Iawndal i gyn is-bostfeistr wedi brwydr am gyfiawnder

  • Cyhoeddwyd
Noel ThomasFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Noel Thomas nôl ym mis Ebrill pan gafodd sawl euogfarn eu dileu yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol yn Llundain

Mae cyn is-bostfeistr o Fôn a gafodd ei garcharu ar gam wedi croesawu'r cyfle i allu dechrau ad-dalu'r perthnasau a ffrindiau a helpodd i'w gynnal yn ariannol yn ystod brwydr hir am gyfiawnder.

Daeth i'r amlwg nos Lun bod Llywodraeth y DU wedi cytuno i dalu iawndal yr holl is-bostfeistri a gafodd eu herlyn ar gam am ddwyn arian a chyfrifo ffug yn sgil nam gyda system gyfrifiadurol Swyddfa'r Post.

Cafodd euogfarnau yn erbyn Noel Thomas o'r Gaerwen a channoedd o unigolion eraill yn yr un sefyllfa eu dileu ym mis Ebrill.

Roedd Swyddfa'r Post wedi dweud nad oedden nhw mewn sefyllfa i dalu'r iawndal, ond fel unig gyfranddaliwr y gwasanaeth mae'r llywodraeth wedi cytuno i gamu i'r adwy.

Mae disgwyl i ragor o fanylion gael eu cyhoeddi yn y Senedd yn Llundain, ac yn dilyn y cyhoeddiad hwnnw bydd modd bwrw ymlaen i drafod maint yr iawndal ymhob achos unigol.

Roedd Swyddfa'r Post wedi setlo achos ym mis Rhagfyr 2019 gyda 555 o hawlwyr, gan gytuno i dalu cyfanswm o £58m heb dderbyn atebolrwydd, ond fe aeth mwyafrif helaeth yr arian hwnnw at gostau cyfreithiol.

Disgrifiad,

Fe wnaeth Noel Thomas gyfweliad emosiynol gyda BBC Cymru wedi'r achos yn y Llys Apêl

Cafodd Mr Thomas ddedfryd o naw mis o garchar yn 2006 ar ôl i £48,000 fynd ar goll o'i gyfrifon.

Roedd ond wedi pledio'n euog i gyhuddiad o gadw cyfrifon ffug ar sail cyngor cyfreithiol ac yn y gobaith o osgoi carchar, a hynny wedi i Swyddfa'r Post ollwng cyhuddiad o ddwyn arian.

Fe gollodd ei fywoliaeth "dros nos" - roedd yn ennill £30,000 y flwyddyn gyda Swyddfa'r Post a rhyw £15,000 am fod yn gynghorydd sir - ac fe aeth yn fethdalwr.

Gan ymateb ar raglen Dros Frecwast i gyhoeddiad Llywodraeth y DU, dywedodd Mr Thomas: "'Dan ni fel grŵp wedi bod yn cwffio ers blynyddoedd - i mi maen o 'di bod bron iawn yn 16 mlynedd."

Ffrindiau a pherthnasau 'wedi helpu fi'

Dywedodd ar y rhaglen ei fod eisoes wedi derbyn rhagdaliad o £100,000.

"Mi gyrhaeddodd, diolch byth, w'sos dwytha' ond wrth gwrs mae'r rhan fwyaf o hwnnw'n mynd i dalu 'nyledion, mewn ffordd.

"O'dd rhywun wedi ca'l ei ada'l mewn dyled ac mi o'dd pobol - ffrindia' a teulu - wedi helpu fi allan.

"Tydi o'm yn mynd i ddod â beth sy' wedi digwydd [o ran colledion ariannol] yn ôl."

Bydd Mr Thomas, sydd ar fin cael ei ben-blwydd yn 75 oed, yn treulio'r diwrnod wrth ei waith mewn canolfan arddio ble "bydd cydweithwyr yn fy nghael i drwyddi" pan fydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi am yr iawndal i'r cyn is-bostfeistri.

Pynciau cysylltiedig