Angen gwell cefnogaeth i fenywod yn ystod y menopos

  • Cyhoeddwyd
Davina McCallFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Y cyflwynydd teledu, Davina McCall, fydd yn arwain y brotest yn Llundain i gefnogi'r ddeddf newydd

I nodi diwedd Mis Menopos y Byd, a'r ffaith bod deddf newydd i wella gwasanaethau menopos yn gwneud ei ffordd drwy Dŷ'r Cyffredin, bu gohebydd y BBC yn San Steffan, Gareth Lewis, yn sgwrsio gyda dwy fenyw am eu profiadau.

Mewn caffi menopos yn y Coed Duon, mae Mo a Jasmin yn siarad yn agored am eu trafferthion, yn y gobaith y bydd pethau'n gwella i eraill yn y dyfodol

Ddydd Gwener bydd deddf newydd, a gynigiwyd gan AS Dwyrain Abertawe, Carolyn Harris, yn cael ei ail ddarlleniad yn Nhŷ'r Cyffredin.

Mae'n galw am:

  • strategaeth ar y cyd gan lywodraethau'r DU i gynnig cefnogaeth menopos

  • sefydlu ffordd o rannu arferion da am y menopos yn y gweithle

  • hyfforddiant gorfodol ar y menopos mewn ysgolion meddygol

  • i ysgolion yn Lloegr ddysgu plant am y menopos

Yn dilyn cyfarfod gyda gweinidog iechyd Cymru, Eluned Morgan, y gweinidog addysg, Jeremy Miles, a Carolyn Harris yr wythnos diwethaf, cadarnhaodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd llesiant mislifol yn cael ei gynnwys yn y cwricwlwm yng Nghymru.

O dan y ddeddf newydd gallai Lloegr ddilyn arweiniad Cymru a rhoi triniaeth hormonau HRT am ddim ar bresgripsiwn.

Ffynhonnell y llun, HoC
Disgrifiad o’r llun,

Yr AS Carolyn Harris sydd tu ôl i'r ddeddf newydd arfaethedig

Gwrthdystio o blaid y ddeddf

Yn dilyn ail ddarlleniad y bil ddydd Gwener mae disgwyl i gannoedd o fenywod wrthdystio tu allan i San Steffan, yn cefnogi'r ddeddf ac yn galw am newid. Y cyflwynydd teledu Davina McCall, sydd wedi rhannu ei phrofiad o'r menopos, fydd yn arwain y digwyddiad.

Ond yn y Coed Duon, ymhell o dwrw'r brotest a'r dadlau yn Nhŷ'r Cyffredin, dyma straeon Mo a Jasmin.

Mo Wildridge, 51

Mae Mo yn credu bod ei chorff wedi dechrau paratoi ar gyfer y trawsnewidiad i'r menopos (perimenopause) tuag wyth mlynedd yn ôl.

Ond dim ond tair blynedd yn ôl, yn dilyn ymweliad a chaffi menopos, y dechreuodd sylweddoli beth oedd yn mynd ymlaen. Ac mae hi wedi bod yn anodd.

"Ro'n i'n meddwl 'mod i'n mynd yn wallgof," meddai.

"Roedd fy ymennydd wedi troi'n slwtsh. Roeddwn yn gorfod ysgrifennu pethau, gwneud nodiadau, cadw dyddiaduron fel fy mod yn cofio popeth.

"Ro'n i wir yn credu fy mod yn cael dementia. Cafodd fy nhad dementia cynnar pan oedd yn 51 ac roeddwn i'n meddwl fy mod yn mynd i farw'n ifanc.

"Mae gennyf dair merch ac ro'n i'n meddwl y byddent heb fam."

Croesawu'r ddeddf

Mae Mo'n credu y byddai'r ddeddf newydd wedi bod o gymorth iddi, yn enwedig y rhan sy'n trafod rhannu arferion da yn y gweithle.

"Fe roies i'r gorau i weithio dair blynedd yn ôl," meddai.

"Ro'n i'n gweithio llawn amser ac yn gwneud gradd mewn seicoleg gyda'r Brifysgol Agored yr un pryd. Gyda'i gilydd fe wnaeth y ddau beth fy mwrw dros y dibyn.

"Cefais fy ngalw i'r swyddfa lawer gwaith am gymryd gormod o amser bant ar gyfer salwch."

"Roedd fy mós yn cydymdeimlo pan ddywedais beth oedd yn mynd ymlaen, a dywedodd 'Dwi'n gwybod mai nid ti yw hyn; ti'n weithiwr caled, ond mae'n rhaid i mi ddilyn beth sydd yn y canllawiau a phan rwyt wedi cymryd gormod o amser bant oherwydd salwch, mae'n rhaid i mi fynd a ti drwy gamau disgyblu'.

