Llyfr Mawr y Plant yn 90 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae Wil Cwac Cwac, Siôn Blewyn Coch a Martha Plu Chwithig yn 90 oed, ond mae'n ymddangos eu bod mor ifanc ag erioed.

Ond beth ydi apêl oesol Llyfr Mawr y Plant a sut daeth y straeon a'r cymeriadau i fodolaeth yn y lle cyntaf?

Disgrifiad,

Gwyliwch i fwynhau pwt o stori Wil Cwac Cwac

'Ni bu erioed y fath luniau, na'r fath hanesion!'

Dyna sut y disgrifiwyd Llyfr Mawr y Plant 1 pan y'i cyhoeddwyd yn 1931. Argraffwyd 6,000 o gopïau a bu'n llwyddiant ysgubol.

Yn eu rhagair i'r gyfrol mae'r awduron Jennie Thomas a J.O. Williams yn cyflwyno'r gyfrol i blant Cymru.

Mewn rhifyn arbennig o raglen Stiwdio ar BBC Radio Cymru, mae Dr John Llywelyn Williams, mab y diweddar J.O. Williams, yn trafod sut daeth y gyfrol gyntaf i fodolaeth.

"Roedd Jennie Thomas wedi dod yn athrawes ifanc o Lerpwl i Fethesda," meddai. "Mi oedd hi'n un o ddisgyblion J. Glyn Davies ac mi oedd hi'n cartrefu gyda fy mam pan oedd fy mam hefyd yn athrawes ifanc ym Methesda; y ddwy yn ffrindiau mawr efo'i gilydd.

"Mi ddo'th fy nhad ar y sîn a dechrau canlyn Mam, a wedyn wrth gwrs, dod i 'nabod Jennie Thomas.

Disgrifiad o’r llun,

Jennie Thomas a J.O. Williams

"Roedd Jennie fel athrawes y babanod yn sylweddoli fod yna ofyn mawr iawn am lyfr. Mae'n siŵr mai ei hysgogiad hi oedd Llyfr Mawr y Plant yn y lle cyntaf i lenwi'r gofyn oedd hi yn ei weld fel athrawes.

"Wrth gwrs mi oedd hi mewn cysylltiad efo 'nhad ac mi oedd R. Williams Parry yn ffrind i 'nhad; oedd o'n byw ym Methesda ar y pryd. Y dyn oedd yn cynnal yr holl beth oedd J.J. Williams oedd yn brifathro yn Ysgol y Cynfaes a hefyd wedi bod yn Lerpwl ac yn nabod J. Glyn Davies.

Disgrifiad o’r llun,

J. Glyn Davies a R. Williams Parry oedd y rhai ysgogodd Jennie Thomas a J.O. Williams i fwrw ymlaen efo'r gwaith

"Mi ddo'th y criw yma at ei gilydd; J.J. Williams yn brifathro, J. Glyn Davies gyda'i ganeuon, a wedyn mi oedd R. Williams Parry yn y criw hefyd. Os edrychwch chi yn rhagair Llyfr Mawr y Plant 1, mi welwch chi gymaint roedd 'nhad a Jennie yn diolch i R. Williams Parry a J. Glyn Davies.

"Y bwriad oedd creu llyfr oedd yn cyfateb i'r Bumper Books oedd yn bod yn Saesneg yn yr un cyfnod. A dyma fel ddo'th Peter Fraser, yr arlunydd i mewn oherwydd roedd o'n enwog iawn fel arlunydd i'r Bumper Books ac felly roedd 'nhad a Jennie wedi gweld ei waith o a mi wnaethon nhw gysylltu efo fo.

Ffynhonnell y llun, Gwasg Carreg Gwalch
Disgrifiad o’r llun,

Wil Cwac Cwac: un o ddarluniau Peter Fraser

"Dyn o ynysoedd yr Alban oedd o a dwi'm yn gwbod os oedd o'n siarad Gaeleg ai peidio ond mi oedd ganddo fo gydymdeimlad mawr iawn efo'r project a mi oedd o'n fodlon iddyn nhw gael y llunia' am bris llawer llai na'r farchnad.

Ffynhonnell y llun, Gwasg Carreg Gwalch
Disgrifiad o’r llun,

Siôn Blewyn Coch: un o ddarluniau Peter Fraser

"Roedd y lluniau'n eithriadol o bwysig i'r gyfrol. Mi roedd dyluniad y llyfr i fod yn eithriadol bwysig, yn yr un ffordd â'r teip. Sylwch chi fod teip Wil Cwac Cwac yn fwy o lawer nac ydi Siôn Blewyn Coch oherwydd stori i blant bach ydi Wil Cwac Cwac, stori i blant ychydig yn hynach ydi Siôn Blewyn Coch."

Ffynhonnell y llun, Gwasg Carreg Gwalch
Disgrifiad o’r llun,

Yn Llyfr Mawr y Plant 4 a gyhoeddwyd yn 1975 cafwyd lluniau lliw. Mr J. P. Williams oedd y darlunydd y tro hwn, yn dilyn marwolaeth Peter Fraser

Golygodd cyhoeddi Llyfr Mawr y Plant yn 1931, a'r cyfrolau eraill i ddilyn yn 1939, 1949 a 1975, fod gweledigaeth Jennie Thomas wedi ei wireddu, ond mae'n debyg mai J.O. Williams oedd piau'r dychymyg. Meddai John:

"Efallai nad ydi o'n iawn i mi ddweud ond doedd gan Jennie ddim dychymyg eithriadol. Roedd hi'n ddynas arbennig iawn a mae gen i barch eithriadol iddi, ond 'nhad sgwennodd bron i dri chwarter y llyfr. Mae lot o bethau Jennie ac eithrio Wil Cwac Cwac yn gyfieithiadau o'r Saesneg ac wedyn fy nhad oedd yn gyfrifol am y cerddi ac am Siôn Blewyn Coch."

Seilio Siôn Blewyn Coch ar lwynog go iawn

Os oedd gan J.O. Williams ddychymyg oedd yn cydio ym mydoedd plentyn, roedd o hefyd yn datblygu straeon a chymeriadau allan o brofiadau go iawn. Yn wir, roedd cymeriad Siôn Blewyn Coch wedi ei seilio ar lwynog anwes J.O Williams, sef Mic y llwynog. Meddai John, ei fab:

"Oedd Siôn Blewyn Coch yn anifail anwes i 'nhad. Mic y llwynog oedd ei enw fo.

"Oedd Mic yn byw mewn cwt yn nhop yr ardd a mi fydda' 'nhad yn dod â fo mewn i'r tŷ gyda'r nos, a mi fydda Mic yn sleifio i mewn tu cefn i'r gadar; 'mond i chi beidio cymryd sylw ohono fo mi ddoi allan, ac yn y diwadd mi ddoi i ista ar lin fy nhad, ac os oedd gan fy nhad rhyw dda-da yn gongl ei geg, mi fydda fo'n dŵad a chymryd y da-da o'i geg o wyddoch chi.

Disgrifiad o’r llun,

J.O. Williams a'i lwynog anwes, Mic; ei ysbrydoliaeth wrth greu Siôn Blewyn Coch

Arwydd o egni newydd

Yn ôl Siwan Rosser, Uwch Ddarlithydd Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, roedd cyhoeddi Llyfr Mawr y Plant yn 1931 yn arwydd o'r egni newydd oedd ym myd llenyddiaeth plant y cyfnod.

Meddai: "Erbyn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd mae 'na ddipyn o amrywiaeth a fe welwch chi hefyd fod y pwyslais wedi symud oddi wrth yr addysgol at fyd mwy adloniannol, ac felly'n goron ar y cyfan mae Llyfr Mawr y Plant.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd E. Tegla Davies yn awdur arall oedd yn ceisio cyflwyno ysgafnder i blant Cymru'r cyfnod

"Mi roedd llenyddiaeth plant erbyn hynny eisoes yn mynd i gyfeiriadau cyffrous a diddorol; roedd 'na amrywiaeth bellach mewn llenyddiaeth plant; o'r deunydd doniol ac ysgafn i lyfrau anturus am blant yn gadael Cymru ar y moroedd mawr ac yn mynd i chwilio am drysor.

"Felly roedd 'na amrywiaeth ond doedd dim digon ohono fo.

"Mae'r ffaith fod y fenter yma (Llyfr Mawr y Plant) wedi ei rhoi at ei gilydd; J. O. Williams, Jennie Thomas a'u cyfeillion wedi dod ynghyd a sylwi bod angen rhywbeth mwy parhaol a sylweddol fel arwydd o'r egni newydd oedd ym myd llenyddiaeth plant yn arloesol.

"Roedd Llyfr Mawr y Plant yn gosod safon newydd a bu rhagor o arloesi wedi hynny. Mae wedi ennill lle arbennig iawn yng nghalonnau darllenwyr ers hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Siwan Rosser sy'n nodi bod Llyfr Mawr y Plant wedi ennill lle arbennig iawn yng nghalonau darllenwyr ers 90 o flynyddoedd

Pynciau cysylltiedig