Risg uwch o ddementia i focswyr, yn ôl astudiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dynion oedd yn cymryd rhan mewn bocsio amatur pan yn iau yn wynebu risg uwch o ddatblygu dementia cynnar, yn ôl astudiaeth newydd.
Dengys yr ymchwiliad eu bod ddwywaith mor debygol o gael nam ar yr ymennydd tebyg i Alzheimer's, a bod eu dementia'n dechrau datblygu ar gyfartaledd bum mlynedd yn gynharach nag ymysg rheiny sydd erioed wedi bocsio.
Dilynodd Prifysgol Caerdydd 2,500 o ddynion dros 35 mlynedd ar gyfer yr astudiaeth.
Dywedodd y Gymdeithas Focsio Rhyngwladol (AIBA) bod ymchwil yn parhau ynghylch trawiadau i'r pen.
Ychwanegodd y byddai unrhyw newidiadau i reoliadau wedi eu seilio ar "ymchwil cryf".
Dywedodd cymdeithasau bocsio amatur Cymru, Lloegr a'r Alban y bydden nhw'n ystyried yr ymchwil yn llawn a bod bocsio amatur wedi gweld "gwelliannau sylweddol" dros y blynyddoedd diwethaf.
'Hyfforddi i ymladd dementia'
Mae Peter Flanagan yn perthyn i deulu o focswyr - fe ddechreuodd ei dad a'i daid focsio pan yn 11 mlwydd oed.
"Roedd y Flanagans i gyd yn ymladdwyr," meddai.
Cychwynnodd Mr Flanagan yrfa bocsio broffesiynol chwe mlynedd o hyd yn y 1980au, gan ymladd dros 40 o weithiau ac, un tro, pedair gwaith o fewn 10 diwrnod.
Fe wnaeth Mr Flanagan, sydd yn byw yn Sir Derby, dderbyn diagnosis o ddementia pedair blynedd yn ôl.
Roedd yn gweithio fel adeiladwr pan ddechreuodd anghofio pethau.
"Mi fuaswn i'n mynd i'r iard gan feddwl bod gen i bopeth yn fy mhen, ond wedyn byswn i'n mynd yn ôl a minnau wedi anghofio sawl peth allweddol."
Dywedodd ei ferch Tina bod Mr Flanagan wedi gwadu'r broblem ar y dechrau, a'i bod hi'n rhwystredig wrth weld ei iechyd meddwl a'i gof yn gwaethygu.
Pan dderbyniodd Mr Flanagan ei ddiagnosis, roedd ei ymgynghorydd yn benderfynol bod bocsio wedi cyfrannu at niweidio'i ymennydd.
Nawr, mae'n dymuno gweld newidiadau i'r rheolau er mwyn diogelu eraill tra'n hyfforddi, gan gynnwys cyfyngiadau i drawiadau i'r pen.
Mae Mr Flanagan yn codi arian i elusen Ringside, sydd yn anelu at agor cartref gofal i focswyr sydd wedi ymddeol.
"Rwy'n hyfforddi i ymladd dementia, fel y gwnes i hyfforddi i ymladd fel bocsiwr."
Canlyniadau 'syfrdanol'
Mae'n debyg mai astudiaeth Prifysgol Caerdydd yw'r cyntaf i graffu ar effaith clinigol hir-dymor bocsio amatur ar yr ymennydd.
Cafodd profion seicolegol eu cynnal bob pum mlynedd ar y dynion canol-oed oedd wedi bocsio pan yn ifanc, a chafodd unrhyw un oedd yn colli eu cof eu gweld gan geriatregwr a niwrolegydd cyn cael eu profi am ddementia.
Dywedodd yr awdur Peter Elwood, sydd wedi bod yn rhan o'r astudiaeth ers 1979, ei fod wedi ei "syfrdanu" gan y canlyniadau.
"Roedd gan y dynion oedd wedi bocsio dystiolaeth o golli cof ac o fod yn ddryslyd.
Roedd symptomau Alzheimer's "dair gwaith yn fwy cyffredin", gyda rhai yn ymddangos hyd at wyth mlynedd, ac ar gyfartaledd pum mlynedd, yn gynharach o'u cymharu â'r rheiny nad oedd wedi bocsio.
Mae gwelliannau i'r gamp wedi bod ers i'r dynion yn yr astudiaeth focsio - mae rowndiau a bowtiau yn fyrrach, mae gan fenig ar lefel amatur fwy o badin, ac mae amddiffynwyr pen yn cael eu gwisgo ar rai lefelau.
Ond mae'r wyddoniaeth ar amddiffynwyr pen wedi newid ac nid yw'r corff llywodraethu yn eu defnyddio bellach ar lefel amatur uwch y dynion.
Gwaith 'parhaus' i ddiogelu boscwyr
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd cymdeithasau bocsio amatur Cymru, Lloegr a'r Alban eu bod yn gweithio'n barhaus i wneud bocsio mor ddiogel â phosib.
"Does dim un bocsiwr yn cael ymladd neu gystadlu heb brawf meddygol blynyddol, ac mae'n rhaid cael prawf meddygol cyn ac ar ôl pob bowt. Mae hefyd angen i feddyg fod yn bresennol ym mhob bowt cystadleuol ar unrhyw lefel, boed hynny mewn sioe clwb neu bencampwriaeth genedlaethol," medden nhw.
"Does dim hawl gan unrhyw focsiwr i ymladd neu gystadlu am 30 diwrnod os yw meddyg yn amau eu bod wedi dioddef cyfergyd neu os oes dyfarnwr wedi stopio'r bowt, ac mae hyn yn cael ei gofnodi i sicrhau cydymffurfiad."
Mae ymladd hefyd wedi ei reoli, gyda gwaith pad a bag bellach "yn rhan bwysig o hyfforddi", medden nhw.
Dywedodd AIBA: "Fel mae'r astudiaeth yn ei wneud yn glir, gallwch gysylltu bocsio amatur yn y rhan hyn o Gymru ers talwm i broblemau iechyd ar yr ymennydd.
"Ac fel mae'r astudiaeth hefyd yn ei nodi, mae newidiadau sylweddol wedi bod ers hynny: yn nhermau menig, offer i ddiogelu'r pen, faint o gyswllt sy'n digwydd tra'n hyfforddi a chystadlu, ac yn y blaen."
Ychwanegodd AIBA mai ei flaenoriaeth yw iechyd a lles y bocswyr, a bod ymchwil yn digwydd ar drawiadau i'r pen.
"Bydd unrhyw newidiadau pellach i reolau yn ogystal ag argymhellion ar ymladd wedi eu seilio ar ymchwil cryf, a bydden nhw'n deillio o'n hymrwymiad parhaus i focswyr a'r rheiny sy'n eu cefnogi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2020