'Dwi'n falch es i ddim i'r coleg eleni'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Elis, Caio a Glesni
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elis, Caio a Glesni wedi gohirio mynd i'r coleg am flwyddyn oherwydd y pandemig

Gyda'r flwyddyn gyntaf mewn prifysgol heb fod y profiad arferol i fyfyrwyr newydd 2020 - llawer ohonyn nhw'n dal adref ers y Nadolig a chynt, a nifer yn galw am gael eu rhent llety yn ôl - mae miloedd o ddarpar fyfyrwyr wedi peidio â mynd i'r coleg eleni oherwydd y coronafeirws.

Mae Elis Jones, Caio Rhys Hughes a Glesni Rhys Jones i gyd wedi aros adref am wahanol resymau.

Elis: "Dwi yn falch... ond dwi bron â marw eisiau mynd hefyd!"

Yn hytrach na chychwyn ar ei flwyddyn gyntaf yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL), yn astudio hanes a gwleidyddiaeth yr Americas, mae Elis Jones o'r Felinheli wedi bod yn gweini mewn bwyty lleol ers gorffen yn Ysgol Tryfan, Bangor - pan mae'r bwyty wedi bod ar agor.

Oherwydd iddo orfod apelio yn erbyn ei ganlyniadau Lefel A, yn llwyddiannus, fe gostiodd yr oedi ei le iddo yn llety'r brifysgol.

"Efo'r graddau yn cael eu gwneud drwy algorithm, ges i ddim y graddau o'n i eisiau i fynd, ges i A, B ac C lle o'n i angen tair A, so nath UCL droi fi lawr, "meddai.

"Wedyn wythnos wedyn ges i'r graddau iawn ac oedd rheina'n ddigon da i fi allu mynd felly wnaeth UCL newid eu safbwynt a rhoi lle i fi.

"Ond y broblem wedyn oedd nad oedd gen i accomodation - oherwydd y graddau cyntaf roedd UCL wedi weipio fi allan o'r system. Wnaethon nhw ddweud wrtha i yn y diwedd fod yna 60/40 chance fyswn i ddim yn cael lle i aros a do'n i ddim rili eisiau mynd i lety preifat achos o'n i'n teimlo faswn i ddim yn cael yr un math o experience - ro'n i eisiau bod yn yr halls of res, so nes i benderfynu aros adra'."

Roedd y ffaith na fyddai'r profiad mor gymdeithasol ag y byddai dan amodau arferol yn ffactor hefyd i Elis.

Doedd o ddim yn benderfyniad hawdd ac fe newidiodd ei feddwl sawl gwaith cyn penderfynu gohirio tua wythnos cyn y dyddiad dechrau. Fel mae pethau wedi mynd mae'n falch mai dyna wnaeth o, ond yn naturiol mae ganddo deimladau cymysg.

"Erbyn hyn, dwi yn falch bo' fi wedi cymryd blwyddyn allan ond dwi bron â marw eisiau mynd hefyd; dwi eisiau i mis Medi ddod mor gyflym â phosib rŵan!"

Ffynhonnell y llun, llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Methodd Elis gael lle i fyw yn y brifysgol yn Llundain oherwydd y dryswch am ganlyniadau Lefel A

Mae profiadau ffrindiau sydd wedi bod adref o'r brifysgol ers y Nadolig hefyd yn gwneud iddo deimlo nad ydy'r profiad yn un llawn o safbwynt academaidd chwaith gyda llawer o ddarlithoedd wedi eu recordio yn golygu nad oes modd gofyn cwestiynau ac yn y blaen, meddai.

"Dio ddim yr addysg llawn 'dach chi'n ddisgwyl am £10,000 - ond does 'na ddim datrysiad iddo fo chwaith."

Er bod Elis yn bendant o le ar y cwrs fis Medi mae ganddo bryderon yn dal i fod: gyda'r cwrs yn bedair blynedd o hyd ac yntau wedi treulio blwyddyn ychwanegol adref mae'n poeni y bydd yn hŷn yn gadael addysg.

Ac mae'n poeni hefyd na fydd llety iddo eto eleni gan ei fod yn gorfod gwneud cais arall am lety a chystadlu am le gyda llawer iawn o fyfyrwyr eraill sydd wedi gohirio fel fo.

Ond mae'n "bendant" yn mynd, "llety preifat neu ddim!"

"Efo'r mistec wnaeth y llywodraeth ar draws y Deyrnas Unedig doedd hynna ddim yn help - dwi ddim yn gwybod be oeddan nhw'n ddisgwyl ei gael allan o'r algorithm yna - dwi'n meddwl bod nhw 'di saethu eu hunain yn y droed a dweud y gwir - dwi ddim yn gwybod be' ddaeth dros eu pennau nhw.

