Car dyn fu farw wedi ei 'wthio i gefn lori' ar yr A55

  • Cyhoeddwyd
Marc Winston RobertsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Marc Winston Roberts yn 52 oed ac yn dod o ardal Amlwch ar Ynys Môn

Mae cwest i farwolaeth dyn 52 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A55 fis diwethaf wedi cael ei agor a'i ohirio.

Bu farw Marc Winston Roberts o Amlwch wedi gwrthdrawiad rhwng dau gar a dwy lori HGV yn oriau mân y bore ar 20 Ionawr ger Pont Britannia.

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon bod car Mr Roberts yn llonydd ar lôn orllewinol yr A55 wrth aros ger goleuadau traffig.

Fe darodd cerbyd gyda threlar llawn "i mewn i gefn car Mr Roberts", gan achosi i'w gar gael ei wthio i lori HGV oedd o'i flaen, clywodd y cwest.

Dywedodd y crwner Katie Sutherland mai achos marwolaeth Mr Roberts oedd anafiadau "i'w wddf a'i frest".

Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru bod gyrrwr lori 38 oed o Ynys Môn wedi cael ei arestio a'i ryddhau tra bo'r ymchwiliad i'r gwrthdrawiad yn parhau.

Gan fod yr ymchwiliad yn mynd rhagddo, cafodd y cwest ei ohirio.