Heddlu'n ymddiheuro am ymateb i anhrefn Mayhill

  • Cyhoeddwyd
Ceir wedi eu llosgi yn Mayhill
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd degau o bobl eu harestio wedi'r digwyddiad ond does neb wedi wynebu cyhuddiadau troseddol

Mae'r heddlu wedi cael eu beirniadu mewn adolygiad annibynnol am eu hymdriniaeth o derfysg a ddechreuodd yn Abertawe.

Mae Heddlu De Cymru bellach wedi ymddiheuro i drigolion am fethu "gweithredu'n ddigon cyflym".

Cafodd ceir eu llosgi a chwalwyd ffenestri yn ardal Mayhill ar ôl i wylnos i ddyn ifanc fu farw droi'n dreisgar.

Yn ddiweddarach condemniodd tad Ethan Powell, Jonathan Russ, y rhai a derfysgodd yn wylnos ei fab ym mis Mai 2021.

Cafodd saith plismon eu hanafu a degau o bobl eu harestio - ond does neb, hyd yn hyn, yn wynebu cyhuddiadau troseddol.

Ffynhonnell y llun, Social Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tân ei gynnau mewn car a chafodd ffenestri eu torri ar 20 Mai

Cafodd yr adolygiad ei gynnal ar y cyd rhwng Cyngor Abertawe, Heddlu De Cymru a'i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu gan banel a oedd yn cynnwys y cadeirydd yr Athro Elwen Evans QC, yr arbenigwr heddlu Martin Jones a'r ymgynghorydd llywodraeth leol Jack Straw.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan: "Rwyf am ymddiheuro i bawb sydd wedi'u heffeithio gan y digwyddiad hwn ac yn enwedig y trigolion lleol a gafodd eu poenydio gan y rhai oedd yn gyfrifol.

"Fe fethon ni â gweithredu'n ddigon cyflym ar y noson ac mae'n wir ddrwg gen i am hynny."

Yn ôl yr adroddiad, roedd adeg lle'r oedd trigolion Heol Waun Wen "mewn perygl, dan risg ac heb eu gwarchod gan yr heddlu".

Mae'n dweud bod dau uwch swyddog wedi gofyn am gefnogaeth gan swyddogion arbenigol ar y noson - ond bod y ddau gais wedi eu gwrthod.

O ganlyniad, mae'r adroddiad yn awgrymu bod gan yr heddlu waith "sylweddol" i wneud i adfer ymddiriedaeth a hyder.

Argymhellion i'r heddlu

Mae'r panel yn awgrymu:

"Dylid ystyried comisiynu ymchwiliad fforensig ar frys er mwyn cynhyrchu adroddiad. Roedd y panel wedi tybio y dylai hyn fod yn rhan allweddol o unrhyw adolygiad.

"O ystyried bod y cyhoedd eisoes yn ymwybodol am lawer o'r wybodaeth ynglŷn â'r methiannau ar y noson, dylai'r heddlu ystyried gwneud datganiad i'r cyhoedd. Byddai'r panel yn awgrymu y dylai hyn gynnwys ymddiheuriad a datganiad yn dweud eu bod yn barod i ddysgu."

Pynciau cysylltiedig