"A Llywodraeth Cymru oedd yr olaf i newid eu meddyliau. Dwi ddim yn meddwl bod Mark Drakeford wedi ymddiheuro am yr hyn sydd wedi digwydd eto - oedd o reit gyndyn i newid ei feddwl. Ond, o wel, dyna 'di'r sefyllfa - dwi'n lwcus i ddeud mod i wedi cael y graddau dwisho a bod gen i le mis Medi."

Ar wahân i weithio os yw'r bwyty'n ailagor a mynd drwy ei restr ddarllen, pe bai'n gallu, beth fyddai'n hoffi ei wneud yn yr amser sydd ganddo cyn fis Medi?

"'Swn i'n licio mynd ar wyliau. 'Swn i'n mynd i rwla ar y funud!"

Caio: "Fydda i lot mwy 'prepared' rŵan nag o'n i flwyddyn diwetha!"

Flwyddyn yn ôl roedd ffrind Elis, Caio Rhys Hughes, sydd hefyd yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Tryfan, Bangor, wedi ennill ysgoloriaeth i brifysgol yn yr UDA ac wrthi'n paratoi i lenwi'r gwaith papur. Byddai bron hanner ffordd drwy ei flwyddyn gyntaf yno erbyn hyn oni bai am Covid.

Ond yn lle hynny mae wedi cael y profiad o weithio ar ôl cael prentisiaeth chwaraeon gyda'r Urdd ac yn teimlo fod y profiad wedi ei baratoi ychydig yn well at fywyd.

Ffynhonnell y llun, llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth taith ysgol i'r Unol Daleithiau wneud i Caio fod eisiau mynd yno i astudio

Roedd wedi ennill yr ysgoloriaeth oherwydd ei gariad at bêl-droed: mae'n chwarae ers ei fod yn fachgen bach ac yn aelod o dîm CPD Caernarfon. Cafodd yr ysgoloriaeth wedi i hyfforddwyr o'r Unol Daleithiau ei weld yn chwarae yn Llundain.

"O'n i di cael offer o'n i'n hapus efo fo yn Arkansas a nes i dderbyn hwnna. Mis Chwefror oedd hi pan o'n i'n dechrau'r broses a gwneud y cais a'r gwaith papur a Visa a ballu. Wedyn fis wedyn daeth y feirws ac aeth bob dim ar hold.

"Ro'n i'n gorfod trio cael Visa ond achos bod y firws yn eitha newydd a bob dim o'n i jyst methu gwneud fawr o ddim byd ac roedd bob man wedi cau hefyd felly o'n i methu cael y papurau o'n i eu hangen. So nes i wneud y penderfyniad tua mis Mai fyswn i ddim yn mynd am flwyddyn.

"Yn wahanol i Elis o'n i'n eitha ffodus achos o'n i'n gwybod cyn mis Mai, so o'n i'n gallu cynllunio wedyn."

Gwelodd hysbyseb am y prentisiaeth a thrio amdani.

Caio yn chwarae i glwb pêl-droed tref Caernarfon
llun cyfrannydd
Flwyddyn yma dwi'n gweithio efo’r Urdd ac wedi cael chwarae mwy o bêl-droed a chael cynnig hyd yn oed gwell
Caio Rhys Hughes

Mae'r gohirio wedi bod o fantais i Caio gan ei fod nid yn unig wedi cael profiad o weithio i'r Urdd ond hefyd wedi cael cynnig gwell erbyn hyn gan brifysgol yn nhalaith Efrog Newydd lle mae'n gobeithio mynd i astudio cwrs busnes fis Medi.

Drwy chwarae pêl-droed i'r brifysgol mae'n gallu lleihau costau ei gwrs ac mae'n gobeithio y bydd ar ysgoloriaeth lawn erbyn ei drydedd flwyddyn

"Yn y diwedd roedd y penderfyniad hollol allan o nwylo i. Ond dwi'n falch oherwydd yn amlwg o'n i di gallu cael security ac incwm am flwyddyn a hefyd, yn byw adra, dwi'n teimlo 'mod i 'di dysgu lot o sgiliau hefyd, 'fath a bwyd, cwcio a llnau... mae wedi helpu fi fel pan fydda i'n mynd i fyw ar ben fy hun fydda i lot mwy prepared rŵan nag o'n i flwyddyn diwetha'!"

Glesni: "Nes i orfod meddwl yn galed iawn be' o'n i isho'i wneud."

