Staff y GIG yn galw am fwy o weithredu ar newid hinsawdd
- Cyhoeddwyd
Rhaid i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ganolbwyntio ar dorri ei allyriadau nwyon tŷ gwydr ochr yn ochr â'r argyfwng Covid, yn ôl y prif weithredwr.
Dywedodd yr Athro Andrew Goodall, sydd ar fin gadael y swydd, y byddai ymladd newid hinsawdd yn helpu osgoi problemau iechyd yn y dyfodol.
Mae rhai staff gofal iechyd wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod am weld mwy o weithredu a chefnogaeth gan reolwyr y GIG.
Mae grwpiau gwyrdd yn cael eu sefydlu mewn ysbytai ledled y wlad, gyda staff yn rhoi oriau ychwanegol heb dâl i helpu i ddatgarboneiddio eu hysbytai.
Newidiadau'n digwydd
Sbardunwyd y symudiad gan ymdrechion yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor lle daeth nyrsys, meddygon, fferyllwyr ac aelodau eraill o staff pryderus ynghyd yn 2019 i drefnu prosiectau cynaliadwyedd gyda'r bwriad o leihau allyriadau.
Eisoes mae newid ar waith: newid i nwyon anesthetig llai llygrol, treialu PPE y gellir ei ailddefnyddio, mwy o fwyd lleol yn y ffreutur a rhagor o blannu coed ar y safle.
Mae'r gwasanaeth iechyd yn gyfrifol am oddeutu 2.6% o allyriadau cynhesu byd eang Cymru - ôl troed carbon o oddeutu 1 miliwn tunnell o CO2e.
Gyda gofal iechyd yn fater datganoledig, mae'n un o'r meysydd lle gall penderfyniadau a buddsoddiad Llywodraeth Cymru wneud gwahaniaeth go iawn.
Dywedodd y meddyg iau, Tom Downs - a sefydlodd Grŵp Gwyrdd Ysbyty Gwynedd - ei fod wedi bod yn "rhywbeth positif iawn i ganolbwyntio arno" yn ystod y pandemig.
Ond mae'n cydnabod ei fod yn "ymrwymiad mawr" i'r gwirfoddolwyr a bod dod o hyd i amser ar ben wythnos waith 70 awr yn "her go iawn".
Mae staff ar lawr yr ysbyty yn y safle gorau i "weld y problemau" a "gweld lle sy' 'na i wella hefyd," yn ôl Yasmina Hamdaoui, fferyllydd sy'n aelod o'r Grŵp Gwyrdd.
Ond mae'n dweud bod angen cefnogaeth a'r "cymorth o'r top" ar ôl cyfnod "stressful iawn" gyda Covid.
"'Da ni 'di cychwyn y gwaith, 'da ni 'di sbarduno fo ond 'da ni angen support i gario 'mlaen hefyd," meddai.
Pan ymwelodd BBC Cymru â'r ysbyty, roedd rhai o'r staff oedd yn ymwneud â'r grŵp wedi dod i mewn ar ddiwrnodau i ffwrdd neu ar ôl shifft nos i'n tywys o gwmpas.
Mae gan y grŵp gwyrdd gynlluniau i blannu 100 o goed, a'r syniad yw y gallai rhai o gleifion iechyd meddwl yr ysbyty helpu gyda chynnal chadw'r coed fel rhan o'i triniaeth.
Mae'r grŵp hefyd wedi cyhoeddi canllawiau beicio i'r gwaith i staff dorri i lawr ar deithiau ceir ac wedi lobïo'n llwyddiannus am gyfleusterau cawod newydd.
Yn y cyfamser, mae rhai o'r trawsnewidiadau mwyaf wedi digwydd y tu mewn i'r ysbyty ei hun - gan gynnwys newid y nwy anesthetig a ddefnyddir.
27,500 milltir y mis
Fe wnaethon nhw weithio allan bod defnyddio Desflurane am awr i roi claf i gysgu yn cynhyrchu allyriadau tebyg i yrru 320km mewn car, tra bod dewis arall o'r enw Sevoflurane - a oedd yn gweithio cystal - fel gyrru 6.5km.
