Mam Reid Steele yn pledio'n ddieuog i'w lofruddio
- Cyhoeddwyd
Mae mam o Ben-y-bont ar Ogwr wedi pledio'n ddieuog i lofruddio'i mab dyflwydd oed ym mis Awst.
Wrth ymddangos trwy linc fideo yn Llys y Goron Caerdydd, fe wnaeth Natalie Steele, 31 oed ac o ardal Broadlands, grio wedi iddi gyflwyno ple.
Bu farw Reid Steele yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar 12 Awst, ddiwrnod ar ôl iddo gael ei ddarganfod mewn cyflwr difrifol.
Bydd Ms Steele yn parhau yn y ddalfa ac mae disgwyl iddi fynd o flaen llys eto ar 25 Chwefror.
Mae disgwyl i'r Barnwr Michael Fitton QC gadarnhau dyddiad dechrau'r achos llawn maes o law.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2021
- Cyhoeddwyd13 Awst 2021