Astudio llais ydy'r freuddwyd wedi bod i Glesni Rhys Jones o Fodedern, Môn, erioed ac yn 2020 roedd wedi cael ei derbyn i wneud hynny yn y Royal Northern College of Music yn Manceinion.

"Wedyn yn annisgwyl iawn dyma hyn i gyd yn digwydd a chwalu'r freuddwyd," meddai Glesni sy'n gyn-ddisgybl yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy ac yn enillydd profiadol ar lwyfannau eisteddfodol.

"Roedd yn benderfyniad anodd, roedd 'na lot o bwyso a mesur y sefyllfa a sut y basai'n cael effaith ar y cwrs a'r profiad o fod yn y brifysgol ac fe wnaeth lot o ffactorau arwain at benderfynu peidio mynd yn y diwedd."

Ffynhonnell y llun, llun cyfrannydd

Y ffaith y byddai'r dysgu yn gorfod digwydd ar-lein oedd y ffactor mwyaf yn ei phenderfyniad i ohirio, meddai Glesni.

"Dwi'n meddwl mai'r gwahaniaeth rhwng mynd i astudio llais a mynd i brifysgol oedd y gwersi canu a'r sesiynau ymarferol byswn i yn eu cael mewn conservatoire; hynny oedd wedyn yn arwain at bryder na fuasai hynny mor effeithiol ar-lein dros Zoom."

Roedd yn teimlo y byddai wedi colli allan hefyd ar brofiadau fel canu ensemble hefyd.

"Ro'n i wedi siarad efo lot o fyfyrwyr oedd yna'n barod ac roeddan nhw'n deud bod hynny ddim mor effeithiol, felly 'nath hynny wneud i fi benderfynu y bysa'n well gen i gymryd blwyddyn allan."

Mae wedi bod mewn cysylltiad gyda rhai o'i chyfoedion a benderfynodd fwrw ymlaen i wneud y cwrs.

"Ro'n i'n siarad efo gwahanol rai yn gofyn am eu profiadau nhw ac roeddan nhw'n dweud eu bod nhw'n gwneud y mwyaf o'r sefyllfa ond bod rhai ohonyn nhw yn difaru na fasan nhw wedi cymryd blwyddyn allan am bod o ddim cystal ag roeddan nhw'n ei ddweud mewn dyddiadau agored ac yn y blaen.

"Dwi'n falch mod i 'di cymryd blwyddyn allan a 'di mynd i ffeindio swydd. Dwi'n teimlo mod i 'di gwneud y peth iawn, dwi ddim yn ista yn y tŷ trwy'r flwyddyn mewn ffordd," meddai.

llun cyfrannydd
Doedd neb yn disgwyl i hyn ddigwydd ond mi fu raid dod dros hynny yn sydyn iawn.
Glesni Rhys Jones

Mae Glesni wedi cael gwaith fel cymhorthydd mewn ysgol gynradd leol ac mae wedi bod yn brofiad da, meddai. Mae hefyd wedi gallu defnyddio ei chariad at gerddoriaeth yn y swydd.

"Dwi'n gwneud fideos ar hyn o bryd i yrru i'r plant gael dysgu caneuon bach, hwiangerddi ac yn y blaen, rhywbeth i gael amser enfys ar ddydd Gwener!"

Yn wahanol i Elis a Caio, does gan Glesni ddim sicrwydd o le y flwyddyn nesaf gan nad ydy colegau perfformio yn cadw eu cynnig am flwyddyn oherwydd y gystadleuaeth esbonia Glesni.

"Roedd hynny'n bryder a gorfod ailymgeisio ac ailwneud y clyweliadau a mynd drwy'r broses eto.

"Dwi 'di gorfod meddwl am opsiynau eraill fel mynd i brifysgol, ond dyna 'di'r freuddwyd yn dal i fod a gobeithio ga i wneud hynny fis Medi.

"Pan 'dach chi yn yr ysgol 'dach hi'n meddwl bod bob dim yn digwydd yn ei drefn a bod bob dim wedi ei fapio allan ar eich cyfer chi ond 'nath hyn yn sicr ddysgu fi bod 'na gymaint o bethau yn gallu mynd o'i le a mae'n rhaid i chi wneud penderfyniadau drosoch chi'ch hun ac ar sail be' 'di'r peth pwysicaf i chi.

"Mae'n rhaid i chi ddilyn be' ydach chi isho'i neud. Nes i orfod meddwl yn galed iawn be' o'n i isho'i wneud fis Awst diwethaf a gwneud y penderfyniad iawn i fi. Doedd neb yn disgwyl i hyn ddigwydd ond mi fu raid dod dros hynny yn sydyn iawn."

Hefyd o ddiddordeb: