Bachgen 3 oed fu farw wedi'i daro gan gerbyd â threlar
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed y bu farw bachgen tair oed ar ôl cael ei daro gan gerbyd pick-up â threlar ar eu fferm ger Efailwen, Sir Gâr.
Cafodd y cwest i farwolaeth Ianto Cerwyn Siôr Jenkins ei agor yn swyddogol ddydd Gwener a'i ohirio er mwyn casglu rhagor o wybodaeth.
Clywodd y gwrandawiad byr yn Llanelli fod y gwasanaethau brys wedi cael eu galw i Fferm Rhosfach am 19:00 ar 3 Awst yn dilyn adroddiad fod plentyn wedi cael ei daro gan gerbyd fferm.
Roedd ymholiadau'r heddlu'n awgrymu fod y bachgen wedi bod yn chwarae gyda'i chwaer ar ei feic ar iard y fferm.
Cafodd Ianto - fyddai wedi troi'n bedair oed yr wythnos ddiwethaf - ei daro gan pick-up oedd â threlar, ac fe gafodd ei gyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle am 19:40 er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys.
Clywodd y cwest fod ymholiadau Heddlu Dyfed-Powys a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch i'r digwyddiad yn parhau.
Cafodd y cwest ei ohirio am o leiaf pedwar mis, ond nid oes dyddiad wedi'i bennu eto.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2021
- Cyhoeddwyd4 Awst 2021