Cymraeg 2050: Prif weinidog yn 'siomedig iawn, iawn, iawn'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd y prif weinidog ar y pryd yn "siomedig iawn, iawn, iawn gydag agwedd y llywodraeth yn ei chyfanrwydd" at nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, pan lansiwyd y cynllun.

Dyna ddywedodd Alun Davies, oedd yn Weinidog y Gymraeg ar y pryd, am safbwynt ei bennaeth Carwyn Jones pan lansiwyd y cynllun yn 2016.

Ychwanegodd Mr Davies fod y siom oherwydd bod y gwasanaeth sifil a Llywodraeth Cymru "yn ei chyfanrwydd ddim yn gefnogol i nod Cymraeg 2050".

"Rwy'n credu bod hynny'n newid," meddai gweinidog presennol y Gymraeg, Jeremy Miles.

Cafodd yr ymgyrch ei lansio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni yn 2016, gyda Mr Jones yn dweud y byddai ei lywodraeth yn parhau i gydnabod "cyfraniad sylweddol ein hiaith" at ein diwylliant.

Ond wrth siarad ym mhwyllgor diwylliant Senedd Cymru, dywedodd Alun Davies bod y prif weinidog wedi ei siomi'n fawr gyda'r ymateb o fewn ei lywodraeth.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Carwyn Jones amlinellu ei weledigaeth i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn yn ystod Eisteddfod Y Fenni yn 2016

Dywedodd Jeremy Miles bod "yn sicr... ymrwymiad i weithio ar y cyd i gyrraedd y nod yma" gan weinidogion presennol.

Cyfeiriodd at "enghraifft gyfredol a diweddar" yn y sector tai, pan ddaeth "adrannau Julie James, Rebecca Evans, Vaughan Gething a minnau at ei gilydd i edrych mewn ffordd sy'n eithaf heriol, efallai, i'r patrymau arferol ar beth yw'r ystod o bethau y gallwn ni eu gwneud, ac rwy'n credu bod hynny wedi bod yn greadigol iawn".

"Felly, mae lot mwy i'w wneud, ond y peth sydd yn bwysig yw bod hynny'n dangos i ni - ac rydym ni wedi gweld hyn ym meysydd Brexit a Covid hefyd - fod ffyrdd gwahanol o weithio o fewn y llywodraeth sydd yn fwy agored, os hoffwch chi, ac rwy'n credu bod maes y Gymraeg yn mynd i elwa o hynny."

Mae'r llywodraeth wedi addo £11m i brynu ac adfer tai yn y rhannau o Gymru sydd wedi eu heffeithio waethaf gan ail gartrefi, ond mae wedi ei chyhuddo o gynnig "swm pitw" o arian i daclo'r "argyfwng".

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi ddim yn cytuno bod llai o bwyslais ar hyrwyddo'r Gymraeg," meddai Jeremy Miles

Ychwanegodd y gwas sifil Owain Lloyd, Cyfarwyddwr y Gymraeg ac Addysg o fewn Llywodraeth Cymru, ei bod "yn bwysig cydnabod a sôn am y strategaeth fewnol sydd gan Lywodraeth Cymru o ran defnydd mewnol o'r Gymraeg - 'Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd' - a wnaeth gael ei gyhoeddi cwpl o flynyddoedd yn ôl".

"Mae yna brif themâu yn rhan o honno sy'n hanfodol bwysig o ran y dyfodol, sef arwain, dysgu, recriwtio a thechnoleg. Mae honna'n rhan bwysig o'r gwaith mewnol hefyd.

"Ond, yn sicr, fel mae'r gweinidog wedi cydnabod, mae wastad mwy i'w wneud a gwnawn ni barhau i wthio'r agenda honno'n fewnol."

'Diffygion o ran hyrwyddo'r Gymraeg'

Dywedodd Alun Davies hefyd mai "un o'r siomau ym mholisi iaith Llywodraeth Cymru yn ystod y rhai blynyddoedd diwethaf yw y diffygion o ran hyrwyddo'r Gymraeg".

"Dwi'n gwybod, pan wnes i gyflwyno strategaeth 'Cymraeg 2050', roedd hyrwyddo yn rhan hanfodol o hynny - canolog, buaswn i'n dweud - a dwi wedi bod yn siomedig nad yw hynny wedi aros yn ganolog i bolisi diweddar Llywodraeth Cymru."

Ymatebodd Jeremy Miles: "Dwi ddim yn cytuno bod llai o bwyslais ar hyrwyddo'r Gymraeg."

Ychwanegodd: "Rwyf i wedi bod yn glir o'r cychwyn mai defnydd y Gymraeg yw'r nod o'm safbwynt i - bod creu hawliau yn bwysig a bod creu siaradwyr yn bwysig, wrth gwrs, ond bod galluogi defnydd i ddigwydd o ddydd i ddydd yn gwbl ganolog i hynny."