Agor Capel Coffa Capel Celyn wedi gwaith atgyweirio

  • Cyhoeddwyd
cofeb Capel CelynFfynhonnell y llun, Dŵr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gofeb ei chofrestru fel safle statws Gradd II gan Cadw yn 2019

Mae gwaith atgyweirio Capel Coffa Capel Celyn ger Y Bala wedi'i gwblhau a bydd yn agor i'r cyhoedd am y tro cyntaf ar ei newydd wedd ddydd Mercher.

Dechreuwyd atgyweirio yr adeilad sydd wedi ei gofrestru fel safle statws Gradd II ar lan Llyn Celyn ym mis Gorffennaf 2020 a dywed Dŵr Cymru, sydd wedi bod yn gyfrifol am y gwaith, ei fod bellach yn dal dŵr yn iawn.

Cafodd y capel ei godi i goffáu pentref Capel Celyn, a foddwyd yn 1965 er mwyn creu cronfa ddŵr i gyflenwi Gilgwri a dinas Lerpwl.

Y cerflunydd Cymreig R L Gapper a ddyluniodd y capel ac fe gafodd llawer o gerrig y capel gwreiddiol eu defnyddio i'w adeiladu.

Ers rhai blynyddoedd roedd cyflwr y capel wedi dirywio - roedd tyllau yn y to yn golygu ei fod yn gollwng dŵr.

Disgrifiad o’r llun,

Gwasanaeth datgorffori y capel ar 28 Medi 1963 - y digwyddiad olaf yng Nghapel Celyn cyn y boddi

Dywedodd Andrew Dixon ar ran Dŵr Cymru, sy'n goruchwylio'r gwaith yn Llyn Celyn: "Ychydig iawn o waith a wnaed ar y capel ers iddo gael ei adeiladu.

"Rydym wedi gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar yr adeilad dros y blynyddoedd fel rhan o'r gwaith o redeg cronfa ddŵr Llyn Celyn ac roeddem yn awyddus i gynnal rhaglen waith ehangach, hirdymor i helpu i'w warchod."

Ffynhonnell y llun, Dŵr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y capel coffa wedi iddo gael ei atgyweirio

Roedd y gwaith atgyweirio yn cynnwys tynnu y morter gwreiddiol oedd rhwng cerrig y waliau ac yna ailbwyntio'r holl adeilad, y tu mewn a'r tu allan, â morter calch.

Mae to'r adeilad wedi cael ei drwsio'n llwyr hefyd.

Bu gan deulu'r dylunydd gwreiddiol ran yn y prosiect a'r ymgynghorydd cadwraeth, Peter Napier.

"Roedd hi'n bwysig bod y gwaith adnewyddu yn gydnaws â'r adeilad gwreiddiol," medd llefarydd Dŵr Cymru.

Bydd mynediad am ddim i'r capel ddydd Mercher ond mae Dŵr Cymru'n gofyn i ymwelwyr wisgo masg tu mewn i'r adeilad.

Mae agor y capel yn rhan o Ŵyl Drysau Agored, Cadw - cyfraniad blynyddol Cymru at y fenter Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd, sy'n gwahodd sefydliadau treftadaeth, perchnogion eiddo preifat, awdurdodau lleol ac eraill i agor eu drysau neu gynnig gweithgareddau i'r cyhoedd am ddim yn ystod mis Medi.

Caiff yr ŵyl sy'n dathlu treftadaeth adeiledig Cymru ei hariannu a'i threfnu gan Cadw.

Eleni, mae'r ŵyl yn annog trigolion Cymru ac ymwelwyr i ddod i adnabod nifer o safleoedd sy'n llai adnabyddus ac yn llai o ran maint ― sawl un ohonynt ar gau i'r cyhoedd gan amlaf.

Pynciau cysylltiedig