'Ffordd bell i fynd' cyn i bawb gael trydydd brechiad
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi cydnabod bod "ffordd bell iawn i fynd" cyn bod pawb sy'n gymwys wedi gallu cael y brechiad ychwanegol yn erbyn Covid-19.
O'r 1.8 miliwn o bobl fydd yn cael eu gwahodd, tua chwarter y rheiny sydd wedi cael y pigiad hyd yma.
Mae 'na bryder am oedi mewn sawl ardal, a rhai canolfannau yn anodd eu cyrraedd.
Targed Llywodraeth Cymru ydy brechu'r rhan fwyaf o'r grwpiau mwyaf bregus cyn diwedd y flwyddyn.
'Dim sôn'
Mae un wraig o Gaernarfon sydd yn ei 90au wedi clywed y bydd yn rhaid iddi ddisgwyl wythnosau eto cyn derbyn y brechlyn.
"Does 'na ddim sôn [am y brechiad]," meddai Eurfron Jones, 93, sydd yn gaeth i'w chartref. "Maen nhw wedi d'eud fydda i'n disgwyl tua phum wythnos.
"Ges i'r ddwy arall gan y nyrs ddoth yma heddiw i roi fy ffliw jab i fi felly dydw i ddim yn gw'bod pam dydi hi ddim yn gallu rhoi un y feirws i fi hefyd de.
"Maen nhw'n 'neud gwaith da, alla i ddim d'eud dim byd sâl amdanyn nhw, ond mae'n rhaid fi ddisgwyl maen siŵr yn bydd."
Y bwriad yn wreiddiol oedd blaenoriaethu gweithwyr iechyd a gofal, pobl â chyflyrau iechyd difrifol, a phawb dros 50 oed.
Yn ôl ffigyrau swyddogol, mae 45.5% o bobl rhwng 70 a 74 oed wedi cael y brechiad ychwanegol.
Mae'r ffigyrau yn 57.5% i bobl rhwng 75 a 79, a dros 61% i bobl dros 80.
Mae dros 70% o breswylwyr cartrefi gofal wedi derbyn y 'booster'.
Mae'r drefn gyda'r trydydd dos yn wahanol i'r brechiad cyntaf a'r ail, gan nad ydy pob man yn medru ei storio.
Gan fwyaf maen nhw'n cael eu rhoi i bobl mewn canolfannau neu safleoedd pwrpasol - ond tydi pawb ddim yn medru eu cyrraedd, a dyna sy'n achosi pryder.
'Mwy o sialens'
Yn ôl y meddyg teulu o Ben Llŷn, Dr Eilir Hughes: "Efo'r Pfizer 'dan ni'n gorfod sicrhau bod pobl yn aros am 15 munud ar ôl cal y frech, ac wrth gwrs dydi'r stadau sydd gynnon ni yn y meddygfeydd ddim yn galluogi i hynny ddigwydd yn hawdd iawn.
"Mae hynny'n fwy o sialens ond dwi'n meddwl y dylia ni droi at bob un adnodd sydd ganddo ni i sicrhau bod y booster yn dod yn gynt i'n cymunedau ni."
Cafodd y pryderon eu codi yn y Senedd brynhawn Mercher.
Dywedodd Eluned Morgan: "Dwi'n falch i ddweud bod ein cyfraddau brechu atgyfnerthu ni ymhlith yr uchaf yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.
"Ond ma' ffordd bell iawn ganddo ni i fynd eto wrth gwrs."
Aeth Ms Morgan ymlaen i ddweud y dylai byrddau iechyd ei gwneud hi'n haws i bobl gyrraedd y canolfannau.
"Dwi'n gwybod yn ardal Hywel Dda, er enghraifft, bod 'na gyfle i bobl ffonio i gael trafnidiaeth i fynd i'r canolfannau [brechu] felly dwi'n meddwl bod gwerth edrych i weld os ydy'r gwasanaeth yna ar gael yn [ardal] Betsi Cadwaladr."
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn mynnu y dylai'r rheiny sydd i fod i gael y brechiad ychwanegol gyntaf ei gael chwe mis ar ôl eu hail ddos.
