Storm Barra: Gwynt yn hyrddio 86 mya yn Aberdaron

  • Cyhoeddwyd
Mynachlog-ddu
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth coeden ddisgyn ar adeilad fferm ym Mynachlog-ddu, Sir Benfro yn y tywydd garw ddydd Mawrth

Mae gwyntoedd cryfion wedi achosi mwy o doriadau i gyflenwad pŵer a thrafferthion teithio ledled Cymru ddydd Mawrth.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod disgwyl gwyntoedd o hyd at 70mya mewn lleoliadau arfordirol agored.

Ond brynhawn Mawrth cadarnhaodd y Swyddfa Dywydd bod gorsaf dywydd Aberdaron wedi cofnodi hyrddiad o gyflymder 86 mya.

Mae hynny'n gryfach na chyflymder y gwynt yn ystod Storm Arwen - adeg honno cofnodwyd hyrddiad o 81 mya yn Aberporth.

Rhybuddiodd Cyngor Gwynedd nos Fawrth bod amodau gyrru "yn ddrwg heno" wrth gadarnhau bod yr A497 o Efailnewydd i Bwllheli ar gau wedi i goeden gwympo.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan CyngorGwyneddCouncil

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan CyngorGwyneddCouncil

Bydd Ysgol Bryngwyn yn Llanelli ar gau ddydd Mercher wedi i wyntoedd cryfion achosi difrod i ran o do'r ysgol am oddeutu 16:00 brynhawn Mawrth. Chafodd neb anaf.

Ffynhonnell y llun, Dave Hurford
Disgrifiad o’r llun,

Difrod i ran o do Ysgol Bryngwyn yn Llanelli sy'n golygu bod yr ysgol ar gau ddydd Mercher

Gydol dydd Mawrth, mae cannoedd o gwsmeriaid Western Power Distribution wedi bod heb drydan mewn ardaloedd gwasgaredig ar draws de Cymru.

Erbyn nos Fawrth roedd y nifer heb drydan dros 500, gan gynnwys dros 300 yn ardal Arberth a bron i 200 yn ardal Pont-iets.

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhybudd tywydd diweddaraf mewn grym trwy gydol y dydd o 09:00 fore Mawrth

Fe wnaeth cwmni Stena Line ganslo pob fferi rhwng Abergwaun a Rosslare oherwydd y tywydd garw.

Mae 'na gyfyngiadau teithio ar yr A55 Pont Britannia, a'r M48 Pont Hafren, ac mae Trafnidiaeth Cymru'n annog teithwyr trên i chwilio am y wybodaeth ddiweddaraf ar-lein cyn dechrau ar eu taith.

Hefyd mae Pont Cleddau - yr A477 - ar gau yn llwyr i'r ddau gyfeiriad.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Traffig Cymru Gogledd-Chanolbarth #DiogeluCymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Traffig Cymru Gogledd-Chanolbarth #DiogeluCymru

Mae'r rhybudd tywydd diweddaraf mewn grym ledled y wlad a thrwy gydol y dydd ers 09:00 fore Mawrth.

Mae disgwyl i'r gwyntoedd cryfion barhau yn y de hyd at 18:00 nos Fercher, yn ôl y rhybudd melyn, ac mae rhybuddion llifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol ar draws y wlad.

Roedd rhybudd ar wahân am rew ac amodau peryglus mewn grym ar gyfer y gogledd-ddwyrain dros nos, nes fore Mawrth.

Disgrifiad,

Storm Arwen: Lluniau CCTV o goeden yn disgyn ar dafarn (Fideo: Lee Hancock)

Achosodd Storm Arwen drafferthion am sawl diwrnod ar ôl taro'r penwythnos diwethaf.

Roedd miloedd o gartrefi heb bŵer, ffyrdd wedi'u blocio a chafodd gwasanaethau rheilffordd eu hatal.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai fod "rhywfaint o golli pŵer yn y tymor byr" o ddydd Mawrth.

Fe allai hefyd fod oedi ar drafnidiaeth ffyrdd, rheilffyrdd, awyr a fferi a gallai tonnau mawr effeithio ar gymunedau arfordirol, meddai.

Ffynhonnell y llun, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dros 50 o goed prin hynafol eu llorio yng Ngerddi Bodnant yn ystod Storm Arwen

Cofnodwyd gwyntoedd gwynt o 81mya ddydd Sadwrn diwethaf, gan adael 30,000 o bobl heb bŵer ar un adeg yng Nghymru.

Fe wnaeth Many Tears Animal Rescue yn Llanelli hefyd golli eu cyflenwad trydan, a arweiniodd at farwolaeth un o'r cŵn bach newydd anedig.

Yn Nyffryn Conwy, cafodd dros 50 o goed prin hynafol eu llorio yn un o erddi mwyaf adnabyddus Cymru.

Bu'n rhaid canslo penodau byw o I'm a Celebrity... Get Me Out of Here! hefyd ar ôl i'r storm achosi "difrod sylweddol" i'r set yng Nghastell Gwrych yn Abergele, sir Conwy.

Mae rhai cartrefi yn dal heb bŵer yn Lloegr a'r Alban, gyda gweinidog yn Llywodraeth y DU yn dweud fod hynny'n "gwbl annerbyniol".

Pynciau cysylltiedig