Angen i berchennog sinema egluro sail ei hapêl
- Cyhoeddwyd
Mae barnwr wedi dweud fod yn rhaid i berchennog sinema yn Abertawe ystyried y gallai parhau ag achos apêl aflwyddiannus yn y llys arwain at gosb lymach.
Fis diwethaf cafodd Anna Redfern, cyd-berchennog Cinema & Co yn y ddinas, ddedfryd o garchar gohiriedig am 28 diwrnod a dirwy o £15,000 gan Ynadon Abertawe.
Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau dywedodd y barnwr Paul Thomas ei bod yn annelwig a oedd ei hapêl yn erbyn y ddedfryd neu'r ddirwy yn unig.
Yn y gwrandawiad gwreiddiol fe wnaeth Ms Redfern gyfaddef dirmyg llys, ar ôl ailagor ei busnes sawl tro er gwaethaf gorchymyn i'w gau.
Daeth hyn ar ôl iddi wrthod gofyn i gwsmeriaid Cinema & Co. ddangos pàs Covid, fel sy'n ofynnol yn gyfreithiol.
Clywodd Llys y Goron fod y ddynes 46 oed yn methu â bod yn bresennol yn y gwrandawiad apêl oherwydd bod ei mam yn "ddifrifol wael."
Dywedodd y barnwr Thomas fod angen i Ms Redfern egluro a oedd hi gwrthwynebu ei dedfryd bersonol ei hunan, neu'r ddedfryd yn erbyn ei chwmni.
Gofynnodd am unrhyw dystiolaeth fod y perchennog yn derbyn unrhyw arian oddi wrth ffynonellau allanol.
Roedd y ddirwy o £15,000 yn seiliedig ar dystiolaeth ei bod yn byw ar gynilion o tua £30,000.
Dywedodd Lee Reynold, yr erlynydd ar ran Cyngor Abertawe, fod Ms Redfern wedi dweud ei bod wedi derbyn tua £55,000 gan dudalen "crowdfunder" ar y we.
Ychwanegodd mai nod yr arian oedd talu costau cyfreithiol, herio'r ddirwy a'i digolledu ar gyfer colledion busnes, gan gynnwys pump o "amcanion elusennol" eraill - yn eu plith "mynd â'i phlant ar wyliau er mwyn dathlu cael ei rhyddid yn ôl."
Clywodd y llys fod Ms Redfern wedi ceisio sicrhau cynrychiolaeth gyfreithiol, ond ei bod wedi bod yn aflwyddiannus.
Dywedodd Mr Reynold nad oedd yr awdurdod lleol wedi derbyn unrhyw "negeseuon cyfathrebu oddi wrth Ms Redfern ynglŷn â'r apêl".
Dywedodd y barnwr Thomas "er tegwch i Ms Redfern mae angen iddi gael gwybod gan y llys pe bai ei hapêl yn aflwyddiannus, bod gan y llys y grym i gynyddu'r ddedfryd, yn enwedig pe bai ei henillion yn fwy na'r hyn oedd yn wybodus".
Cafodd yr achos ei ohirio am wythnos arall gyda'r barnwr yn ychwanegu: "Does dim rwyf wedi ei ddweud yn arwydd o'r penderfyniad terfynol ond mae angen iddi fod yn ymwybodol o oblygiadau posib."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2021