Pryder am oriau hir rhai staff uned iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae adroddiad am amodau staff uned Hergest 'yn un teg' medd Theresa Owen o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Mae arolwg i uned iechyd meddwl yng ngogledd Cymru wedi codi pryderon bod rhai staff wedi bod yn gweithio gormod o oriau, a hynny heb egwyl na seibiant i gael cinio.

Mae adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru hefyd yn nodi "nifer o bryderon" ynghylch diffyg mesurau i atal lledaeniad haint Covid-19, ac angen i wella cyfathrebu rhwng rheolwyr a staff sy'n gweithio ar y ward yn uned Hergest, Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Ym mis Tachwedd eleni fe gafodd adroddiad damniol hanesyddol ei gyhoeddi i fethiannau yn yr uned, wyth mlynedd ers ei gwblhau.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mae'r adroddiad yn un teg sy'n adlewyrchu taith y bwrdd iechyd at wella.

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu "ymroddiad" y bwrdd iechyd i weithredu argymhellion yr Arolygaeth.

Fe gafodd arolygiadau dirybudd eu cynnal ar 6-8 Medi a 20-22 Medi eleni.

Yn ystod y cyfnodau hyn, mae arolygwyr yn dweud iddyn nhw nodi "nifer o bryderon" gyda rhai yn mynnu sylw ar frys er mwyn gwella'r sefyllfa.

Roedd y prif pryderon yn nodi nad oedd digon yn cael ei wneud i atal ymlediad Covid-19 a bod angen gwneud mwy i osod rheolau a mesurau pendant.

Gweithio heb egwyl i fwyta

Yn ôl yr adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher roedd pryderon ynghylch arweinyddiaeth y tîm rheoli ac mae angen gwneud mwy er mwyn cyfathrebu'n well gyda staff ar y wardiau er mwyn ffurfio "perthynas ar sail ymddiriedaeth".

Fe anfonodd arolygwyr nodyn at Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi'r arolwg yn dweud bod angen gwneud rhai gwelliannau ar frys.

Clywodd yr arolygwyr gan rai aelodau staff eu bod yn gweithio "gormod o oriau ac yn rheolaidd yn dal yn gweithio wedi diwedd eu shifft".

Yn ôl yr adroddiad fe ddywedodd rhai aelodau staff nad oeddynt yn cael egwyl i fwyta yn ystod shifftiau 12 awr.

Er bod pryderon difrifol wedi eu codi, mae'r adroddiad yn nodi fod aelodau staff yn "llawn parch" wrth ymwneud â chleifion a bod y tîm o weithwyr, ar y cyfan, yn gweithio'n dda ac yn frwdfrydig.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi na gododd rhagor o bryderon yn ystod ail ymweliad arolygwyr ddiwedd Medi.

Disgrifiad o’r llun,

Ymwelodd arolygwyr â'r uned ddwywaith yn ystod mis Medi eleni

Mewn ymateb i'r adroddiad hirddisgwyliedig i fethiannau yn Uned Hergest sy'n dyddio o'r cyfnod cyn 2013, dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod camau wedi eu cymryd i sicrhau gwelliannau, ac er bod angen gwneud rhagor, roedd y sefyllfa wedi gwella.

Wrth ymateb i adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru ddydd Mercher dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus y bwrdd iechyd, Theresa Owen, fod yr adroddiad yn deg a bod rhagor o welliannau'n digwydd.

"Mae'n dangos fod 'na welliannau ond 'dan ni ar y siwrne yna," meddai. "Mae'n adlewyrchu safon y gofal yn Uned Hergest ond mae 'na welliannau i'w gwneud a 'dan ni yn cydnabod hynny.

"Mae seibiannau yn bwysig ac mae wedi bod yn anhygoel efo Covid ac Omicron. Mae staff wedi mynd y filltir ychwanegol ond 'dan ni yn atgoffa staff o bwysigrwydd cael seibiant a 'dan ni'n trio helpu nhw cael y stops maen nhw angen."

'Mae'r gofal yn safonol'

Wrth ymateb i'r awgrym bod bod angen gwella cyfathrebu yn yr uned dywedodd Ms Owen fod strategaeth newydd ar waith i wella hynny.

Dywedodd Ms Owen fod staff hefyd yn cael eu hatgoffa i ddilyn rheolau a mesurau atal Covid-19.

"Mae 'na bwysau ar ein gwasanaethau ond 'dan ni yn atgoffa ein staff 'dan ni angen gwneud yn well. mae pobl yn blino ond ein gwaith ni ydi rhoi arweiniad i'n staff."

Ychwanegodd: "Dyma adroddiad teg sy'n dangos bod y gofal yn safonol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu ymroddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i weithredu holl argymhellion Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru."