Peilot profiadol wedi marw o anafiadau i'w ben a'i frest
- Cyhoeddwyd
Bu farw darlithydd a pheilot o anafiadau i'w ben a'i frest ar ôl i'w awyren daro'r môr oddi ar arfordir gogledd Cymru, mae cwest wedi clywed.
Cafwyd hyd i gorff yr Athro David Last, o Lanfairfechan, bythefnos ar ôl i'w awyren ysgafn fynd ar goll ar 25 Tachwedd, 2019.
Roedd yn teithio mewn Cessna o Faes Awyr Caernarfon i'r Gogarth yn Llandudno ac yn ôl pan gollodd gysylltiad radar ger Ynys Seiriol.
Ym mis Hydref 2020, dywedodd yr Adran Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) nad oedd hi'n bosib dweud beth achosodd y gwrthdrawiad.
Mewn cwest i'w farwolaeth yng Nghaernarfon ddydd Mercher, daeth y crwner i gasgliad agored am farwolaeth yr Athro Last.
Clywodd y cwest fod Yr Athro Last yn beilot "hynod brofiadol" ac "abl", a oedd yn dilyn canllawiau diogelwch.
Gadawodd Faes Awyr Caernarfon am hediad byr tua 11:15 ar 25 Tachwedd ond roedd pryderon pan na ddaeth yn ôl erbyn hanner dydd.
Cafwyd sawl ymgais i gysylltu â'r awyren fechan, ond yn ofer.
Roedd radar wedi dangos fod y peilot wedi hedfan tuag at y Gogarth yn Llandudno ac wedi troi rownd tuag at Ynys Seiriol, lle diflannodd yr awyren oddi ar y radar.
Daeth deifwyr o hyd i gorff yr Athro Last dros bythefnos wedi i'r awyren ddiflannu.
Clywodd y cwest gan Sarah Williams, athrawes ysgol gynradd yn ardal Penmaenmawr.
Dywedodd Ms Williams ei bod wedi gweld awyren fechan yn hedfan yn isel ar draws ardal Penmaenmawr a Dwygyfylchi, a bod hynny wedi dal ei llygad am ei fod mor "agos ac isel", yn hedfan ar hyd yr arfordir.
Clywodd y cwest gan ymchwilwyr AAIB a ddywedodd fod yr awyren wedi taro'r dŵr pan yr oedd yn gyflawn.
Roedd wedi bod yn teithio ar gyflymder uchel, gyda'r trwyn i lawr ac ar ongl serth am tua 90 eiliad cyn taro'r môr.
Dywedodd ymchwilwyr nad oedd tystiolaeth fod problemau gyda'r awyren ac fe gytunon nhw fod yr Athro Last yn beilot "hynod brofiadol", a oedd wedi bod yn hedfan ers 1977.
Roedd yr Athro Last yn beiriannydd ymgynghorol a thyst arbenigol mewn systemau ymchwilio radio a chyfathrebu, ac yn athro emeritws ym Mhrifysgol Bangor. Ymunodd â'r Sefydliad Llywio Brenhinol ym 1972.
'Wedi bod yn sâl'
Gan ganolbwyntio ar hanes meddygol yr Athro Last clywodd y cwest sut yr oedd wedi bod yn teimlo'n sâl yn ystod yr wythnos flaenorol oherwydd peswch a haint ar y frest.
Yn yr wythnos honno, roedd wedi teimlo fel y gallai fod wedi 'pasio allan' wrth deithio gyda'i fab mewn car, er ei fod yn teimlo'n well pan benderfynodd hedfan.
Dywed ymchwilwyr o'r AAIB nad oedd tystiolaeth o analluogrwydd meddygol ond yn eu hadroddiad maen nhw'n nodi bod y peilot wedi bod yn sâl.
Ond ychwanegon nhw fod ei "deulu fodd bynnag wedi ystyried ei fod yn iach eto ar yr adeg yr aeth i hedfan ac na welodd unrhyw beth anarferol yn ei ymddygiad".
"Nid oedd tystiolaeth o analluogrwydd meddygol y peilot, fodd bynnag, mae ei salwch diweddar a'r ffaith nad yw achosion analluogrwydd bob amser yn amlwg yn golygu na ellir eithrio hyn," nododd yr adroddiad.
Clywodd y cwest fod yr Athro Last wedi marw o anaf i'w ben a'i frest o ganlyniad i'r awyren yn taro'r dŵr.
Dywedodd prif grwner dros dro y gogledd-orllewin, Katie Sutherland, fod yr Athro Last yn "ddyn uchel ei barch gan ei gydweithwyr a'i ffrindiau".
Oherwydd diffyg tystiolaeth, meddai, ni allai roi rheswm manwl o sut y bu farw. Cafwyd dyfarniad agored i'w farwolaeth.
'Tad, taid, gŵr, brawd ac ewythr annwyl'
Mewn teyrnged, dywedodd teulu'r Athro Last eu bod yn croesawu casgliad y cwest.
"Er ei bod yn rhyddhad gallu tynnu llinell o dan yr ymchwiliadau gan ei bod bron i ddwy flynedd ers i ni golli Dave, mae'n anffodus y gall union natur y ddamwain olygu nad yw achos [marwolaeth] byth wedi'i nodi," meddai.
"Fodd bynnag, rydym yn ddiolchgar iawn i'r holl asiantaethau dan sylw a'u hymdrechion helaeth a thrylwyr yn hyn o beth."
Ychwanegodd: "Ar lefel bersonol mae hwn yn parhau i fod yn gyfnod anodd i'r teulu gan ein bod yn dal i ddod i delerau â cholli tad, taid, gŵr, brawd ac ewythr annwyl."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2019