Gêm gyfartal i Wrecsam wrth i sêr Hollywood fynychu

  • Cyhoeddwyd
Ryan Reynolds a Rob McElhenneyFfynhonnell y llun, Gemma Thomas/CPDWrexham
Disgrifiad o’r llun,

Sêr Hollywood yn cael gweld Wrecsam yn fyw am y tro cyntaf

Mae sêr Hollywood a pherchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam, Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi mynychu eu gêm gyntaf ar y Cae Ras.

Wrth annerch y dorf a stadiwm lawn o tua 10,000 ddydd Sadwrn, dywedodd McElhenney yn Gymraeg: "Croeso i Wrecsam, Croeso i'r Cae Ras".

Mae'r ddau actor wedi treulio'r wythnos yn y dref yn cwrdd â chefnogwyr ac aelodau'r gymuned gan ddweud mai eu gobaith hir dymor ydy "sicrhau dyrchafiad y clwb i Uwch Gynghrair Lloegr".

Er ni enillodd Wrecsam y gêm yn erbyn Torquay United ddydd Sadwrn, roedd y sgôr gyfartal o 1-1 yn welliant ar ganlyniad gêm ddydd Mawrth yn erbyn Maidenhead lle collodd Wrecsam 2-3.

Dyma'r tro cyntaf y mae'r ddau wedi llwyddo i wylio eu clwb yn herio ar dir cartref ers iddyn nhw brynu'r clwb ym mis Chwefror eleni a hynny oherwydd cyfyngiadau'r pandemig.

Roedd gêm ddydd Sadwrn yn erbyn Torquay United yn "hollbwysig" medd cefnogwyr yn dilyn methiant y clwb i wneud unrhyw gynnydd nodedig dan y perchnogion newydd.

Cyn gêm ddydd Mawrth fe wnaeth y ddau agor rhan newydd o'r stadiwm sydd â chyfleusterau arbennig i bobl gydag anableddau ac fe dreuliodd y ddau gyfnod yn tynnu lluniau ac yn siarad gyda chefnogwyr.

Fe aeth y ddau ymlaen i ymddangos ar y cae er mwyn annerch cefnogwyr.

Ffynhonnell y llun, James Williamson - AMA

Dywedodd Ryan Reynolds fod o a McElhenny wedi treulio nos Wener yn "cerdded o gwmpas y stadiwm wag" gan ei ddisgrifio fel un o brofiadau fwyaf "ysgytwol" iddo erioed ei weld.

"Dwi'n meddwl fy mod i'n siarad ar ran y ddau ohonom wrth ddweud fod y traddodiad, y gwaddol, yr hanes, cymuned y clwb yma yn rhywbeth 'da ni'n dal yn agos at ein calonnau".

"Rydyn jest am ddweud diolch i'r gymuned am agor eich breichiau i ni dros y dyddiau diwethaf".

"Mae'n golygu'r byd i ni, 'da ni mor ddiolchgar felly diolch".

Disgrifiad,

Perchennog Wrecsam, Rob McElhenney yn ymarfer ei Gymraeg ddydd Mawrth

Ategodd cyd-berchennog y clwb, Rob McElhenney yn Gymraeg "Croeso i Wrecsam, Croeso i'r Cae Ras, Diolch yn fawr!", i orffen.

Wrth ymateb fe ddechreuodd y dorf weiddi nol "'da ni'n anelu am ddyrchafiad!"

Un o'r cefnogwyr sydd wedi bod yn dilyn y tîm ers blynyddoedd maith ydi Eifion Pugh o Benrhyndeudraeth.

"Cefnogwyr sydd wedi cadw'r clwb 'ma i fynd ers blynyddoedd ond dydi'r pres ddim gyno ni i fynd â ni i gael dyrchafiad a heb y pres yma 'sa ni fel yna am flynyddoedd- oedd angen pobl efo pres!"

Yn ôl y cefnogwr Chris Evans, "yn fyddarol, mae 'na groeso mawr i Ryan a Rob a gobeithio gawn ni'r tri phwynt!"

"Y nod ydi cael dyrchafiad a 'da ni heb gael y dechrau gorau ond gobeithio gawn ni rediad i ennill gemau yn rheolaidd."