Cofeb Tryweryn a safle awyren wedi eu rhestru yn 2019
- Cyhoeddwyd

Mae cofeb Capel Celyn ar lannau'r gronfa ddŵr lle safai'r pentref
Mae cofeb i bentref Capel Celyn, a gafodd ei foddi i gyflenwi dŵr i Lerpwl, ymysg y safleoedd sydd wedi eu cofrestru yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.
Cafodd naw safle eu hamddiffyn gan gorff treftadaeth Cadw yn 2019.
Hefyd wedi eu hamddiffyn mae gweddillion awyren Americanaidd aeth i'r môr ger Harlech, ac amddiffynfeydd rhyfel ym Mro Morgannwg.
Cafodd cyfanswm o bedwar adeilad eu hamddiffyn a chafodd pum safle eu cofrestru fel rhai o bwysigrwydd.

Gwartheg yn cael eu gwerthu am y tro olaf ar Fferm Gwerngenau, Capel Celyn, ar 10 Hydref 1957
Cafodd pentref Capel Celyn yng Ngwynedd ei foddi yn 1965 er mwyn creu'r gronfa ddŵr.
Collodd tua 70 o bobl eu cartrefi, a bu'n rhaid ffarwelio gyda'r ysgol, y capel a'r ffermydd.
Roedd gwrthwynebiad mawr i gynlluniau Corfforaeth Lerpwl ar y pryd, ac mae'r digwyddiad yn cael ei ystyried fel un pwysig yn hanes twf cenedlaetholdeb Cymreig.
Mae'r gofeb, a gafodd ei gwneud o garreg o adeiladau Capel Celyn, ar lannau'r gronfa.
Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones, bod rhestru'r safle'n dangos "pwysigrwydd diwylliannol" a'r "pwysigrwydd hanfodol i'r gymuned leol ac i hanes ein gwlad".

Aeth y Lockheed P38 Lightning i'r môr yn 1942
Hefyd wedi eu rhestru mae Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug a Pearl Assurance House ym Mhont-y-pŵl, yn ogystal â chiosg The Big Apple yn Y Mwmbwls.
Mae'r adeilad wedi ei ddisgrifio fel esiampl "prin ac anghyffredin o giosg glan môr".
Ar y rhestr o safleoedd sydd wedi eu rhestru mae awyren Lockheed P-38 Lightning aeth i'r môr oddi ar arfordir Harlech ym mis Medi 1942.
Mae'r awyren wedi'i chladdu o dan y tywod ac mae wedi dod i'r amlwg dair gwaith ers iddi ddod i lawr - gwelwyd yr awyren gyntaf yn yr 1970au, yn 2007 ac yna yn 2014.
Hefyd ar y rhestr mae simne ar hen waith plwm Llannerch-y-môr yn Sir y Fflint, a Ffynnon Angoeron yn Sir Fynwy - safle o bwysigrwydd crefyddol.
Fe wnaeth Cadw hefyd ychwanegu dwy amddiffynfa o'r Ail Ryfel Byd i'r rhestr yn 2019.
Mae'r safleoedd yn St Mary's a Bae Tresilian ym Mro Morgannwg.

Ciosg Y Mwmbwls yw'r olaf o sawl un tebyg gafodd eu hadeiladu yn y 1930au i hysbysebu math o seidr
Dywedodd dirprwy weinidog treftadaeth Llywodraeth Cymru bod gan bob un o'r safleoedd ei "stori unigryw ei hun".
Ychwanegodd yr Arglwydd Ellis-Thomas: "Mae ein treftadaeth wrth galon ein hunaniaeth fel cenedl ac mae'n cyfrannu at ein ffyniant economaidd a diwylliannol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2015