Cynhadledd ar brinder tai Ceredigion ar ôl i'r broblem 'gyflymu'
- Cyhoeddwyd
Mae'r argyfwng tai wedi "cyflymu" yng Ngheredigion, rhybuddiodd un o drefnwyr cynhadledd ar brinder tai gwledig.
Mae tai gwyliau i'w gweld ar hyd strydoedd cefn gwlad Ceredigion ac yn gwaethygu'r prinder cartrefi, yn ôl Keith Henson.
Siaradodd Mr Henson gyda Dros Frecwast cyn i gynhadledd ar yr argyfwng tai gwledig gael ei chynnal ddydd Gwener.
Rhybuddiodd fod yr argyfwng yn gyrru pobl o'u cartrefi.
'Nid just tŷ, ond cartref'
Bydd y gynhadledd yn Llanbedr Pont Steffan yn cael ei chyd-gadeirio gan yr Aelod o'r Senedd dros Geredigion Elin Jones, a Phrif Weithredwr Grŵp Barcud Steve Jones.
Bydd llety gwyliau fel Airbnb ymysg y pwyntiau trafod yn y gynhadledd, yn ogystal â phrisiau tai, ail gartrefi, tai haf, a digartrefedd gwledig.
Yn ei waith fel hwylusydd tai gwledig, mae Mr Henson yn un o wyth swyddog trwy Gymru sy'n ceisio adnabod yr angen am dai fforddiadwy, a sut mae lleihau'r broblem mewn ardaloedd gwledig.
Rhybuddiodd Mr Henson am effaith y prinder ar bobl ifanc na fydd yn medru prynu tŷ am y tro cyntaf yn eu cymuned leol.
"Nid just tŷ, ond cartref - mae 'na wahaniaeth."
Mae'r broblem wedi "cyflymu" ers y cyfnod clo, meddai Mr Henson, wrth i fwy o bobl symud i'r wlad i weithio o adref.
Mae hyn, yn ei dro, yn gyrru prisiau tai i fyny, meddai.
Mae 'na fwy o bobl wedi troi eu tŷ neu ail dŷ yng Ngheredigion yn llety gwyliau drwy wefannau fel Airbnb yn ystod y pandemig, meddai Mr Henson.
"Rydyn ni wedi gweld yr her 'na yng Ngwynedd a Sir Benfro ers blynyddoedd," meddai, ond mae'r broblem bellach wedi ymestyn i Geredigion.
Dywedodd ei fod yn broblem nid yn unig ar yr arfordir, ond mewn ardaloedd mwy gwledig o fewn y sir.
"Chi'n gallu mynd ar y strydoedd cefn 'ma yn y pentrefi gwledig, a mae'r bocs bach 'na sy'n dala'r allweddi ar gyfer yr Airbnb yna.
"Mae hynna bron a bod fel sticer i ddangos 'na beth yw e."
Dywedodd Mr Henson ei fod wedi siarad â sawl teulu sydd wedi cael rhybudd i adael eu cartref am fod y perchennog yn mynd i'w werthu, neu ei droi yn Airbnb.
Beth sy'n digwydd yn y gynhadledd?
Mae'r gynhadledd wedi ei threfnu ar y cyd gan hwyluswyr tai gwledig a chymdeithas dai Barcud, sy'n darparu tai fforddiadwy yn y canolbarth, gyda'r bwriad o drafod datrysiad posib i'r argyfwng.
Fe fydd sawl cyflwyniad yn ystod y gynhadledd, gyda sesiynau holi ac ateb ar ôl pob un.
Fe fydd Dirprwy Gyfarwyddwr Cartrefi a Lleoedd Llywodraeth Cymru, Ian Williams, yn gwneud cyflwyniad ar dai mewn ardaloedd gwledig.
Bydd hefyd cyflwyniad gan yr Aelod Seneddol dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru a Chynghorydd Sir Gaerfyrddin, Cefin Campbell, ar adfywio trefi gwledig a datblygu gwledig.
Bydd Sioned Jones o Gymdeithas Adeiladu Abertawe yn trafod morgeisi mewn ardaloedd gwledig, Prif Weithredwr Tai Gwledig yr Alban Derek Logie yn gwneud cyflwyniad ar ddatblygu tai gwledig yn yr Alban, a'r athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth yn trafod daearyddiaeth dynol ac effaith mewnfudo.
Rhaid craffu ar bolisïau
Fis Hydref, cynghorwyr Sir Benfro oedd y diweddaraf i bleidleisio i gynyddu treth y cyngor ychwanegol ar ail gartrefi o 50% i 100%, sy'n golygu y bydd perchnogion ail gartrefi yn talu dwbl y bil arferol am dreth y cyngor o fis Ebrill.
Ond yn ôl Mari Tudur o Nefyn, dydy cynyddu treth y cyngor ar ail gartrefi ddim yn ddigon i ddod i'r afael a'r argyfwng tai.
"Mae angen edrych ar bolisïau a threfniadau o amgylch ail gartrefi," meddai Ms Tudur, i daclo'r broblem.
Mae Ms Tudur hefyd yn gweithio fel hwylusydd tai gwledig, a dywedodd hi fod perchnogion ail dai yn cofrestru'r tai ychwanegol un ai fel eu prif gartref neu fel busnes er mwyn osgoi talu treth y cyngor ychwanegol.
"Does neb yn checio," meddai Ms Tudur. "Mae'n rhaid i bobl ddeall pwysigrwydd y loophole hyn."
Dywedodd Ms Tudur bod sawl tŷ ar ei stryd hi yn Nefyn yn ail gartrefi, ac mae pobl yn gorfod symud o'r ardal wrth i brisiau gynyddu.
"Mae pob un o'r rhain yn dŷ fyddai wedi bod yn gartref i deulu," meddai hi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd25 Medi 2021