trafodaethau gyda FirstPort, y cwmni sy'n rheoli Victoria Wharf, ar ariannu a byddwn yn diweddaru trigolion cyn gynted â phosib," meddai.

'Mynd ymhellach na chladin yn unig'

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod "wedi ymrwymo i gefnogi lesddalwyr er mwyn datblygu opsiynau o ran ariannu'r gwaith".

"Mae diogelwch adeiladau yn aml yn fwy na chladin - rydyn ni'n gweithio'n galed i gynnig nawdd fydd yn mynd ymhellach na chladin yn unig," meddai llefarydd.

"Mae'n fater cymhleth ac mae'n bwysig ein bod yn ystyried yr holl opsiynau a'r holl ganlyniadau yn llawn.

"Mae natur cymhleth y broblem yn cael effaith ar gyflymder y gwaith, ac nid yw'n adlewyrchiad o unrhyw ddiffyg cefnogaeth i'r rheiny sydd wedi'u heffeithio."

Pynciau cysylltiedig