Dyn yn gwadu llofruddio ei chwaer fach mewn parc gwyliau

  • Cyhoeddwyd
Amanda SelbyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Amanda Selby o ardal Manceinion yn dilyn digwyddiad ym mharc gwyliau Tŷ Mawr yn Nhywyn

Mae dyn 19 oed wedi pledio'n ddieuog i lofruddiaeth ei chwaer mewn parc gwyliau ger Abergele.

Bu farw Amanda Selby, 15, yn dilyn digwyddiad ym mharc gwyliau Tŷ Mawr yn Nhywyn ar 31 Gorffennaf.

Fe wnaeth Matthew Selby ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug trwy gyswllt fideo o Garchar Berwyn ddydd Gwener, ble wadodd y cyhuddiad o'i llofruddio.

Mewn gwrandawiad a barodd 10 munud cadarnhaodd Mr Selby, o Ashton-under-Lyne, Manceinion, ei enw a'i ble.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r achos yn erbyn Matthew Selby ddechrau ym mis Chwefror

Fe wnaeth y Barnwr Rhys Rowlands ohirio'r achos, ac mae 28 Chwefror wedi'i bennu fel dyddiad ar gyfer yr achos, fydd yn para hyd at saith diwrnod.

Yn dilyn ei marwolaeth dywedodd teulu Amanda ei bod yn "ferch ac wyres gariadus" oedd yn "ofalgar, yn feddylgar, yn hoff o helpu eraill ac yn cael ei charu'n fawr".

Pynciau cysylltiedig