"Fe wnaeth hynny i mi fynd i mewn i fy nghragen, a dwi ddim wedi gweithio'n llawn amser ers hynny."

Yn ôl The Menopause Charity, mae 10% o fenywod yn rhoi'r gorau i weithio oherwydd y menopos; ac mae 60% yn dioddef gydag 'ymennydd niwlog' (brain fog).

Mae Mo yn bendant y byddai deddf newydd ac ymwybyddiaeth newydd o'r menopos yn helpu menywod i aros yn eu gwaith.

"Byddwn wrth fy modd bod mewn gwaith llawn amser ac rwyf yn brwydro i wneud hynny, ond mae fy llygaid ar fy nhair merch hefyd.

"Dwi ddim am eu gweld nhw, ymhen 20 mlynedd, yn canfod eu hunain yn yr un sefyllfa ac yr wyf i ynddi heddiw, felly byddaf yn dal i wthio am newid."

Jasmin Garland , 71

Aeth Jasmin drwy menopos lawfeddygol (hysterectomi) pan oedd hi'n 50, a'r diwrnod wedyn "wham bam, syth i mewn i'r menopos".

Nid oedd yn gallu derbyn triniaeth HRT yn syth oherwydd ofnau y byddai'n gwneud ei chyflwr endemetriosis yn waeth, ond bu raid iddi ddechrau arno ymhen chwe mis p'run bynnag am ei bod "mewn cyflwr ofnadwy".

Daliodd Jasmin ati weithio gan ei bod yn rheoli'r busnes teuluol, ond mae'n teimlo bod angen gwella cefnogaeth feddygol i fenywod.

"Cyfnod yn eich bywyd yw e, ond gallwch wneud ymchwil ac mae 'na driniaethau," meddai.

"Dwi ond yn gobeithio y bydd meddygon teulu yn cymryd y pethau hyn ymlaen ac yn cefnogi'r menywod hyn.

"Mae peth help i gael ond mae ffordd bell i fynd.

"Pan mae menywod efo problem maen nhw angen cael eu cymryd o ddifrif, a ddim cael eu pŵ-pŵio efo'r hen ddywediad mai 'problemau merched' ydyn nhw a rhywbeth y dylen ni roi i fyny gydag e."

Y mwyafrif yn dioddef

Mae ffigyrau'n awgrymu bod 90% o ferched yn dioddef symptomau corfforol a meddyliol o'r menopos.

Yn ôl Dr Anne Connolly, arweinydd clinigol ar gyfer iechyd menywod i Goleg Brenhinol y Meddyg Teulu (RCGP), mae'r menopos yn cael ei gynnwys yn eu cwricwlwm ac mae "pob meddyg teulu dan hyfforddiant angen arddangos meistrolaeth ohono er mwyn mynd ymlaen i fod yn feddyg teulu yn y DU."

Ond mae'r RCGP yn cydnabod bod gan ysgolion meddygol unigol eu cwricwlwm eu hunain "a fyddai, yn ddelfrydol, yn cynnwys dealltwriaeth o'r menopos".

Mae'r ddeddf newydd hefyd yn argymell sefydlu hybiau menopos (menopause hubs), lle gall menywod fynd os oes symptomau ganddynt, neu os ydynt yn amau hynny.

Mae'r RCGP yn Lloegr yn cydnabod eu potensial, ac wedi cynnig cyngor ynglŷn a'u sefydlu yno.

Dywed RCGPs Cymru y byddai ganddynt "ddiddordeb mewn dysgu rhagor am yr hybiau arfaethedig, a phe bai Llywodraeth Cymru'n dymuno dilyn y trywydd hwnnw, byddem yn croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y drafodaeth ynglŷn a nhw".

Beth ddywed y llywodraeth?

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn ymchwilio gydag eraill i ddatblygu cynllun gofal menopos i'w ddefnyddio gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru.

"Er ein bod yn cydnabod y gall profiadau pob menyw o'r menopos fod yn wahanol, mae'n rhaid inni sicrhau bod yr un safonau uchel yn cael eu dilyn ym mhle bynnag y bydd menyw yn ceisio cael mynediad i'r GIG.

"Cafodd Grŵp Gweithredu Iechyd Menywod (WHIG) ei sefydlu er mwyn gwella canlyniadau i fenywod gyda phroblemau iechyd y pelfis, ac rydym yn awyddus i ddatblygu'r grŵp i ystyried materion ehangach, yn cynnwys y menopos."