"Rydyn ni'n arbed yr hyn sy'n cyfateb i yrru 27,500 milltir y mis sy'n bendant yn arwyddocaol," esboniodd yr anesthetydd ymgynghorol Dr Carsten Eickmann.
Ond pwysleisiodd fod maint y toriadau allyriadau sy'n ofynnol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn golygu bod angen ailwampio mawr a llawer mwy o fuddsoddiad gan y llywodraeth.
Mae'n dweud fod hen ffenestri gwydr a diffyg inswleiddio ar safle 1980au'r ysbyty'n arwain at wastraff enfawr o ynni.
Yn ystod cyfnodau poeth diweddar, roedd y tymheredd wedi cyrraedd dros 30 gradd mewn rhai rhannau o'r ysbyty - felly byddai ailosod ffenestri hefyd yn helpu i addasu i heriau cynhesu byd-eang.
Prin bod neb o fewn y gwasanaeth iechyd oedd â'r argyfwng hinsawdd fel ei unig gyfrifoldeb, meddai Dr Eickmann.
"Mae gennym reolwyr ar gyfer popeth ond ychydig iawn o bobl sy'n canolbwyntio ar faterion newid hinsawdd yn unig."
Ychwanegodd Dr Tom Downs ei fod yn credu bod gan y GIG gyfrifoldeb i "arwain trwy esiampl".
"Yn union fel y mae'r gweithlu iechyd ar reng flaen y pandemig, byddant yn yr un modd ar reng flaen argyfwng yr hinsawdd a'r effeithiau ar iechyd a welwn o hynny."
Mae'n gobeithio y bydd uwchgynhadledd COP26 yn Glasgow ymhen llai na mis yn canolbwyntio meddyliau ac yn arwain at fwy o weithredu.
Cyhoeddodd GIG Cymru eu cynllun cyflenwi strategol ar gyfer datgarboneiddio yn gynharach eleni, gyda thargedau i leihau allyriadau 16% erbyn 2025 a 34% erbyn 2030.
Ond mae Llywodraeth Cymru eisiau i'r sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd gyrraedd allyriadau sero net erbyn yr un flwyddyn - felly mae'r ddogfen yn awgrymu y dylid ystyried hyn fel "cyfraniad lleiaf" at y nod hwnnw.
Mae'n cynnig ymhlith pethau eraill y bydd pob adeilad wedi cael ei uwchraddio o ran effeithlonrwydd ynni gyda chynlluniau trydan adnewyddadwy ar raddfa fawr yn cael eu defnyddio ac ambiwlansys allyriadau isel neu drydan yn cael eu caffael.
'Gwneud gwahaniaeth'
Dywedodd Dr Andrew Goodall - sy'n symud i swydd newydd fel prif was sifil Llywodraeth Cymru ar ôl rhedeg y GIG er 2014 - ei fod yn croesawu cefnogaeth gan staff y GIG i weithredu ar newid hinsawdd.
"Mae'n bwysig iawn i ni gydnabod bod hyn yn gwneud gwahaniaeth i ofal iechyd ar gyfer y dyfodol," meddai, gan dynnu sylw at y cysylltiad rhwng llygredd aer yn benodol ac amrywiaeth o afiechydon.
"Rydyn ni am sicrhau nad yw'r GIG yn gofyn i eraill weithredu yn unig - mae gennym gyfrifoldeb i ganolbwyntio [ar hyn]."
Ynglŷn â'r galwadau am fwy o weithredu gan reolwyr, dywedodd fod disgwyliadau wedi'u gosod ar lefel genedlaethol trwy'r cynllun cyflawni cyffredinol ond y byddai holl rannau eraill y GIG angen eu fersiynau eu hunain.
"Bydd angen i'r GIG ochr yn ochr â'r holl wasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru gamu i fyny a chynyddu lefel ei gyfraniad dros y blynyddoedd i ddod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2021
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd19 Awst 2021
- Cyhoeddwyd1 Medi 2021
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2021