Dedfrydu perchennog sinema ar ôl cyfaddef dirmyg llys

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Anna Redfern
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Anna Redfern y byddai'n cydymffurfio â gorchymyn y llys o nawr ymlaen

Mae perchennog sinema yn Abertawe wedi cyfaddef bod mewn dirmyg llys, ar ôl ailagor ei busnes sawl tro er gwaethaf gorchymyn i'w gau.

Fe wnaeth Anna Redfern wrthod gofyn i gwsmeriaid Cinema & Co. ddangos pàs Covid, fel sy'n ofynnol yn gyfreithiol.

Wedi i farnwr ei gorchymyn i gau'r sinema a chaffi, fe wnaeth Ms Redfern ei ailagor heb ganiatâd sawl gwaith.

Cafodd Ms Redfern ei dedfrydu i 28 diwrnod yn y carchar, wedi'i ohirio am naw mis.

Yn cynrychioli Ms Redfern yn y llys ddydd Mawrth oedd y bargyfreithiwr Jonathan Gwyn Mendus Edwards a'r cyn-Aelod Seneddol Neil McEvoy.

Dywedodd y bargyfreithiwr Mr Edwards: "Weithiau mae'n rhaid sefyll eich tir ar sail eich egwyddorion... ond mae'n rhaid bod yn atebol am hyn, ac mae fy nghleient yn deall hynny."

Fe wnaeth Ms Redfern hefyd bledio'n euog i achosi difrod troseddol, a methu â chydymffurfio a gorchmynion llys a swyddogion gorfodaeth.

Dywedodd Ms Redfern o ardal Uplands, Abertawe, y byddai'n cydymffurfio â gorchymyn y llys o hyn ymlaen.

'Peth cyntaf call' i'r diffynnydd ei wneud

Dywedodd cynrychiolydd ar ran Cyngor Abertawe wrth y barnwr: "Doedd dim angen i bethau fynd mor bell â hyn.

"Mae'r achos wedi bod yn ddrud, doedd dim angen iddi fod."

Dywedodd y Barnwr Neale Thomas mai'r "peth call cyntaf i Ms Redfern ei wneud ers tro yw gwrando ar gyngor cyfreithiol a chyfaddef dirmyg llys".

Yn ogystal â'r ddedfryd o garchar, cafodd Ms Redfern ddirwy o £15,000, a bydd rhaid iddi dalu costau o bron i £9,000.

Pynciau cysylltiedig