Pobl dros 40 i gael cynnig brechlyn atgyfnerthu

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Woman being vaccinatedFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod yn derbyn cyngor arbenigwyr ar roi brechlyn atgyfnerthu Covid-19 i bobl dros 40, ac ail ddos o'r brechlyn i bobl 16 ac 17 oed.

Dylai pobl dros 40 oed gael cynnig trydydd dos o frechlyn Covid, medd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), sef y corff o arbenigwyr sy'n cynghori Llywodraeth y DU ar frechu.

Fe fyddai'r brechlyn ychwanegol, medd arbenigwyr, yn sicrhau amddiffyniad pellach i bobl rhag yr haint ac yn cyfyngu ar ledaeniad Covid yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae data newydd gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn dweud bod tri dos yn gostwng y risg o gael yr haint o fwy na 93%.

Dywed y JCVI hefyd y dylai pobl 16 a 17 oed, sydd hyd yma ond wedi cael un dos, gael ail ddos.

Mae cyfanswm o 626,012 o bobl yng Nghymru wedi derbyn brechlyn atgyfnerthu, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Yn eu plith mae pobl dros 50, staff meddygol rheng flaen a phobl sydd â chyflyrau iechyd penodol.

Y disgwyl yw y bydd pobl 40-49 oed naill ai'n cael brechlyn Pfizer neu hanner dos o frechlyn Moderna - dylai'r brechlyn gael ei gynnig chwe mis wedi'r ail ddos.

Dywedodd yr Athro Wei Shen Lim o'r JCVI ei "bod yn bosib y bydd oedolion o dan 40 yn cael cynnig y brechlyn atgyfnerthu maes o law" ond nad oedd penderfyniad hyd yma.

Dywed yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) bod y brechlynnau atgyfnerthu yn ddiogel - a bod y sgil effaith yn naill ai braich dost neu symptomau tebyg i ffliw.

Yn wreiddiol roedd pobl 16 ac 17 oed ond wedi cael cynnig un dos oherwydd bod pryderon y gallent ddatblygu myocarditis - haint sy'n effeithio ar y galon.

Ond bellach dywed arbenigwyr nad ydynt yn credu y byddai ail ddos yn cynyddu'r risg.

Fore Llun dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, ei bod yn derbyn ac yn diolch i'r JCVI am y dystiolaeth glinigol a gwyddonol ddiweddaraf.

Fe fyddwn yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i weithredu'r argymhellion, meddai.

Dywedodd hefyd y bydd hi'n cyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Cymru ddydd Mawrth.