Carwyn Jones: Angen 'system newydd' i ddelio â thai haf
- Cyhoeddwyd
"Rhaid ystyried system newydd" i ddod i'r afael â'r argyfwng ail dai erbyn hyn, yn ôl cyn-brif weinidog Cymru.
Dywedodd Carwyn Jones bod y sefyllfa wedi gwaethygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a bod angen ystyried datrysiadau newydd.
"Y ffordd yn draddodiadol 'naethon ni edrych i ddatrys y broblem oedd adeiladu mwy a mwy o dai... erbyn hyn falle bod rhaid ystyried rhywbeth arall", meddai ar Dros Frecwast.
Un datrysiad posib fyddai creu marchnad leol yng Nghymru fel sy'n cael ei defnyddio ar Jersey ac Ynys y Garn, meddai.
"Mae hwn yn rhywbeth mae'n rhaid i ni ystyried fel ffurf o gyfiawnder cymdeithasol - rhoi'r cyfle i bobl i fyw yn yr ardal lle ma' nhw 'di cael eu magu," meddai.
Dywedodd bod llywodraeth Mark Drakeford yn "deall y neges," a'u bod nhw'n adeiladu tai fforddiadwy i ddelio â'r sefyllfa fel gwnaeth ei lywodraeth ef.
"Ond yn amlwg mae'n rhaid gwneud mwy," meddai.
Marchnad dai newydd?
Dywedodd Mr Jones iddo ddechrau ystyried creu "rhyw fath o farchnad dai leol" yng Nghymru pan yn brif weinidog, "yn yr un modd â sydd ar gael ar Jersey ac Guernsey".
"Chi'n prynu tai pan maen nhw'n dod ar y farchnad agored, tynnu nhw o'r farchnad hynny, wedyn eu gwerthu nhw o fewn marchnad leol."
Ar Ynys y Garn mae tai un ai ar y farchnad agored neu'r farchnad leol, ac mae'n rhaid cael trwydded arbennig er mwyn byw mewn tŷ ar y farchnad leol.
Ond dywedodd Mr Jones y byddai angen "llawer o waith" i ddatblygu hynny yng Nghymru oherwydd sefyllfa'r farchnad ar hyn o bryd.
Cafodd y farchnad leol ei chreu ar Ynys y Garn yn y 1960au trwy ofyn i bobl a oedden nhw'n dymuno rhoi eu tai ar y farchnad leol neu eu cadw ar y farchnad agored.
"Nawr, dwi ddim yn gwybod os bydde pobl yn gwirfoddoli yn yr un ffordd [yng Nghymru]", meddai Mr Jones.
"Achos mae'n rhaid i ni dderbyn mai pobl leol sy'n gwerthu eu tai i bobl sydd a mwy o arian yn y lle cynta'."
Ond rhaid newid y system bresennol, meddai.
"O'n cefndir gwleidyddol i, sai'n derbyn mai dim ond arian ddylai rheoli'r farchnad, a'r mwy o arian sy' gyda chi 'na fe, ac os does dim arian gennych chi, tough."
"A fydde fe'n bosib yng Nghymru i greu marchnad leol, wrth ofyn i bobl wirfoddoli i ddodi eu tai ar y rhestr hynny?
"Pwy a ŵyr pa fath o ymateb bydde, neu os oes rhaid prynu tai ar y farchnad agored ac yna eu cadw ar y farchnad leol, ac wedyn gwerthu nhw tu fewn i'r farchnad hynny."
Os yn parhau i adeiladu tai fforddiadwy, rhaid eu cadw oddi ar y farchnad agored "am byth", meddai Mr Jones, "neu dydyn nhw ddim yn dai fforddiadwy rhagor".
'Defnydd a dyfodol yr iaith'
Trafododd Mr Jones pynciau oedd yn ymwneud â "defnydd a dyfodol" y Gymraeg fore Mawrth.
Un arall o'r rhain oedd targed miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a gafodd ei lansio gan Mr Jones pan yn brif weinidog.
Dywedodd ei fod yn hyderus y gallai'r targed gael ei wireddu, ond yr her fawr byddai sicrhau bod y mwyafrif o'r miliwn yn defnyddio'r Gymraeg mewn gwirionedd, "nid dim ond yn ei siarad ar bapur".
Rhaid bod yn llai beirniadol o safon Cymraeg pobl er mwyn sicrhau hyn, meddai.
Rydyn ni'n "colli siaradwyr" trwy roi gormod o bwyslais ar gywirdeb - yn hytrach, rhaid canolbwyntio ar roi anogaeth a magu hyder pobl, a phwysleisio nad ydyn ni'n "erfyn i bawb gyrraedd safon lle maen nhw'n gallu sgwennu cynghanedd", meddai.
Ychwanegodd nad oedd ef ei hun bob tro yn hyderus wrth siarad y Gymraeg yn ffurfiol.
Dywedodd mai ond gyda'i deulu y siaradodd yr iaith wrth dyfu i fyny ym Mhen-y-Bont ar Ogwr.
"O'dd e'n daith bersonol i fi hefyd i sicrhau bod gen i'r hyder i ddefnyddio'r Gymraeg tu fas i sefyllfa cymdeithasol," meddai.
Trwy ymarfer fe dyfodd ei hyder, a dywedodd ei fod yn bwysig iddo sicrhau fod pobl yn clywed "llais fel fy llais i a'n acen i" o fewn bywyd cyhoeddus.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2021