Dynes yn pledio'n euog i ladd trwy yrru'n beryglus

  • Cyhoeddwyd
Ethan RossFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ethan Ross wedi'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar 12 Medi 2020

Mae dynes ifanc o Sir Y Fflint wedi pledio'n euog i gyhuddiad o achosi marwolaeth bachgen 17 oed trwy yrru'n beryglus.

Bu farw Ethan Ross, oedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Dinbych, fis Medi'r llynedd, ddeuddydd wedi i gar Chantelle Gleave daro ei foped ar yr A55 ger Llanelwy.

Cafodd Gleave, sydd yn 22 oed ac o Shotton, ei chadw yn y ddalfa ar ôl cyfaddef iddi achosi'r farwolaeth mewn gwrandawiad yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug.

Rhybuddiodd y Barnwr Rhys Rowlands bod cyfnod o garchar yn "anochel" pan fydd yn cael ei dedfrydu ar 9 Rhagfyr.

Pynciau cysylltiedig