Plant a oroesodd Aberfan wedi cael profion 'arteithiol'

  • Cyhoeddwyd
Local men and the emergency services hastily dig through the mud for survivors at The Pantglas Junior SchoolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pobl leol a'r gwasanaethau brys yn palu'r rwbel i geisio canfod pobl yn fyw wedi'r trychineb yn 1966

Dywed rhai o'r plant a oroesodd trychineb Aberfan eu bod wedi gorfod cael profion meddygol anodd wedi'r digwyddiad - yn ôl un plentyn roedd y profiad yn "arteithiol".

Bu farw 116 plentyn a 28 oedolyn wedi i domen lo anferth lithro lawr ochr mynydd Merthyr yn 1966 gan ddinistrio Ysgol Gynradd Pantglas.

Dywed rhai o'r unigolion a oroesodd eu bod wedi gorfod wynebu artaith bellach wrth i'r awdurdodau benderfynu faint o iawndal a ddylai teuluoedd ei dderbyn.

Cafodd Gaynor Madgwick ei hachub o'r gweddillion ar 21 Hydref 1966 - oriau'n ddiweddarach cafodd wybod bod ei brawd Carl, saith oed, a'i chwaer Marylyn, 10, wedi cael eu lladd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Gaynor yn gwella yn yr ysbyty wedi'r trychineb

Wrth siarad ar bodlediad newydd ar gyfer BBC Cymru, dywedodd ei bod wedi cael nifer o nosweithiau di-gwsg wedi'r trychineb wrth iddi gael hunllefau a theimladau o euogrwydd bod hi wedi goroesi.

"Fyddwn i wedi rhoi rhywbeth ar y pryd petawn i wedi cael marw a bod fy mrawd a'n chwaer wedi cael byw," meddai.

'Roedd e'n artaith'

Mae'n disgrifio hefyd y profiad o orfod mynd i ysbyty seiciatryddol am brofion.

Dywed Ms Madgwick y bydd hi'n cofio am byth y diwrnod y bu'n rhaid iddi fynd i'r ysbyty seiciatryddol - roedd hi wedi cael gwybod ei bod yn cael mynd am drip siopa.

"Roedd yn rhaid i rywun ddod allan o'r ysbyty i leddfu fy ofnau ac i fy llusgo i'r ysbyty.

"Ro'n i'n cicio ac yn sgrechian ac yn cydio yn nolen y car."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Gaynor Madgwick nad yw'n gwybod sut lwyddodd ei rhieni i ymdopi

Unwaith iddi gyrraedd yr ysbyty cafodd gel ei roi yn ei gwallt a chap ar ei phen.

"Yna ro'n yn cael fy mhlygio i fwrdd ar gefn y gwely - rhyw fath o fwrdd pren," meddai.

"Roedd yna blygiau a gwifrau yn dod allan o'r bwrdd a fyddai'n ffitio i'r cap ar eich pen ac yna roedd yn rhaid i fi aros yno a chael fy holi'n dwll.

"Roedd yn rhaid i chi syllu ar wahanol oleuadau a dilyn y pelydryn o olau a oedd yn mynd o gwmpas yr ystafell.

"Roedd e'n holi arteithiol. Roeddech wedi colli pob ymwybyddiaeth o bwy oeddech chi."

'Roedd e'n frawychus'

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jeff Edwards oedd y plentyn olaf i gael ei dynnu o'r rwbel

Jeff Edwards oedd y plentyn olaf i gael ei dynnu o'r rwbel yn fyw a dywed ei fod wedi gorfod mynd i'r ysbyty bob tri neu bedwar mis wedi hynny.

"Roedd cael y dyfeisiau 'ma ar eich pen gydag electrodau a goleuadau yn fflachio ymhobman yn brofiad brawychus," meddai.

"Ro'n i'n casáu mynd i'r ysbyty. Nid ysbyty plant oedd e yn wir ond sefydliad i bobl oedd ag afiechyd meddwl go ddifrifol."

Ofn gorfod aros

Roedd Gerald Kirwan yn wyth oed pan fu farw nifer o'i gyd-ddisgyblion.

Dywed ei fod yn cofio cael ei glymu i beiriannau a phobl yn gofyn iddo a oedd ganddo ofn y tywyllwch ac a oedd yn cael hunllefau.

Ffynhonnell y llun, Patrick Olner
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gerald Kirwan yn wyth oed pan syrthiodd y domen lo ar Ysgol Pantglas

"Rwy'n cofio meddwl bod yn rhaid i fi ddweud y peth iawn neu efallai y byddai'n rhaid i mi aros yma," meddai.

"Roedd e'n brofiad ofnadwy."

Wedi cyfnod hir o deimlo dryswch dros orfod cael y fath brofion daethant i wybod maes o law pam eu bod yn cael eu llusgo i'r ysbyty.

"Unig fwriad y profion oedd canfod a oeddech yn eich iawn bwyll - hynny yw penderfynu a ddylech gael iawndal. Dyna'r cyfan oedd eu diben," meddai Ms Madgwick.

"Nid ein helpu ni oedd y bwriad ond yn hytrach canfod a oeddem yn orffwyll ai peidio."

Roedd Cronfa Trychineb Aberfan am dalu iawndal i'r plant a oedd yn dioddef yn seicolegol wedi'r trychineb.

Roedd ymddiriedolwyr y gronfa yn credu y gallai y Comisiwn Elusennau ofyn am dystiolaeth - felly fe wnaeth cyfreithwyr ar ran Cymdeithas Rieni a Phreswylwyr Aberfan ofyn am ymweliadau ysbyty.

Hefyd roedd Cronfa Trychineb Aberfan am roi £5,000 i deuluoedd oedd wedi colli aelodau - roedd y Comisiwn Elusennau yn credu mai £500 a ddylid ei roi.

Fe wnaeth y comisiwn ildio ond roeddent am asesu pob achos yn unigol cyn rhoi taliad gan ofyn "a oedd y rhieni yn agos i'w plant ac a oeddent o ganlyniad yn dioddef yn feddyliol".

'Rhoi pris ar y plant'

Mae Denise Morgan, a gollodd ei chwaer ieuengaf Annette, yn cofio ei thad yn dychwelyd o gyfarfod lle bu trafodaeth ar berthynas plant â'u rhieni.

Dywedodd bod y cyfarfod angen gwybod pa mor agos oedd y rheini at eu plant cyn penderfynu faint o arian a ddylent ei dderbyn.

"Roedd fy nhad yn meddwl bod y cyfan yn arswydus," meddai.

"Dywedodd nad oedd, hyd yn oed, yn mynd i ateb y cwestiwn oherwydd ar ddiwedd y dydd... eich plant chi ydyn nhw, nhw yw eich bywyd.

"Dyw hi ddim yn bosib i chi roi pris ar eich plentyn.

"Dywedodd na fyddai'n derbyn ceiniog petai e'n gwybod y byddai ei blentyn e yn cerdded drwy'r drws fory."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd Ymddiriedolwyr Cronfa Trychineb Aberfan wedi'u cynddeiriogi gan gyngor y Comisiwn Elusennau - felly fe wnaethant ei anwybyddu a rhoi taliadau iawndal uwch i bob teulu a oedd wedi colli rhywun.

30 mlynedd yn ddiweddarach, pan gafodd dogfennau nad oedd wedi cael eu gweld o'r blaen eu rhyddhau, dywedodd y Comisiwn Elusennau eu bod yn hynod o flin am yr hyn ddigwyddodd.

Ar y pryd dywedodd eu llefarydd Julia Unwin wrth y BBC: "Mae'n ymddangos bod ymddygiad gwael ac ansensitifrwydd mawr wedi digwydd, ac yn amlwg ry'n ni'n gresynu hynny.

"Y cyfan allai ddweud ar ran y Comisiwn Elusennau yw ein bod wedi dysgu o gamgymeriadau y gorffennol, ry'n ni wedi dysgu sut mae ymateb i drychinebau arswydus fel hyn a dydyn ni ddim yn gwneud camgymeriadau fel hyn bellach."

Mae modd gwrando ar Aberfan: Tip Number 7 ar BBC Sounds