Ond dal i ddisgwyl gwahoddiad mae nifer.
Mae Mairwen Bayliss o Lanberis yn 72 oed. Cafodd dynnu clot o'i hymennydd ddechrau'r flwyddyn, a tydi hi dal heb gael gwahoddiad i gael y trydydd dos.
"Dydw i heb gael gwybod dim byd erbyn hyn, mae 'na rai yn ffonio fewn ond fel dwi'n ddallt dydan ni ddim fod i 'neud hynny.
"Dwi'n meddwl bod [mwy o ddryswch] rŵan. Dwi'n gweld bod 'na bobl lot 'fengach na fi wedi'i gael o'n barod. Ond [yr unig beth alla i wneud ydy] disgwyl am lythyr drwy'r post.
"'Sgen i ddim pryder yn y byd i chymryd hi, mae'n bwysig i bawb gymryd hi."
'Dim dyddiad pendant'
Mae Phil Hughes o Bontnewydd ger Caernarfon yn gofalu am ei fam oedrannus, sy'n gaeth i'w chartref.
"Mae Mam yn 91 mlwydd oed, ac wedi cael ei hail frechiad ddiwedd Mawrth," meddai.
Mae hyd at wyth o ofalwyr yn ymweld â hi bob dydd, meddai, ond dydy'r ganolfan iechyd lleol ddim yn dod allan i weinyddu'r 'booster' fel y digwyddodd gyda'r ail.
"Ar ben bob dim, does 'na ddim manylion am y brechiad ffliw blynyddol iddi chwaith," meddai Phil.
"Dim dyddiad pendant pryd fydd rhywun yn dod draw yma, ond mae'n debyg o gymryd 4-6 wythnos.
"Yn naturiol, rydw i'n bryderus iawn gan ystyried oedran fy mam ac yr holl ofalwyr sydd yn ôl a 'mlaen yma."
Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod cyrraedd y rhai sy'n gaeth i'w cartrefi yn cymryd mwy o amser oherwydd yr holl adnoddau sydd eu hangen i gario'r brechlyn Pfizer.
Dydy'r pryder am yr oedi ddim yn unigryw i'r gogledd, gydag oedi mewn ardaloedd eraill hefyd.
Dywedodd Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth, fod dros 104,000 o bigiadau atgyfnerthu wedi'u rhoi ers canol Medi.
"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnig yr atgyfnerthu i 90% o'r rhai sy'n gymwys erbyn canol mis Rhagfyr," meddai.
"Rydyn ni'n gofyn i bobl fod yn amyneddgar gan y byddan nhw'n cael eu gwahodd yn awtomatig trwy lythyr pan fydd hi'n eu tro nhw. Nid oes angen cysylltu â'r bwrdd iechyd na'u meddygfa.
"Oherwydd yr adnoddau dan sylw, bydd yn cymryd mwy o amser inni gael pigiadau atgyfnerthu i freichiau cleifion sy'n gaeth i'r tŷ na'r rhai sy'n gallu teithio i ganolfan frechu Covid-19."
'Gweithio mor fuan â phosib'
Gall staff canolfan frechu roi pigiad atgyfnerthu i tua 100 o bobl y dydd, meddai, tra mai dim ond tua 10 o gleifion sy'n gaeth i'w cartrefi all gael eu brechu gan dîm o ddwy nyrs yn yr un cyfnod amser.
A gyda'r lefelau'r Covid yn parhau'n uchel ac awgrymiadau y bydd y ffliw cyffredin yn drwm eleni, mae yna anogaeth i bawb sy'n cael gwahoddiad i gael y trydydd dos a'r pigiad ffliw i gymryd y cyfle cyn gynted â phosib.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr ymgyrch o roi brechiadau atgyfnerthu wedi cychwyn mor fuan â phosib ar ôl y cyngor meddygol i wneud hynny yng nghanol mis Medi.
"Rydym yn gweithio drwy'r grwpiau blaenoriaethu mor gyflym ac mor ddiogel ag sy'n bosib," meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd16 Medi 2021
- Cyhoeddwyd14 Medi 2021