'Angen i gyfarfodydd ar-lein y Senedd barhau'
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai cyfarfodydd rhithwir y Senedd barhau ymhell ar ôl Covid er mwyn rhoi cyfle i ragor o bobl i fod yn rhan o'r broses ddemocrataidd.
Dyna farn yr aelod Heledd Fychan, sy'n cynrychioli Canol De Cymru ac sy'n fam i blentyn wyth oed.
Dywedodd bod gallu gweithio o adref yn ystod y pandemig yn golygu ei bod hi wedi sicrhau gwell cydbwysedd rhwng ei gwaith a gofalu am ei phlentyn.
"Be 'dan ni wedi gweld yw fod y trefniadau rhithwir yn gweithio nid yn unig i Aelodau o'r Senedd ond hefyd i'n staff ac i'r rhai sy'n rhoi tystiolaeth i bwyllgorau," meddai AS Plaid Cymru.
"Mae'n dangos bod y syniad bod rhaid dod i Gaerdydd i ymwneud â'n democratiaeth ddim yn angenrheidiol a gallwn ni weithredu mewn ffordd wahanol a mwy modern."
Ychwanegodd: "Dwi ddim 'di adnabod y Senedd yn gweithio mewn ffordd arall. Ers i fi gael fy ethol fel hyn mae hi wedi bod.
"Mae'n gwneud o yn haws os oes gennych chi gyfarfodydd yn eich etholaeth.
"Hefyd mae gen i fab wyth oed ac os yw e yn sâl mae'n grêt bo' fi'n gallu bod adre i ofalu amdano ac ar yr un pryd yn g'neud fy ngwaith yn y Senedd yn cynrychioli pobl."
Mae'n cydnabod bod rhai, fodd bynnag, yn teimlo y dylai yr holl aelodau fod yn bresennol yn y Senedd ym Mae Caerdydd ac y dylid dychwelyd i'r hen drefn o weithio ar ôl y pandemig.
"Heb os, weithiau mae'n bwysig i fod yna a chael trafod wyneb yn wyneb.
"Dyna be' sy'n wych ar hyn o bryd yw bod yna opsiynau gwahanol.
"Dwi ddim yn teimlo bo' fi 'di colli allan. Mae modd rhoi dadleuon gerbron a chynrychioli pobl o Bontypridd neu ble bynnag," ychwanegodd.
Mae'r cyn-Weinidog Addysg Kirsty Williams a'r cyn-AC Eluned Parrott yn cytuno fod magu plant ar ôl cael eich ethol yn anodd ac wedi galw am ddiwygio'r drefn.
Fe fu galw ers tro am gael meithrinfa yn y Senedd a chynlluniau rhannu swyddi.
Mae cais wedi cael ei roi i Gomisiwn y Senedd am ymateb.
Wythnos diwethaf fe fu dadlau yn San Steffan ar ôl i'r AS Llafur, Stella Creasey, fynd â'i babi tri mis oed i mewn i Dŷ'r Cyffredin.
Dywedwyd wrthi ei bod hi'n groes i'r rheolau i ddod â phlentyn i mewn adeg dadl. Mae hi wedi galw am adolygiad o'r rheolau.
Mae elusen Chwarae Teg, sy'n arwain ar gydraddoldeb rhywedd yng Nghymru, yn cefnogi'r syniad o ymestyn y trefniadau rhithwir.
Dywedodd eu cyfarwyddwr polisi, Helen Antoniazzi: "Dwi'n meddwl bod nifer o bethau arloesol allwn ni ddysgu o adeg Covid a bod modd symud mla'n i 'neud yn siŵr fod y Senedd yn accessible i bawb.
"Does dim rhaid tynnu popeth yn ôl ar ôl y pandemig. Fe fydd hyn yn gneud gwahaniaeth i bwy sy'n gallu bod yn aelodau ond mae hefyd yn helpu staff a phwy sy'n rhoi tystiolaeth. Chi hefyd yn gallu gofalu am blant a phobl hŷn ar yr un pryd."
Mae hi hefyd yn dweud y gallai ymestyn trefniadau gweithio rhithwir ddenu trawsdoriad ehangach o gymdeithas i mewn i wleidyddiaeth a byddai hyn wedyn yn cael ei adlewyrchu yn y polisïau sy yn cael eu penderfynu.
"Ry'n ni'n gw'bod bod polisïau a phenderfyniadau gwell yn cael eu g'neud pan bod amrywiaeth o bobl o gwmpas y bwrdd.
"Felly gallai trefniadau rhithwir olygu fod penderfyniadau am bethau fel darpariaeth gofal plant, er enghraifft, yn cael eu gwneud gan bobl sy' yn y sefyllfa yna, eisoes yn gwneud y gwaith ac yn delio â hynny."
'Pwysig cael gwahanol bersbectif'
Mae Comisiynydd Cenedlaethau y Dyfodol Sophie Howe, sy'n fam i bump o blant, yn cytuno ei bod hi'n angenrheidiol fod mwy o rieni yn cael eu hethol i'r Senedd.
"Does dim llawer o fenywod sydd â phlant bach yn y Senedd," meddai.
"Y rheswm am hyn yw bod menywod yn gweld sut mae'r system yn gweithio ac yna mae nhw'n penderfynu nad yw'r drefn ym mynd i weithio iddyn nhw â'u cyfrifoldebau o ran gofal.
"Mae'n bwysig iawn ein bod ni yn cael pobl â gwahanol bersbectif yn rhan o'n gwleidyddiaeth a'n bywyd cyhoeddus ni oherwydd mae'r bobl yma yn gwneud penderfyniadau ar gyfer rhieni - er enghraifft penderfyniadau pwysig ar addysg meithrin, a gweithio oriau hyblyg.
"Mae'n allweddol bwysig fod pobl sy' â phrofiad a phersbectif bywyd am y pethau yma yn cyfrannu at y broses o 'neud polisïau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2021
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd13 Medi 2020