Galw am symud gwastraff asbestos o draeth Porth Tywyn

  • Cyhoeddwyd
Menyw'n torheulo ar draeth Porth TywynFfynhonnell y llun, Tristam Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr yn poeni am iechyd pobl sy'n torheulo ac ati mewn man ble daeth asbestos i'r fei

Mae ymgyrchwyr yn galw am symud gwastraff asbestos o draeth yn Sir Gâr.

Mae traeth dwyreiniol Porth Tywyn ger safle pwerdy a gafodd ei ddymchwel 20 mlynedd yn ôl.

Talodd ymgyrchwyr lleol am brofion a gadarnhaodd bod asbestos ar y traeth ac maen nhw'n ofni y gallai'r risg i'r cyhoedd gynyddu wrth i'r arfordir erydu.

Dywed Cyngor Sir Gâr bod eu profion hwythau wedi canfod asbestos "risg isel".

Trefnwyd y profion mewn ymateb i bryderon ynghylch deunydd a ddaeth i'r fei ar y traeth, ble mae plant yn chwarae a chodi cestyll tywod.

Mae grŵp ymgyrchu'n anghytuno gyda chasgliadau'r cyngor, gan ddweud bod canlyniadau'r profion wnaethon nhw eu trefnu'n "frawychus".

Cysylltodd Tristam Evans â labordy asbestos ym Mryste a thalu am brofion preifat.

"Fe wnaethon ni bum prawf 400 llath ar wahân ar hyd morlin traeth dwyreiniol Porth Tywyn," meddai. "Cafwyd un canlyniad asbestos gwyn a glas, mewn ardal agos i'r harbwr a pharc sglefrio'r plant.

"Oherwydd ble roedd e, archebais offer profi eto… cafwyd canlyniadau gwyn neu glas yn achos y pedwar prawf ble mae'r môr yn erydu banciau tywod.

Ychwanegodd bod "yr haenau asbestos erydlyd yn feddal ac yn fflochennu wrth i'r môr eu taro ar y creigiau."

Beth yw asbestos?

Ffynhonnell y llun, Mike Theodoulou
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i asbestos mewn darnau o garreg

Ar un cyfnod roedd y diwydiant adeiladu'n defnyddio mwynau asbestos yn helaeth am eu cryfder a'r gallu i wrthsefyll gwres, ond maen nhw bellach wedi'u gwahardd.

Mae asbestos wedi torri'n gallu rhyddhau ffeibrau. Petai rhywun yn anadlu dwysedd uchel o'r ffeibrau hyn dros gyfnodau hir, gall arwain at broblemau'r galon, trafferthion anadlu a chanser yr ysgyfaint, medd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gall lefelau isel dros gyfnod hir hefyd niweidio iechyd person. Mae yna reolau llym o ran trin a gwaredu asbestos a deunyddiau sy'n ei gynnwys.

Credir bod y darnau rhychog llwyd sydd wedi eu canfod ar y traeth yn falurion o Bwerdy Bae Caerfyrddin, oedd ar dir tu ôl i'r traeth ac a gafodd ei ddymchwel ar ddechrau'r 1990au.

Dywedodd Jacqueline Mills, aelod arall o'r grŵp ymgyrchu a dalodd am brofion asbestos, bod yna obeithion mawr ar y pryd "y byddai popeth yn wych" ond mae erydu arfordirol wedi datgelu sgil-effaith ofidus.

"Wrth ymffrwydro'r pwerdy a'i dynnu'n ddarnau, yn lle symud y rwbel a'r sbwriel a'r maint anferthol o asbestos oedd yn leinio'r holl simnai, mae'n ymddangos bod penderfyniad i'w gladdu," meddai.

"Mae cyflwr yr harbwr ar y foment - i mi, mae'r holl le'n death trap. Dydw i ddim yn gadael i fy wyrion fynd nunlle'n agos ato."

'Ofni bydd anaf, neu waeth'

Mae hi'n cyhuddo'r cyngor o fychanu'r risgiau, ac yn galw am "wneud yr ardal yn ddiogel".

"Mwya' wnes i edrych i'r peth, mwya' roeddwn i'n dychryn," meddai. "Rydyn ni'n gofidio bydd rhywun yn cael anaf difrifol, neu waeth.

"Os edrychwch o gwmpas, yr holl ddarnau gwyn ma' roedden ni'n meddwl oedd yn greigiau, asbestos yw e mewn gwirionedd.

"Mae'r erydu'n dod â'r asbestos mas a'i lledu ymhobman.

"Ers hynny mae pobl wedi dweud eu bod wedi ei weld mewn llefydd eraill yn yr ardal. Y pryder amlwg yw os yw'n lledu o'r traeth dwyreiniol i'r traeth gorllewinol ac yna i'r môr, y lle nesaf yw Penfro a Phenryn Gŵyr.

"Serch hyn oll, mae Cyngor Sir Gâr yn dal yn mynnu bychanu'r broblem... mae hwn yn drychineb sy'n aros i ddigwydd."

'Cymryd yr holl gamau angenrheidiol'

O'r traeth mae yna olygfeydd godidog ar draws Aber Afon Llwchwr tua'r Gŵyr, ond mae rwbel, darnau metel a phibellau concrid i'w gweld ar hyd safle'r hen bwerdy.

Mae'r cyngor wedi gosod arwyddion yn rhybuddio pobl bod deunydd wedi'i ganfod yn yr ardal all fod yn cynnwys asbestos.

Mae gan y cyngor gynlluniau uchelgeisiol i adfywio ardal harbwr Porth Tywyn, gan gynnwys codi 360 o gartrefi ar dir rhwng hen safle'r pwerdy a'r harbwr dan bartneriaeth gyda datblygwr preifat.

Philip Hughes yw'r aelod o fwrdd Cyngor Sir Gâr sy'n gyfrifol am ddiogelu'r cyhoedd. Dywedodd: "Yn dilyn archwiliadau a phrofion, cofnodwyd maint bychan o ddeunydd yn cynnwys lefel isel o asbestos.

"Er bod hwn yn risg isel i'r cyhoedd, rydym yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol rhag ofn gan gynnwys symud unrhyw ddeunydd gweledol yn ddiogel. Mae arwyddion hefyd wedi eu gosod yn yr ardal."

Ychwanegodd bod yr awdurdod wedi derbyn cyngor arbenigol a'u bod yn gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Tref Porth Tywyn.

Pynciau cysylltiedig