Jacob Rees-Mogg 'yn gywir i beidio ag enwi' arweinydd y Torïaid Cymreig

  • Cyhoeddwyd
Andrew RT Davies
Disgrifiad o’r llun,

Cymerodd Andrew RT Davies yr awenau fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd am yr eildro ym mis Ionawr y llynedd

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru wedi galw am arweinydd ffurfiol i'r Ceidwadwyr Cymreig ar ôl i Jacob Rees-Mogg fethu â'i enwi yn Nhŷ'r Cyffredin.

Ymatebodd Mr Rees-Mogg trwy gyfeirio at Ysgrifennydd Cymru Simon Hart pan ofynnwyd iddo enwi arweinydd y Torïaid Cymreig.

Dywedodd Andrew RT Davies fod arweinydd Tŷ'r Cyffredin yn gywir gan nad oes swydd o'r fath yn bodoli.

Dywedodd fod ganddo hyder yn y prif weinidog wrth i gwestiynau am ddyfodol gwleidyddol Boris Johnson barhau.

Yn y cyfamser dywedodd dirprwy gadeirydd Cymreig y Torïaid, Tomos Dafydd Davies, fod awdurdod Boris Johnson wedi "suddo".

Yn gynharach yr wythnos hon dywedodd Mr Davies wrth Sharp End ITV Cymru ei bod yn "gwbl annerbyniol" i Mr Rees-Mogg ddweud nad yw arweinydd y Ceidwadwyr yn Yr Alban, Douglas Ross, yn "ffigwr o bwys yn wleidyddol".

Ffynhonnell y llun, HoC
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Jacob Rees-Mogg gysylltiadau teuluol ym Mro Morgannwg

Andrew RT Davies yw arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, ond mae'n un o dri Cheidwadwr Cymreig mewn rolau arweinyddol.

Mae Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, yn cynrychioli Cymru yng nghabinet Llywodraeth y DU, tra bod Glyn Davies yn gadeirydd y Blaid Geidwadol wirfoddol.

Gall rôl Andrew RT Davies gael ei hethol yn uniongyrchol gan yr aelodaeth, er bod Aelod Seneddol Canol De Cymru yn ddiwrthwynebiad pan gafodd ei benodi yn 2021.

Cafodd Mr Rees-Mogg ei holi gan AS Llafur Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan yr wythnos ddiwethaf.

Gofynnodd a oedd yn meddwl bod arweinydd y Torïaid Cymreig hefyd yn ffigwr dibwys, ac a allai ei enwi.

Wrth chwerthin, dywedodd Mr Rees-Mogg mai "Simon Hart yw enw Ysgrifennydd Gwladol Cymru".

'Yn dechnegol gywir'

Dywedodd Mr Davies fod arweinydd Tŷ'r Cyffredin yn "dechnegol gywir".

"Yn anffodus nid oes gennym ni arweinydd dynodedig o dan gyfansoddiad y Blaid Geidwadol," meddai wrth y BBC.

Dywedodd ei fod am weld y cyfansoddiad yn newid fel bod "arweinydd dynodedig yng Nghymru".

"Ond rwy'n siŵr na fyddai arweinydd y Tŷ wedi eisiau camarwain y Tŷ."

Dywedodd arweinydd Torïaidd Senedd Cymru ei fod wedi cael "cyfarfod difyr iawn" gyda Mr Rees-Mogg ddydd Mercher a dywedodd y gallai fod ganddynt gysylltiadau teuluol.

Dywedodd fod Mogg yng nghyfenw Jacob oherwydd cysylltiadau ei deulu ym Mro Morgannwg.

"Mae fy nheulu yn hanu ar ochr fy mamau o'r un pentref," meddai Mr Davies.

"Mae teuluoedd weithiau'n crwydro oddi wrth ei gilydd," ychwanegodd.

Dywedodd nad yw Mr Ross yn "ffigwr dibwys yn wleidyddol" oherwydd fe gafodd ei ddewis gan aelodaeth y blaid Geidwadol.

Parhau â hyder yn Johnson

Dywedodd Mr Davies ei fod hefyd wedi cyfarfod â Boris Johnson ddydd Mercher.

"Mae gen i hyder yn y prif weinidog. Dwi eisiau gweld adroddiad Sue Gray yn union fel pawb arall."

Dywedodd yn ei amser ar bwyllgor safonau'r Senedd ei fod wedi dysgu "yn lle dilyn y penawdau, edrychwch ar y dystiolaeth".

Yn aml nid oes gan dystiolaeth mewn adroddiadau i'r pwyllgor "ddim perthynas â'r penawdau".

Ffynhonnell y llun, EPA

Dywedodd Tomos Dafydd Davies, dirprwy gadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, ei bod yn "anodd gweld sut y gall Boris adfer ei arweinyddiaeth".

Wnaeth e ddim galw ar Mr Johnson i fynd, ond dywedodd wrth raglen Y Byd yn ei Le ar S4C: "Mae ei awdurdod wedi suddo dros y dyddiau diwethaf. Mae'n anodd gweld sut y gall y prif weinidog droi'r polau piniwn o'i blaid."

Dywedodd fod yna "gyfochredd" rhwng yr helynt presennol a Dydd Mercher Du, a oedd yn taflu cysgod dros y Torïaid yn y 1990au.

"Y peryg yw y bydd y bennod hon yn gysgod dros arweinyddiaeth Boris Johnson am y ddwy neu dair blynedd nesaf," ychwanegodd.