Codi pryderon gyda gweinidog ar ôl aros 13 awr wedi strôc
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i ddyn 85 oed aros 13 awr am ambiwlans ar ôl cael strôc yn ei gartref.
Roedd yn rhaid i David Evans o Aberpennar, Rhondda Cynon Taf aros tan y bore canlynol i'r ambiwlans gyrraedd i'w gludo i'r ysbyty am driniaeth.
Mae'r Gymdeithas Strôc yn dweud eu bod nhw'n "bryderus iawn" am oedi ambiwlansys ar gyfer pobl sy'n cael strôc, ac maent wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd am y broblem.
Disgrifiodd mab Mr Evans, Chris Evans, y digwyddiad fel "noson hiraf ei fywyd", gan ddweud ei fod wedi teimlo'n "anobeithiol" ar y pryd.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod nhw'n "ymddiheuro'n ddiffuant i Mr Evans am oedi annerbyniol am gymorth".
Ar 25 Hydref fe dderbyniodd Chris Evans alwad ffôn gan gymdogion ei dad yn dweud ei fod wedi llewygu yn ei gartref, a'u bod nhw wedi ffonio ambiwlans.
"Ro'n i lawr yna erbyn 19:00 ac roedd y cymdogion wedi ffonio'r ambiwlans yn barod, a ffoniais i eto am 19:15. Ar y pryd roedd e'n glir i fi ei fod wedi cael strôc," meddai.
"Aethom ni trwy'r cwestiynau strôc. A dywedon nhw fod yr alwad yn cael ei flaenoriaethu ac y byddai ambiwlans gyda ni cyn gynted â phosib."
Mae Mr Evans yn credu y cafodd ei dad strôc ar lawr gwaelod y tŷ cyn llusgo ei hun i fyny'r grisiau i geisio ffonio am help.
"Roedd ganddo fe losgiadau carped ar ei bengliniau a'i benelinau.
"Galwodd fy chwaer 999 eto. Dywedon nhw wrthi y byddai'r ambiwlans yn cymryd pump i wyth awr.
"O gwmpas 23:00 galwodd clinigwr i gadarnhau bod beth roeddwn ni'n gweld yn debygol o fod yn strôc ac yna am 04:00, naw awr ar ôl galw'r ambiwlans, ffoniais i eto.
"Roedd e'n 07:40 pan gyrhaeddodd y parafeddyg yn y diwedd a doedd e methu credu ein bod ni wedi aros 13 awr."
Mewn datganiad dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Hoffwn ymddiheuro'n ddiffuant i Mr Evans am oedi annerbyniol am gymorth.
"Nid dyma'r gwasanaeth rydyn ni'n bwriadu ei ddarparu fel gwasanaeth ambiwlans brys, ac rydyn ni'n cydnabod pa mor ofidus y mae i gleifion pan mae'n rhaid iddyn nhw aros am amser hir iawn. Nid yw'r dderbyniol i unrhyw un.
"Rydyn ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid yn y byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru i geisio datrys pwysau ar draws yr holl system frys ac argyfwng."
'Teimlad anobeithiol'
Ychwanegodd Mr Evans bod y profiad wedi bod yn "drawmatig", a'i fod yn poeni a fydd ei dad yn gwella'n llawn.
"I fod yn onest roedd e'n noson hiraf fy mywyd. Doeddwn i erioed wedi teimlo mor anobeithiol yn fy mywyd."
Mae Mr Evans wedi canmol y gofal a gafodd ei dad unwaith iddo gyrraedd Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.
"Roedd y gofal yn yr ysbyty yn ffantastig. Ond roedd chwe ambiwlans tu allan yr ysbyty ac roedden nhw dal yna pan adawais i dwy awr yn ddiweddarach."
Gwasanaeth dan bwysau
Fe wnaeth adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru astudio oedi i gleifion rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021.
Yn ystod y cyfnod, roedd yn rhaid i griwiau aros mwy nag awr i fynd a chleifion mewn i'r ysbyty 32,699 o weithiau.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, fe gofnododd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu perfformiad gwaethaf erioed am amseroedd ymateb i'r galwadau mwyaf difrifol ers i dargedau newydd gael eu cyflwyno yn 2015.
Dim ond yn 52.3% o'r achosion ble'r oedd bywyd person mewn perygl y gwnaeth ambiwlans gyrraedd o fewn wyth munud. Nid yw'r targed o 65% wedi ei gyrraedd am dros flwyddyn.
'Poeni'n fawr'
Mae'r Gymdeithas Strôc yn dweud eu bod nhw'n poeni'n fawr am yr oedi, ac y dylai strôc wastad gael ei asesu fel argyfwng meddygol.
Dywedodd cyfarwyddwr Cymdeithas Strôc Cymru, Katie Chappelle: "Rydyn ni'n poeni'n fawr am effaith y pwysau yma ar bobl sy'n profi strôc.
"Rydyn ni wedi cwrdd â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac wedi cynnig unrhyw gefnogaeth rydyn ni'n gallu.
"Ac rydyn ni wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd i geisio mynd i'r afael â'r pwysau sy'n digwydd ar hyn o bryd.
"Ni'n gwybod bod e ddim lawr i unigolion sy'n gweithio o fewn y gwasanaeth ambiwlans a'r gwasanaeth iechyd.
"Ni'n ymwybodol bod pwysau ar y system gyfan ac mae angen i hynny gael ei newid cyn gynted â phosib fel bod cleifion strôc ddim yn cael eu niweidio'n bellach."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fel holl wasanaethau'r GIG ar draws y DU, yn gweithio'n galed i ymateb i heriau sy'n parhau ac sy'n arwyddocaol o ganlyniad i'r pandemig.
"Mae yna gynllun ddarpariaeth weithredol mewn lle i helpu ymdopi gyda'r galw am alwadau 999 yn y gymuned, i gynyddu capasiti, gwella ymateb a gwella trosglwyddiad gwybodaeth am gleifion o ambiwlansys.
"Fe lansion ni raglen newydd cenedlaethol i wella llif cleifion trwy'r system ysbytai a'u dychwelyd adref pan maen nhw'n barod i wneud hynny, ynghyd â £25m mewn nawdd rheolaidd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2021