Arestio dyn am neges yn bygwth bywyd AS Rhondda

  • Cyhoeddwyd
Chris Bryant MP
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Chris Bryant AS ei fod wedi cael neges arall 'yn bygwth ei fywyd' ddydd Sul

Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â neges a gafodd ei hanfon at AS Llafur Rhondda, Chris Bryant - roedd y neges yn bygwth ei fywyd.

Dywed Heddlu De Cymru bod dyn 76 oed o Bontycymer, Sir Pen-y-bont ar Ogwr, wedi ei arestio ar amheuaeth o gyfathrebu'n faleisus.

Cafodd yr heddlu eu galw oddeutu 16:30 ar 16 Hydref wedi adroddiadau bod negeseuon maleisus wedi'u hanfon.

Dywed Mr Bryant ei fod wedi derbyn y neges a oedd yn bygwth ei fywyd wedi iddo alw ar bobl i fod yn fwy caredig wedi marwolaeth Syr David Amess ddydd Gwener.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae trigolion Leigh-on-Sea wedi bod yn cofio am Syr David Amess

Mae marwolaeth AS Southend West, a gafodd ei drywanu tra'n cyfarfod etholwyr, yn cael ei drin fel digwyddiad terfysgol gan Heddlu Llundain ac mae dyn 25 oed wedi ei arestio.

Mae plismyn hefyd wedi cael cais i adolygu diogelwch ASau wedi'r digwyddiad ddydd Gwener.

Pynciau cysylltiedig