'Asbestos yn parhau i chwalu bywydau bob blwyddyn'

  • Cyhoeddwyd
Jason WilliamsFfynhonnell y llun, Family photo
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jason Williams yn 2019 - misoedd ar ôl cael gwybod bod salwch arni sy'n cael ei achosi gan asbestos

Mae teulu dyn o Sir Gaerfyrddin a fu farw yn 45 oed yn sgil dod i gysylltiad ag asbestos yn y gweithle yn galw am wneud mwy i ddiogelu pobl rhag y sylwedd.

Daeth Jason Williams i gysylltiad ag asbestos yn ei ugeiniau cynnar yn ystod gwaith cynnal a chadw i'r adeilad ble roedd yn gweithio ar y pryd.

Bu farw ym mis Hydref 2019, fisoedd ar ôl cael diagnosis o'r cyflwr mesothelioma, ac mae ei deulu wedi cytuno i becyn iawndal chwe ffigwr.

"Roedden ni fel teulu yn ymwybodol o asbestos a'i beryglon ond fel llawer, roedden ni'n meddwl bod o'n broblem o'r gorffennol," meddai tad Jason, Roy Williams.

"Doedden ni methu credu y byddai Jason a'i gydweithwyr, ddegawdau wedi i'r gwaharddiad ar asbestos ddod i rym, yn cael eu rhoi mewn perygl o niwed."

Roedd y cyn-beiriannydd seilwaith yn dad i ddau o blant yn eu harddegau pan fu farw, 20 mlynedd wedi'r gwaharddiad ar werthu a defnyddio asbestos.

Fe weithiodd i'r cwmni technoleg gwybodaeth Cap Gemini ar safle Tata Steel ym Mhort Talbot am 10 mlynedd ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe.

Cafodd ei iechyd ei beryglu yn ei 20au cynnar yn ystod gwaith cynnal a chadw i'r adeilad gwasanaethau ariannol ble roedd yn gweithio.

Daeth i'r amlwg bod yna asbestos yn yr adeilad, ac fe osodwyd pabell o bolythen yn rhan ohono mewn ymgais i warchod unigolion rhagddo.

Ond ni chafodd y gorchuddion polythen eu gosod yn gywir gan olygu y bydden nhw'n agor ac felly roedd y bygythiad i iechyd gweithwyr yn parhau.

'Salwch ofnadwy'

Bu'n rhaid i Mr Williams stopio gweithio ar sail iechyd ym mis Ionawr 2019. Cafodd wybod deufis yn ddiweddarach mai'r hyn roedd yn dioddef ohono oedd tiwmor yn leinin yr abdomen sy'n helpu gwarchod cynnwys y bol.

Jason WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Collodd Jason Williams ei annibyniaeth yn llwyr oherwydd ei salwch, yn ôl ei dad

"Pan gafodd Jason ei weld yn y lle cyntaf yn yr ysbyty, roedden nhw'n meddwl mai Clefyd Crohn oedd yn achosi ei symptomau," meddai ei dad.

"Dangosodd ymchwiliadau pellach mai peritoneal mesothelioma oedd arno - salwch ofnadwy wnaeth achosi iddo golli ei annibyniaeth yn gyfan gwbl."

Cysylltodd Jason Williams â'r undeb Unite am gefnogaeth gyfreithiol ac fe lwyddodd arbenigwyr i sicrhau iawndal ar gyfer ei deulu wedi ei farwolaeth.

Problem ehangach drwy'r DU

Dywedodd cyfreithiwr y teulu, Amanda Jones: "Er bod asbestos wedi ei wahardd 22 o flynyddoedd yn ôl, mae'n parhau i chwalu bywydau miloedd o bobl bob blwyddyn.

"Roedd cyflogwyr Jason yn ymwybodol o risgiau asbestos ac eto fe wnaethon nhw fethu â'i ddiogelu e a'i gydweithwyr yn ddigonol rhag llwch asbestos. O ganlyniad, bu farw Jason yn drasig o ifanc yn 45 oed."

Ychwanegodd Ms Jones bod yna broblem ehangach ar draws y DU a bod angen i gyflogwyr a llywodraethau "ymdrechu o'r newydd" i nodi ym mha weithleoedd, ysgolion, ysbytai ac adeiladau cyhoeddus eraill mae yna asbestos a mynd ati i'w waredu'n ddiogel.

Rhybudd asbestosFfynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd ysgrifennydd rhanbarthol Unite Cymru, Peter Hughes: "Ni allaf ddechrau dychmygu'r trawma i deulu Jason wedi ei farwolaeth, yn enwedig ag yntau'n mor ifanc.

"Mae'r stori drasig yma'n ein hatgoffa er y gwaharddiad ar ddefnyddio asbestos yn 1999, mae ei effaith yn bell o fod yn rhywbeth sy'n perthyn i'r gorffennol."

line break

Beth yw asbestos?

Ar un cyfnod roedd y diwydiant adeiladu'n defnyddio mwynau asbestos yn helaeth am eu cryfder a'r gallu i wrthsefyll gwres, ond maen nhw bellach wedi'u gwahardd.

Mae asbestos wedi torri'n gallu rhyddhau ffeibrau. Petai rhywun yn anadlu dwysedd uchel o'r ffeibrau hyn dros gyfnodau hir, gall arwain at broblemau'r galon, trafferthion anadlu a chanser yr ysgyfaint, medd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gall lefelau isel dros gyfnod hir hefyd niweidio iechyd person. Mae yna reolau llym o ran trin a gwaredu asbestos a deunyddiau sy'n ei gynnwys.

Pynciau cysylltiedig