Penodi Sebastien Boyesen i greu cerflun Cranogwen
- Cyhoeddwyd
Mae'r cerflunydd fydd yn creu cofeb i Sarah Jane Rees, a oedd yn cael ei hadnabod wrth ei henw barddol Cranogwen, wedi cael ei benodi.
Sebastien Boyesen o Langrannog sydd wedi ennill y comisiwn, gan ddweud y bydd yn ystyried hyn yn "uchafbwynt" ei yrfa.
Dyma'r trydydd cerflun i gael ei gomisiynu fel rhan o ymgyrch i godi cerfluniau i fenywod Cymreig ledled Cymru.
Un cerflun sydd wedi ei godi hyd yma, a hynny i brifathrawes ddu gyntaf Cymru, Betty Campbell.
Cafodd cerflunydd ifanc hefyd ei dewis i gydweithio gyda Mr Boyesen ar y prosiect, sef Keziah Ferguson o Goleg Sir Gâr.
Bydd cerflun Cranogwen yn cael ei osod yn Llangrannog, gyferbyn â lle y cafodd ei chladdu.
Fel arloeswr mewn sawl maes, fe wnaeth Cranogwen oresgyn y cyfyngiadau ar fywydau menywod ar ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif.
Mae Cranogwen yn enwog fel bardd a newyddiadurwr, er iddi arloesi yn gyntaf fel morwraig - gan hwylio ar longau cargo rhwng Cymru a Ffrainc.
'Anrhydedd a braint'
Mae Mr Boyesen yn byw ac yn gweithio yn Llangrannog, ac mae ganddo 35 mlynedd o brofiad fel cerflunydd.
Mae sawl darn o'i gelf cyhoeddus wedi eu codi ar hyd y DU, ac fe greodd gerflun o Sant Carannog sydd wedi ei leoli yn Llangrannog.
Dyma'r trydydd cerflun i gael ei gomisiynu fel rhan o ymgyrch Merched Mawreddog Cymru.
Dywedodd Mr Boyesen bod y newyddion "yn anrhydedd ac yn fraint".
"Gobeithio y gallaf ad-dalu'r ymddiriedaeth a roddwyd ynof trwy greu gwaddol rhyfeddol i'r pentref a'r gymuned ehangach sy'n dathlu cyflawniadau menyw ysbrydoledig o Gymru."
Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Ms Ferguson ar y gwaith, a fydd yn ymuno â'r prosiect wedi iddi raddio o Goleg Sir Gâr.
Fe wnaeth Merched Mawreddog Cymru ffurfio partneriaeth gyda Lisa Evans, Cyfarwyddwr Rhaglen y radd anrhydedd mewn Cerflunio yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, Coleg Sir Gâr, i benodi cerflunydd ifanc, benywaidd i'r prosiect.
Pwrpas hyn yw i gydnabod gwaith Cranogwen i annog talentau menywod eraill.
"Mae'n anrhydedd i fod yn rhan o'r prosiect yma a chael y cyfle i ddathlu gwaddol Cranogwen," meddai Ms Ferguson.
"Ar ôl cael croeso cynnes yn Llangrannog, rwyf yn hynod o gyffrous i ddechrau gweithio gyda Seb a'r tîm."
Dywedodd Helen Molyneux o Ferched Mawreddog Cymru: "Roedd Cranogwen yn fenyw ysbrydoledig ac ymledodd ei henw da a'i dylanwad nid yn unig ledled Cymru ond yn rhyngwladol, ar adeg pan yn anaml y byddai llawer o ferched yn gadael eu pentrefi genedigol."
Bydd cerflun o Elaine Morgan, y damcaniaethwr a dramodydd, yn cael ei ddadorchuddio yn Aberpennar yn yr hydref.
Elizabeth Andrews ac Arglwyddes Rhondda sydd yn cwblhau'r rhestr o fenywod Cymreig fydd yn cael eu hanrhydeddu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd29 Medi 2021