Adam Price i wynebu cwestiynau misol yn y Senedd?

  • Cyhoeddwyd
Daeth y Cytundeb Cydweithio i rym ddydd MercherFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y Cytundeb Cydweithio i rym yn gynharach y mis hwn

Fe allai arweinydd Plaid Cymru wynebu cwestiynau misol yn y Senedd, mewn ymateb i'r fargen rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Mae Llywydd y Senedd, Elin Jones, wedi codi'r posibilrwydd, yn dilyn llofnodi'r Cytundeb Cydweithio yn gynharach y mis hwn.

Hefyd, fel rhan o gyfres o newidiadau gweithdrefnol a gyhoeddwyd gan Elin Jones, bydd arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn dal i allu gofyn tri chwestiwn i Mark Drakeford yng Nghwestiynau i'r Prif Weinidog, ond dywedodd nad yw "yn disgwyl i'r cwestiynau hynny gael eu defnyddio i hyrwyddo unrhyw feysydd polisi a gwmpesir gan y Cytundeb".

"Dylai cwestiynau i unrhyw Weinidogion ganolbwyntio ar graffu ar waith y Gweinidogion hynny ac fel y cyfryw, rwy'n disgwyl i Arweinydd Plaid Cymru lunio cwestiynau yn unol â hynny."

Ymhlith y newidiadau posib a awgrymir gan y Llywydd, i'w trafod gan Bwyllgor Busnes trawsbleidiol y Senedd, mae'r awgrym y dylid craffu ar Mr Price "yn fisol, yn lle cwestiynau'r arweinydd i'r prif weinidog".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Llywydd wedi gofyn i'r prif weinidog egluro nifer, cylch gwaith a chyfrifoldebau aelodau dynodedig Plaid Cymru

Mae newidiadau sy'n dod i rym ar ôl y Nadolig yn cynnwys cyfyngu ar nifer y cwestiynau y gall llefarwyr Plaid Cymru eu gofyn i weinidogion ym Mae Caerdydd.

Dywedodd Ms Jones hefyd mai ei barn hi yw y byddai "uniondeb y broses gyllidebol yn cael ei gynnal yn well" pe na bai'r pwyllgor cyllid yn cael ei gadeirio gan aelod o grŵp Plaid Cymru "sydd wedi mynd i gytundeb gyda Llywodraeth Cymru ynghylch y gyllideb".

Y cadeirydd presennol yw aelod o'r Senedd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.

"Nid yw hyn mewn unrhyw ffordd yn adlewyrchiad o'r cadeirydd presennol, sy'n ennyn parch mawr yr holl aelodau," meddai Ms Jones.

"Fel Senedd, byddwn yn archwilio a ddylid gwneud unrhyw newidiadau yn y tymor hwy i'n harferion a'n gweithdrefnau er mwyn adlewyrchu natur newydd y Cytundeb hwn. Byddaf yn parhau i adolygu materion wrth i'r Cytundeb ddatblygu ar waith yn ystod y flwyddyn nesaf."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y cyfansoddiad Darren Millar: "Rhaid peidio â chaniatáu i Lafur a Phlaid drefnu busnes y Senedd er mwyn osgoi cwestiynau a chraffu ar eu trefniant newydd sy'n debyg i glymblaid.

"Mae Llywydd y Senedd yn glir na ddylai'r rhai sydd â chyfrifoldeb am hwyluso cymeradwyo cyllideb Llywodraeth Cymru hefyd arwain y broses o graffu arni ac rwy'n cytuno â hi.

"Mae'r ffaith bod Plaid yn glynu wrth y swydd o gadeirio Pwyllgor Cyllid y Senedd yn amhriodol ac yn peryglu tanseilio enw da a chywirdeb y sefydliad."

Dywedodd yr AS Llafur Hefin David, sydd wedi codi pryderon ynghylch atebolrwydd o dan y cytundeb: "Rwy'n croesawu'r datganiad hwn gan y Llywydd sydd, gyda'r pwyllgor busnes, wedi gwrando ar bryderon aelodau."

'Uchelgeisiol'

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru "Bydd y Cytundeb Cydweithio beiddgar ac uchelgeisiol o fudd i bobl Cymru drwy'r polisïau radical rydyn ni wedi dod â nhw at y bwrdd, gan gynnwys prydau ysgol am ddim i bob plentyn cynradd a mesurau ymarferol i fynd i'r afael â'r argyfwng tai.

"Rydym yn edrych ymlaen at ffordd arloesol, gydweithredol o weithio yn y Senedd - gan gydweithredu â Llywodraeth Cymru mewn meysydd sydd o ddiddordeb ar y cyd wrth barhau i fod yn wrthblaid effeithiol ac adeiladol."