Argyfwng tai: Defnyddio dychan i wneud pwynt
- Cyhoeddwyd
O brotestio, i lobïo, i'r ymgyrch losgi - mae'r Cymry wedi tynnu sylw at effaith y sefyllfa dai ar gymunedau mewn sawl ffordd wahanol, ond mae un artist wedi mabwysiadu techneg arall: dychan.
Cyn y cyfnod clo, doedd gan Bedwyr Williams ddim llawer o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth genedlaetholgar ac yn gweld byd y dosbarth canol Cymraeg braidd yn fewnblyg a diflas. Ond fe wnaeth gweld agweddau rhai ymwelwyr o Loegr dros gyfnod y pandemig arwain iddo newid ei farn.
Ers ymhell cyn Covid, roedd wedi bod yn dychanu'r byd artistig yn Llundain mewn darluniau dyddiol ar Instagram. Ond dros y cyfnod clo fe ddaeth ei waith deifiol a swrrealaidd yn fwy gwleidyddol wrth iddo droi ei olygon nes adref ac at y sefyllfa dai a'r iaith Gymraeg.
Mae ei luniau yn rhoi pin mewn swigen sawl math o berson: o bobl di-Gymraeg sy'n malio dim am yr iaith na'r ardal, i'r Cymry Cymraeg sy'n rhagrithwyr ac yn elwa o'r farchnad dai wrth geisio bod yn 'un o'r werin' ar yr un pryd.
A gyda 15,000 yn ei ddilyn ar Instagram, a'i gyfrif wedi ei enwi yn y New York Times fel un o'r pump o'r rhai gorau yn y byd celf, mae nifer fawr yn cael blas ar ei bersbectif o ar fywyd.
Meddai Bedwyr Williams, sy'n wreiddiol o Lanelwy ond yn byw yn Nyffryn Peris erbyn hyn: "O'n i'n mynd i gerdded yn ystod lockdown drwy Fachwen (ardal ger Llyn Padarn) a llefydd fel yna, ac o ni'n meddwl bod 'na rwbath yn wrong efo'r vibe yn y lle bach yna, mae rhywbeth yn trawo chdi.
"Mae llefydd eraill o gwmpas yr ardal yn cael effaith pobl ddi-Gymraeg yn symud fewn efo canŵ ar dop y fan a ballu ond efo Fachwen ti'n teimlo bod chdi'n mynd i ryw le gwylia neu gerdded i fyd gwahanol.
"Yn fy ffordd fach tiny fy hun dwi'n jest pwshio nôl yn erbyn be' dwi'n weld sy'n digwydd yng Nghymru - dim byd political mawr, jest artist bored yn ystod lockdown yn pwsho nôl dipyn bach."
Mae hiwmor a swrrealaeth yn rhan fawr o waith yr artist, sy'n gweithio mewn sawl cyfrwng gwahanol yn cynnwys fideo a gosodweithiau. Mae wedi cynrychioli Cymru yn arddangosfa'r Biennale yn Venice ac wedi ennill medal aur yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dechreuodd wneud ei ddarluniau Instagram dyddiol gydag inc ar bapur, cyn arbrofi gyda iPad dros y cyfnod clo.
Mae ei ddarluniau dychanol wedi arwain at gyhuddiadau o fod yn wrth-Seisnig, ond mae'n mynnu nad dyna'r gwir a bod ganddo deulu Saesneg a bod ei bartner yn hanner Saesnes. Treulio'r cyfnod clo yn cerdded o gwmpas ei gynefin ac yn byw gyda'i dad yn yr ardal lle cafodd ei fagu sydd wedi gwneud iddo werthfawrogi Cymru a newid ei wleidyddiaeth.
"Dwi ddim yn anti-Saesneg ond dwi rŵan yn fy 40au a dwi'n gweld yn union be ydi dylanwad y bobl leol methu fforddio dwyn teulu i fyny mewn pentrefi," meddai.
"Yn ystod lockdown neshi weld sut mae'r Cymry a phobl Cymraeg yn cael eu trin gan nid jest y llywodraeth ond gan bobl gyffredin Seisnig sy'n dod yma - jest y thing o beidio gwisgo masg. Roedd 'na siop campio yn Sir Fôn oedd wedi gorfod cau am fod rhai o'r ymwelwyr wedi bod mor gas am orfod gwisgo masg.
"Mae jest yr idea o deulu o bobl Cymraeg yn cicio off yn Newton-le-Willows mewn siop campio neu rwbath fel yna... wel, fasa fo jest ddim yn digwydd."
Mae'r rhan fwyaf o'r ysgrifen ar ei ddarluniau yn Saesneg, a hynny er mwyn i bobl tu allan i Gymru ddeall yr hyn mae'n ceisio ei ddweud.
Meddai: "Ers blynyddoedd mae pobl fel Jeremy Clarkson a Rod Liddle wedi bod yn bychanu pobl Cymraeg at will ac mae pobl Cymraeg yn ypsetio ar Twitter ac isio ffonio'r police a ballu ond be' sgeno ni ddim ydi ffordd i batio fo yn ôl.
"Mae gen ti bobl Saesneg sy'n barod iawn eu barn i ddweud bod ni'n cwyno gormod neu dim sense of humour neu bod ni ddim yn dallt, ag o ni isio challengio hynny dipyn bach. Dwi'm yn neud o mewn ffordd atgas, dwi wastad 'di trio neud o fel bod o'n sbort a dio ddim gwaeth na be ma' pobl sy'n dychan y Gymraeg yn y wasg neu ar y teledu yn ddweud.
"Mae o jest yn take satirical fi o be' dwi'n weld o 'nghwmpas i - efo dipyn bach o Victor Meldrew wedi ei daflu i mewn."
Bydd arddangosfa Bedwyr Williams MILQUETOAST yn agor yng Nghanolfan Gelf Aberystwyth 23 Chwefror 2022.
Hefyd o ddiddordeb: